BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

IAU
10fed Gorffennaf 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Eco'r Wyddfa
Hel grawn torgoch Ar Ben Arall y Lein
Mawrth 2010
Huw Price Hughes gyda'r diweddaraf o'r byd pysgota.

Dyma ni ar drothwy'r hir ddisgwyliedig ddydd, sef 3 Mawrth, a dechrau tymor arall.

Be ddaw ein ffordd yn ystod y flwyddyn, tybed?

Mae un peth yn sicr, roedd 2009 yn gyfnod pryd y bu'n rhaid i'r Gymdeithas wynebu'r her fwyaf, o bosib, yn ei hanes.

Her, os na fyddai'n bosib ei goresgyn, a allai fygwth bodolaeth y Clwb i reoli dyfroedd y Seiont a Llyn Padarn.

Mor ddifrifol yw'r sefyllfa mae hyd yn oed Asiantaeth yr Amgylchedd, a oedd yn llusgo ei traed ac yn gwadu fod unrhyw beth o le, wedi newid eu cân ac, ar ddechrau Rhagfyr, fe welwyd rhwydi yn cael eu gosod yn Afon y Bala i ddal torgochiaid pan ar fwrw grawn.

Rwyf ar ddeall fod oddeutu 10,000 o wyau wedi eu casglu a'u trosglwyddo i ddeorfa'r Asiantaeth yn Nolgellau.

Bydd y torgochiaid bach wedyn yn cael ei rhoi allan yn un o lynnoedd Eryri, a hyn i warchod y straen unigryw o Dorgoch Padarn.

Mae'r weithred yma, wrth gwrs, yn cadarnhau fod holl ddyfodol y torgoch yn Padarn dan fygythiad enfawr, a hyn i gyd oherwydd esgeulustod mawr ar ran y sefydliadau sydd i fod i warchod yn erbyn trychinebau o'r fath.

Ble mae hyn i gyd yn gadael y Gymdeithas, medda chi - wel yn ystod y misoedd diwethaf mae cryn brysurdeb wedi bod gan ein cynrychiolwyr, sef cyfreithwyr 'Fish Legal'.

Un cam mawr ganddynt oedd trefnu archwiliad annibynnol gan gwmni o arbenigwyr amgylcheddol o Aberdeen, ac mae'r adroddiad yn feirniadol dros ben.

Ond mae wedi gwneud un peth, sef dod a'r rhai sydd a cyfrifoldeb dros lendid dyfroedd Padarn at ei gilydd ac i weithredu, o'r diwedd, gyda meddyliau positif tuag at oresgyn y broblem.

Un cam enfawr yw fod cwmni Dwr Cymru wedi newid eu cân yn hollol ac o'r diwedd yn codi ei gem ac mae gwelliannau mawr wedi eu gwneud i'w dull o reoli sustem carthffos Llanberis.

Yn ystod ein cyfarfod ar ddiwedd Hydref 09 roedd y cwmni yn gadarn nad oedd a wnelo problemau'r llyn ddim o gwbwl â'u dull nhw o weithredu.

Yn ystod ein cyfarfod diweddaraf ar ddiwedd Ionawr eleni cawsom adroddiad manwl o'r gwaith sydd wedi ei gario allan ac sydd eto i'w wneud.

Bydd hyn, gobeithio, yn lleihau yn sylweddol yr arllwyso cyson o ffosffadau i'r dyfroedd.

Ond, wrth gwrs, nid dyma ddiwedd y daith! Erbyn Ebrill bydd canlyniadau samplau craidd o waelod y llyn i law, a fydd yn rhoi goleuni ar beth yw lefelau y ffosffadau wedi bod dros y blynyddoedd.

Bydd hyn, yn ogystal a gwaith casglu data arall sy'n mynd ymlaen, yn galluogi'r arbenigwyr i benderfynu maint llwyth y ffosffadau a ddylid eu caniatáu i'r llyn.

Yn ôl cyflwr y dyfroedd am bedwar mis yng nghanol 2009 mi fuaswn i, fel lleygwr, yn mentro dweud heb flewyn ar fy nhafod na ddylid caniatáu dim llwyth o gwbwl.

Ond, i fod yn deg, efallai mai dyma fydd yn cael ei adrodd.

Yn anffodus, yn y byd sydd ohoni heddiw, mae'n rhaid dilyn y camau hirfaith yma rhag, ar ddiwedd y dydd, i Ddwr Cymru gymryd achos llys a dweud fod y camau priodol heb eu dilyn i ddod i'r canlyniad.

Ydi'r byd 'ma wedi mynd o'i gof, ta be?

Mater i'w gysidro - os bydd argymhelliad Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn adrodd na fydd yn bosib arllwys dim rhagor p ffosffadau i Lyn Padarn, a fydd raid pibellu y cwbwl o garthffos Llanberis i waith Caernarfon neu Treborth - wel dyna stori arall.

Heblaw am broblemau Padarn mae llawer iawn o waith ardderchog wedi mynd ymlaen dros fisoedd y gaeaf, drwy greu camfâu ac adeiladu stepiau newydd, a hyn i gyd i greu mynediad mwy hwylus i'n dyfroedd.

Mae cryn dipyn o'r gwaith yma wedi cael eu wneud yng nghyffiniau Pont Rug, ond un problem fawr sy'n ein wynebu yw, fel mae ein aelodau yn creu mynediad gwell mae pawb dan yr argraff ei bod yn iawn iddynt gerdded ein tiroedd.

Dydi hyn ddim yn ddrwg o beth ar adegau, ond mae rhai yn mynnu mynd a'u cŵn gyda hwy, gan feddwl mai tŷ bach i'w anifeiliaid yw'n llwybrau pysgota.

Mae'r broblem yma ar ei gwaethaf ym Mhont Rug a hefyd Pontllyfni.

Ar y Llyfni mae'r clwb mewn perchenogaeth tir sy'n ymestyn o'r ffordd fawr hyd at y traeth ac mae'r lle yn warthus gyda baw.

Mae Cyngor Cymuned Clynnog Fawr, yn ôl pob golwg, am geisio gwneud ein llwybr yn y fan hyn yn llwybr cyhoeddus, ac felly mwy o gŵn - os ydi hyn yn bosib!

Os bydd ei hymdrechion yn llwyddiannus, beth fydd cyfrifoldeb y cyngor am lanhau'r lle, tybed?

Mis nesaf dwi'n addo dim ond trafod pysgota, os na fydd rhywbeth arall wedi codi ei ben, yndê!

Huw Price Hughes

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy