"Be dwi'n ei gofio fwyaf am Celyn yw bod fy nhad a mam a 'nheulu yn siarad am y boddi 'ma oedd yn mynd i ddigwydd.
"Roedd 'na sôn adre ar y ffarm beth oedd yn mynd i ddigwydd i'r bobl ar ôl iddyn nhw gael eu hel o'u cartrefi. Ond doedd neb yn gwybod dim byd. Doedd pobl yr ardal ar y pryd ddim yn gallu cymryd beth oedd yn digwydd i fewn oherwydd 'doedden nhw ddim yn deall fod gan lywodraeth Lerpwl y dechnoleg i fedru boddi cwm cyfa' - roedd rhoi argae drosto a'i lenwi efo dŵr yn anhygoel iddyn nhw, ond fe 'da ni'n gwybod heddiw, mi ddaru nhw wneud hynny, ac yn hawdd hefyd.
"Wrth gwrs, doeddwn i ddim yn dallt yn iawn beth oedd yn digwydd, ond roeddwn i yn dallt fod 'na bryder mawr ynghylch y bobl fyddai'n byw yn y cwm ar ôl i'r gymdeithas i chwalu. Lle 'roedden nhw am fynd i'r capel ac i gyfarfod? Roedd yn amser o drybini mawr i bobl Celyn.
"Fi oedd un o'r plant ola' i gael ei dderbyn i Ysgol Celyn. Wrth fynd i'r ysgol bob dydd, 'dwi'n cofio gweld y cwm yn cael ei ddinistrio gan y peiriannau mawr 'ma. Roedden nhw'n anferth - yn gwneud sŵn mawr a'r ysgol yn crynu wrth iddyn nhw fynd heibio yn cario'r llwythi o bridd yn ôl ac ymlaen.
"Beth sy'n sticio yn fy nghof i fwya' ydy clywed sŵn y chainsaws yn gwneud sŵn buzzian drwy'r dydd, a gweld y coed yn cael eu towlyd o bellter, a sŵn y coed wrth iddyn nhw ddisgyn i lawr. Roedd y coed fel petasen nhw'n sgrechian, ac roedd yn dod yn agosach ac yn agosach at yr ysgol.
"Fydde ni'n cerdded adref wedyn, a gweld lyris yn pasio, bois yn siarad Saesneg, a'r tai yn cael eu chwalu - yn dod yn agosach ac yn agosach.
"Rhywbeth arall sy'n sefyll yn fy nghof i ydy mynd i'r ysgol ar y diwrnod ola'. Mi ddywedodd un o'r plant hŷn: "Miss, Miss. Ydy o'n wir bod nhw am chwalu'n hysgol ni?"
A dyma Mrs Martha Roberts yn dweud: "Yndi blant, mae o'n wir, maen nhw'n mynd i chwalu'r ysgol a chario'r cerrig i wneud yr argae, a heddiw fydd y diwrnod olaf fyddwn ni'n eistedd yma fel ysgol. 'Den ni'n mynd i dynnu lluniau rŵan."
"Roedd yna newyddiadurwyr o gwmpas pan adawon ni'r ysgol. Dyma ni'n mynd allan, a Mrs Roberts yn tacluso yn union fel bydde hi'n ei wneud tase fo'n ddiwrnod cyffredin, a'n bod ni am fynd nôl fory, ond wrth gwrs 'doedden ni ddim am fynd yn ôl fory.
Ymlaen i'r ail dudalen