BBC HomeExplore the BBC

IAU
10fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwarel y Penrhyn Creithiau'r Streic Fawr
100 mlynedd yn ddiweddarach...
Mae'r stori hon yn cychwyn fwy na 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan grëwyd caenau llechi gogledd-orllewin Cymru gan symudiadau folcanig a brigwthiadau daearegol anferth.
Yng Nghymru mae hyn yn fwy na gosodiad daearegol syml, oherwydd mae hon yn wlad lle mae daeareg yn wyddoniaeth cymdeithasol; gwlad sydd â'i hanes wedi cydgysylltu'n agos â siâp a gwneuthuriad y creigiau y ffurfiwyd hi ohonyn nhw.

Yn rhannol, y cyfychluniau sy'n gyfrifol. Profodd tirwedd fynyddig Cymru i fod yn rwystr i oresgynwyr Sacsonaidd, yna i Normaniaid, ac fe amddiffynnodd ddatblygiad cymdeithas Geltaidd ar gyrion y genedl-wladwriaeth gryfaf yn y byd yn ei dydd.

Hefyd mae'r cynnwys yn gyfrifol. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, darparodd y mynyddoedd hyn y cyfoeth mwynol a adeiladodd genedl fodern Cymru ac a ddylanwadodd yn fawr ar y strwythur gymdeithasol, y dosbarthiad, y boblogaeth a'r ymddangosiad ffisegol mae'r wlad wedi ei etifeddu heddiw.

Chwarel y PenrhynCymoedd de Cymru yw'r esiampl berffaith o hyn, ond mae hefyd yn wir am rannau o orllewin Cymru, o ogledd-ddwyrain Cymru, ac yn enwedig o ardaloedd chwarelyddol gogledd-ddwyrain Cymru, lle mae gweithiau oriel cenedlaethau o chwarelwyr wedi trawsffurfio'r mynyddoedd i fod yn sigwratau llwyd grisiog.

Yn ei ddydd roedd diwydiant llechi Cymru unwaith yn cyflogi miloedd o bobl, yn anfon ei gynnyrch o gwmpas y byd ar y rheilffyrdd a'r môr, gwnaeth rhai buddsoddwyr yn gyfoethog iawn, a gwnaeth eraill yn fethdalwyr. Yn anterth y diwydiant, yn rhan olaf y 19eg Ganrif, fe drodd yr elw anferth a wnaed o lechi ardaloedd anferth o Ogledd Cymru i fath o Klondike Celtaidd, gyda hapfuddianwyr, cwmnïau a grwpiau bychain o weithwyr mentrus yn agor degau o gloddfeydd newydd yn y gobaith o wneud ei ffortiwn o aur llwyd Gwynedd.

O gwmpas y gweithiau hyn y tyfodd y cymunedau a gyflenwodd y gweithlu - llefydd tebyg i Blaenau Ffestiniog, Talysarn, a Bethesda.

Castell y PenrhynYn wahanol i ardaloedd glofaol de Cymru a oedd yn ymledu yn ystod yr un cyfnod, doedd yr ardaloedd chwarelyddol ddim yn denu gweithlu o'r tu allan i Gymru i raddau helaeth, ond yn hytrach o ardaloedd gwledig gogledd-orllewin Cymru.

Y canlyniad oedd rhwydwaith o gymunedau a oedd i raddau helaeth yn Gymraeg eu hiaith, ac mae hynny'n dal yn wir heddiw. Roedden nhw hefyd yn anghydffurfiol eu crefydd ac yn radical eu gwleidyddiaeth. Yn y cymunedau hynny roedd arian sbâr prin y bobl - a gâi ei gyfri mewn ceiniogau - yn mynd i adeiladu capeli ac i ariannu addysg gymunedol, yn fwyaf nodedig helpu i sefydlu Prifysgol Cymru.

Roedd y gwerthoedd hynny mor wahanol i rai perchnogion y chwareli, a oedd, i raddau helaeth, yn geidwadol, yn Saesneg eu hiaith ac yn Anglicanaidd. Roedd eu harian sbâr toreithiog - a gyfrwyd mewn miloedd - yn mynd ar fuddsoddiadau tramor neu ar brosiectau personol fel y castell Penrhyn ffantasi a adeiladwyd ar gyrion Bangor, ac sydd nawr yn adeilad nodedig o eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ymlaen ...

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy