"Hwn yw'r hen ysbyty ar gyfer y chwarelwyr a oedd yn gweithio yn Chwarel Dinorwig. Y syniad oedd cael ysbyty a oedd yn agos i'r chwarel, i'r chwarelwyr fod yn ddigon agos i fynd yn ôl i'r gwaith ar ôl cael triniaeth. Roedd yr ysbyty ym Mangor dros 10 milltir i ffwrdd o Lanberis - pell iawn cyn cyfnod ceir a ffyrdd fel heddiw.
"Roedd dros 3,000 yn gweithio yn y chwarel ac roedd 'na lot o ddamweiniau - a rheiny ddim yn rhai neis o gwbwl: lot o golli bysedd, anafiadau o gael eu gwasgu, torri esgyrn ac yn y blaen.
"Roedd yr ysbyty yn un o'r rhai cyntaf yn y wlad i ddefnyddio Pelydr X. Mae'r hen beiriant yn dal yma - mae'n eithaf erchyll i edrych arno, er nad ydy'r dechneg o gymeryd Pelydr X heb newid gymaint â hynny mewn canrif.
"Fe wnaethon nhw ddarganfod Pelydr X yn yr Almaen yn 1896, ac erbyn 1898 roedd ganddynt beiriant yma yn y chwarel a'r ysbyty oedd un o'r adeiladau cyntaf i gael trydan yn y cwm. Hefyd, hwn oedd y lle cyntaf i gael un tap dŵr poeth ac un oer a oedd yn eithaf da yn yr oes honno.
"Mae yna hen fferyllfa yma hefyd, o'r cyfnod pan fyddent yn defnyddio meddyginiaeth allan o focsys a photeli yn lle jest rhoi tabledi allan fel heddiw.
"Mae theatr llawdriniaeth yma hefyd, gyda hen offer fel skill saw i dorri bysedd i ffwrdd - pob math o bethau.
Roeddent yn defnyddio peiriant y Lister spray. Byddent yn berwi asid carbolig yn y lister a byddai'r chwistrelliad yn dod allan fel niwl dros y bwrdd triniaeth er mwyn stopio gwenwyn rhag mynd i'r gwaed. 'Doedd prin ddim septisemia yn yr ysbyty, i feddwl nad oedd gwrth-fiotig ar gael yr adeg honno. Y peth pwysig oedd cadw popeth yn lân - roeddent yn deall o'r cychwyn fod germau yn gallu cael eu pasio o un peth i'r llall.
"Mae 'na hefyd enghraifft o fainc archwilio yma, sydd ddim fel soffa o gwbwl ond ychydig fel potel ddŵr poeth enfawr. Mi fydden nhw'n rhoi dŵr poeth ym mhledren y bwrdd er mwyn codi gwres y claf - does 'na ddim lle llawer oerach na diwrnod o aeaf yn y chwarel.
"Roedd y llawfeddygon yn gwneud pob dim yma. Os oedd na ddamwain difrifol, roedd yn gyfle iddyn nhw roi tro ar driniaeth nad oeddent wedi ei gwneud o'r blaen. Doedd y chwarelwyr eu hunain ddim gwerth gymaint a hynny.
"Un doctor arbennig iawn i weithio yma oedd Dr Mills Roberts, oedd yma droad y ganrif. Roedd hefyd yn chwarae pêl-droed i Preston North End, un o'r timau a sefydlodd y Gynghrair Pêl-droed. Roedd yn aelod o'r tîm cyntaf i guro'r gynghrair ac ennill cwpan yr FA tua 1890. Gweithiodd yma tan iddo fynd i gwffio yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Parhaodd yr ysbyty yma nes i'r NHS cychwyn yn y 1950au. Roedd yn orsaf cymorth cyntaf tan i'r chwarel gau yn y 1960au.
"Yn anffodus, pan gaewyd yr ysbyty cafwyd gwared â phopeth ac roedd yr adeilad ar gau tan i sefydliad y Parc Genedlaethol ei berchenogi flynyddoedd wedyn. Ond yn ffodus, roedd gan rywun y weledigaeth i gadw lot o'r peiriannau a'r offer yn ddiogel yn yr archifdy ac felly roedd yn bosib ei agor er mwyn i ymwelwyr weld sut oedd yr ysbyty unigryw yma yn gweithio - un o'r unig ysbytai o'i bath ym Mhrydain."
Mwy o hanes meddygon a chleifion y chwareli gan Dr Edward Davies.