BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Eglwys Ganol Oesol yn Llwydfaen ger Caerhun Hanes o'r awyr
Os nad yw ein hanes yn weladwy o'r ddaear, beth am edrych lawr arno o'r awyr? Toby Driver sy'n chwilio am olion archeolegol o'r awyr.
Cyfle i weld yr ardal o'r awyr.

Mae rhai pethau o bwys archeolegol mond wir yn weladwy o'r awyr. Mae tirlun gogledd Cymru wedi cael ei aredig droeon ers y Canol Oesoedd felly mae olion ein hanes wedi ei cuddio.

Ond yn yr haf, yn enwedig ar ôl sychder, mi wnaiff y cnydau a'r glaswellt sychu gan amlygu cyfrinachau hanes yr ardal wrth i ni hedfan uwchben.

Yr haf gorau i mi oedd 2006. Ddaru ni ddod o hyd i ugain o Geiri Canol Oesol newydd ym Mhen Llŷn; roedd un o dan gae pêl-droed yn Efail Newydd. Mae o wir yn gwneud i chi ystyried eto sut le yw/oedd eich pentref neu dref.

Yn 2006 ddaru ni hefyd ddarganfod sylfaen eglwys Ganol Oesol yn Llwydfaen ger Caerhun (Conwy). Rydym yn tybio ei bod yn dyddio yn ôl i 1088, pan roedd y Normaniaid yn ceisio lledaenu eu dylanwad dros ardal Deganwy. Ond wedyn ddaru Tywysogion Gwynedd ymestyn allan i'r dwyrain ac unai ddaru nhw byth gorffen adeiladu'r eglwys neu yr oedd yn un pren, gan nad oes strwythur cerrig erioed wedi sefyll ar y sylfaeni.

Ychydig iawn o safleoedd fel yma sydd yng Nghymru, felly roedd yn wych darganfod yr eglwys yma. Wrth ffilmio'r rhaglen deledu Hidden Histories, ddaru ni wahodd y ficer lleol i ddod draw ac er mai tir fferm ydy o, mae o am gynnal gwasanaeth ar y safle.

Ddaru ni hefyd ddarganfod gwersyll Rhufeinig ger Brithdir. Rydym yn meddwl mai caer i filwyr aros ynddi dros nos oedd o, wrth iddynt fynd ar ymgyrchoedd i goncro'r ardal.

Mae lonydd Rhufeinig hefyd yn gyffro i'w ddarganfod o'r awyr. Roedd wastad wedi bod sôn am lon o Abergwyngregyn i Fangor a draw i Gaernarfon ac o'r diwedd, daeth i'r amlwg, eto yn 2006. Roedd y Rhufeiniaid yn beirianwyr sifil o fri ac felly roedd yn bosib gweld amlinelliad y graean oedd ar wyneb y ffordd, nawr o dan y glaswellt, o'r awyr, yn ogystal â'r pyllau graen pob ochr i'r ffordd.

Cyfnod cyffroes arall oedd yr Oesoedd Tywyll ac ymweliad y Llychlynwyr. Ddaru ni ddarganfod setliad Llychlynnaidd ger Llanbedrgoch (Ynys Môn) ac rydym yn sicr fod yna lawer mwy yn yr ardal, yn ogystal ag olion llysoedd y tywysogion Cymreig.

Peth arall i ni ddarganfod o'r cyfnod yma oedd beddi, neu grugiau mawr sgwâr, o dan gae pêl-droed. Byddai boneddigion y cyfnod wedi cael eu claddu yn y rhain.

Mae'r gaeaf hefyd yn gallu bod yn amser da i gael lluniau diddorol o'r awyr, yn enwedig pan fo'r golau yn isel a 'bach o eira ar y tir. Rydym wedi darganfod sawl fferm a chaer Canol Oesol ar uwchdiroedd Gwynedd adeg yma o'r flwyddyn.

Ond mae'n siŵr mai'r peth pwysicaf rydym erioed wedi ddarganfod wrth hedfan dros y wlad yw'r sarnau caeedig sy'n dyddio yn ôl chwe mil o flynyddoedd. Roedd y rhain ymhlith yr adeiladau cyntaf ym Mhrydain, ym mhell cyn Stone Henge. Mae yna rai yn Sir Benfro ac un ar Ynys Môn, er rydym yn ffyddiog fod yna lawr mwy ohonynt yng Nghymru. Nid ydynt yn hollol gaeedig fel caer amddiffynnol; mae yna fylchau yn y waliau cerrig i adael pobl i fynd a dod, yn debyg i farchnad.

Er nad ydym wedi cael haf cyn boethed a 2006, ddaru ni hel digon o luniau o olion hanesyddol i'n cadw yn brysur am flynyddoedd i ddod!

Toby Driver o'r Comisiwn Frenhinol Henebion Cymru.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy