|
Anheddiad o Oes yr Haearn wrth droed Mynydd Caergybi ger Ynys Lawd. Mae'n werth ei weld gan fod olion 20 o'r 50 cwt crwn gwreiddiol wedi goroesi. Maent yn cynnwys olion 10 cwt crwn mawr o garreg sydd wedi eu gwasgaru ar hyd ochr y mynydd, yn ogystal â nifer o adeiladau llai, petryal, a oedd, o bosib, yn cael eu defnyddio fel gweithdai. Mae tystiolaeth o weithio metel wedi ei darganfod yn yr adeiladau yma.
Yn rhan ddwyreiniol y safle mae grŵp arall o gytiau. Mae'r cytiau crwn tua 7m mewn diamedr gyda waliau trwchus, isel. Fe fyddai to uchel, conigol, wedi ei ddal gan gylch o bolion, wedi bod arnyn nhw ac fe fydden nhw wedi cael eu toi gan wellt neu frwyn. Mae tystiolaeth fod pobl wedi byw yma dros gyfnod hir o ganol Oes y Cerrig i'r Oes Neolithig, yr Oes Efydd ac i mewn i Oes yr Haearn. Mae'n cael ei gynnal gan Cadw. Cyfarwyddiadau
Hawdd mynd ato. O ganol tref Caergybi, dilynwch y ffordd i'r Harbwr Allanol, yna dilynwch yr arwyddion am Ynys Lawd (4.75 cilomedr). Parciwch yn y maes parcio ar y chwith, ychydig dros 0.6 cilomedr ar ôl ichi droi i'r dde. Mae arwyddion i'ch arwain at y cytiau a gallwch eu gweld drwy'r flwyddyn ond mae rhedyn yn cuddio olion yr hen gaeau yn yr haf.
 |