BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
29ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y wawr yn torri dros yr Wyddfa (Dave Newbould) Adnabod Ardal - yr Wyddfa
Mae'r ardal hon yn gartref i fynydd uchaf Cymru a Lloegr a hen chwareli llechi Eryri. Arwel Jones o Benisarwaun sy'n ein harwain o amgylch bro papur Eco'r Wyddfa.

Mae hanes hir, cythryblus, ac eto rhamantus i'r fro yma sy'n ymestyn o Landdeiniolen i'r Waunfawr. Cyfrifid Dyffryn Peris yn un o'r dyffrynnoedd rhyfeddol bwysig rheiny oedd yn ddihangfa i mewn ac allan o Eryri. Dyma'r tir a chwydwyd o groth y ddaear filiynau o flynyddoedd yn ôl yn llosg fynyddoedd talgryf a geirwon cyn cael eu llunio a'u cerfio gan ddau Oes Iâ, ac yna gan wyntoedd cryfion di drugaredd a glaw di-dor oesau meithion.

Yng nghesail y caerau oesol hyn y sefydlwyd sawl cwmwd a phentref dros y canrifoedd. Mae enwau'r mynyddoedd sy'n amgylchynu Dyffryn Peris yn fiwsig o hyd i'r glust - Cefn Du, Y Clegir, Dinas, Caerhyd, Moel Eilio, Cefn Drum, Craig Cwmdu, Foel Goch, Bwlch Gwyn, Bwlch Cwmcesig, Cwm Dwythwch, Foel Gron, Maesgwm, Moel Cynghorion.

A dyna i chi "Yr Wyddfa a'i chriw" megis Clogwyn Du'r Arddu, Llechog, Crib y Ddisgl, Clogwyn Person, Ysgarlwyd, Crib Goch a'r Derlwyn, ac yna ar draws y dyffryn Y Gluder Fawn Gam, Elidir Fawr, Elidir Fach, Mynydd Perfedd, Garnedd y Filiast, Moel Rhiwen ac yn warchodle i geg y dyffryn - yr hen gaer Geltaidd - Dinas Dinorwig.Crib Goch (Pete MacMillen)

Yn swatio yn uchel yn y Grog ddyffrynnoedd y mae llynnoedd Arddu, Dwythwch, Cwn a Chwm Glas. Llifa dyfroedd y rhain i'r llynnoedd mawrion ar lawr y dyffryn - Peris a Phadarn. Dyma enghraifft o un llyn mawr wedi ei rannu ('ribbon lakes') gyda rhan newydd o Lanberis wedi ei godi ar y bala.

Yma, yn un o'r llynnoedd erbyn hyn, y triga'r pysgodyn Oes yr Iâ rhyfeddol hwnnw - Y Torgoch. O'r rhain fe lifa'r dyfroedd ar hyd gwely troellog yr Afon Saint neu'r Seiont i Fae Caernarfon. Dim rhyfedd fod yr ardal yn dynfa fythol i ddaearegwyr, daearyddwyr a botanegwyr o bob rhan o Ynysoedd Prydain.

Maent yn sangu ar rai o greigiau hynna'r byd, yn chwilota am blanhigion Alpaidd prin ac yn cael eu hamgylchynu gan ddyffrynnoedd a mynyddoedd sy'n cynnwys nodweddion clasurol effeithiau rhewlifau Oes yr Iâ.

'Mewnlifo tymhorol'

Yn ychwanegol at y dysgedig rai, daw y dringwyr a'r fflud o dwristiaid tymhorol. Cân nhw eu croesawu â breichiau agored gan rai, a'u melltithio gan eraill. Y gwir yw fod y mewnlifo tymhorol yma wedi cychwyn dros ddwy ganrif a rhagor yn ôl, yn ystod cyfnod "Y Teithwyr" ac wedi datblygu ers hynny i fod yn brif gyfrwng bywoliaeth llawer yn y fro.

Gwelodd sawl un botensial i'r diwydiant 'newydd' yma ac erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd pobl yn llifo i'r ardal i brofi dyfroedd llesol Afon Cegin a theithio i ben Yr Wyddfa ar drên! Erbyn hyn, mae'r ardal yn cael ei chydnabod yn chwaraele awyr agored i filoedd.

Ras yr WyddfaMae Ras yr Wyddfa wedi datblygu ac wedi sefydlu ei hun bellach fel un o rasus ucheldir gorau Ewrop os nad y byd. Felly hefyd Marathon Eryri sy'n cael ei gyfrif ymhlith y rhai mwyaf anodd. Cynhaliwyd dwy gystadleuaeth yr 'Ironman' yn y dyffryn, ond digon ansicr yw ei pharhad bellach. Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu 'Snowdome' enfawr yn Glynrhonwy Llanberis, cynllun fyddai'n denu miloedd i'r ardal bob dydd o'r flwyddyn.

Cewri a thylwyth teg

Tybed beth fyddai cewri a chawresau Oes y Cerrig wedi ei ddweud am y datblygiadau modern hyn? Dyma drigfannau awyr agored a mannau ymarferiadau gorchestol Cidwm Gawr, Rhita Gawr, Igyn Gawr, Ebediw a Chawres Peris. Rhain yn ôl chwedloniaeth a wnaeth y fath lanastr caregog yn Nyffryn Peris ac ar gopaon y mynyddoedd uchel!

Tybed a'i eu disgynyddion hwy oedd Ffoulk Jones, Ty Du, Marged Fwyn 'erch Ifan a Cadi'r Cwmglas. Pobl y ddeunawfed ganrif oedd rhain yn enwog am eu cryfder a'u campau ymgodymu gorchestol.

Ond os bu i'r cewri adael eu hôl ar yr ardal mae'r Bobol Bach neu'r Tylwyth Teg wedi britho'r fro a'u gorchestion stimrwg! Dyma drigolion oes cyn-Neolithig. Mae hanesion rhyfeddol am Dylwythau Teg Cwm Glas, Maen Du'r Arddu, Cwm Dwythwch, llethrau Moel Eilio, y Garreg Lefain a mannau eraill wedi goroesi.

Dyma hefyd chwaraele Marchogion Arthur. Ceir gyfeiriadau mynych heddiw at fannau sy'n gysylltiedig â'r arwr. Mae ardal Penisarwaun yn arogli o oes Arthuraidd. Dyma leoliad Cegin Arthur, Afon Cegin a Ffynnon Cegin Arthur ac ar draws y dyffryn ar lethrau Cefn Du saif Coetan neu Garreg Arthur. Uwchlaw Llyn Marchlyn Mawr yng nghesail yr Elidir y mae Ogof Arthur.

Ymlaen i hanes Dolbadarn, y chwarelwyr ac enwogion cylch yr Wyddfa: tudalen 2, tudalen 3

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy