Gwybodaeth am ddathliadau 250 ers genedigaeth Telford ...
"Roeddwn yn gyfarwyddwr adran priffyrdd Cyngor Gwynedd tan ddiwedd 2003, ac ers hynny dwi wedi cymryd rôl y pwynt cyswllt ar gyfer panel Sefydliad Peirianwyr Sifil Gogledd Cymru. Mae fy ngwaith yn ymwneud â hanes gweithiau peirianneg sydd yn arwyddocaol i hanes peirianneg sifil yr ardal.
Yn amlwg, mae pontydd y Fenai yn bwysig ofnadwy o fewn hanes peirianneg sifil, yn arbennig i'r ardal yma. Os ydych chi'n mynd nôl 200 mlynedd, roedd y penderfyniad i ddefnyddio Caergybi fel y porth i Iwerddon yn un pwysig gan mai dyma'r rheswm dros adeiladu'r bont yn y lle gyntaf. Roedd Thomas Telford yn adeiladu'r ffordd o'r Amwythig i Gaergybi ac roedd y bont yn rhan bwysig o'r gwelliant yma i'r ffordd o Lundain i'r Iwerddon.
Porthdinllaen oedd y prif le arall i gael ei ystyried fel y porthladd i Iwerddon, ond yn y pendraw, penderfynwyd defnyddio Caergybi.
Pont Menai oedd y bont grog (suspension) fwyaf o'i bath ar y pryd, a dwi'n meddwl ei bod wedi creu pennod newydd mewn adeiladu pontydd ar y pryd. Mae 'na bontydd crog rŵan sy'n defnyddio gwifrau dur ac sy'n llawer hirach na Phont Menai, ond Pont Menai oedd y gyntaf.
Yna yng nghanol y 19fed ganrif daeth y rheilffordd, a defnyddiwyd llwybr o Gaer i Gaergybi fel llwybr y rheilffordd i Iwerddon. Roedd rhaid i Stevenson adeiladu pont newydd ar gyfer hynny felly, a thrwy hynny datblygodd ffordd newydd o adeiladu pontydd trwy ddefnyddio tiwbiau. Mae pont Conwy ger y castell yn un tiwb hefyd, ond doedd y bont honno ddim cymaint o ran maint â Phont Britannia. Roedd angen wyth tiwb i adeiladu'r bont dros y Fenai.
Ond, yn 1970 collwyd y bont mewn tân ac ers hynny roedd rhaid addasu'r bont i sut mae hi rŵan. Yr adeg honno, roedd yn bosib adeiladu dec arall ar gyfer ceir a lorïau, uwchben y trac rheilffordd.
Roedd yn dipyn o dasg ailadeiladu'r bont gan fod y tiwbiau gwreiddiol mewn cyflwr mor beryglus. Roedd rhaid adeiladu bwa dur newydd cyn iddyn nhw allu tynnu'r hen diwbiau. Mae na ran o un o'r hen diwbiau wedi ei gadw yng ngofal Cyngor Gwynedd wrth ymyl y bont bresennol, ar ochr Caernarfon o'r Fenai.
Dwi'n meddwl fod yn rhaid i ni ddweud y stori a chydnabod pwysigrwydd y ddwy bont fel rhan o hanes datblygu peirianneg sifil dros y canrifoedd, a hefyd beth sydd wedi digwydd iddyn nhw ers iddyn nhw gael eu hadeiladu.
Cafodd Pont Menai ei hadnewyddu a'i chryfhau yn 1940, ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Cafodd y cadwyni gwreiddiol eu tynnu lawr gan mai rhai haearn a dur oeddent. Rhai dur yn unig yw'r rhai newydd, sy'n llawer cryfach, felly dau set o gadwyni yn unig sydd eu hangen rŵan yn hytrach na phedwar.
Rŵan wrth gwrs mae'r bont wedi ei hailbeintio i gyd yn 2005 - y tro cyntaf ers 1940. Mae'n ddiddorol iawn fod ei stori yn parhau.
Mae'n siwr y bydd y pontydd yn cael eu defnyddio am flynyddoedd i ddod. Efallai bydd yna broblem gyda chymaint o draffig yn mynd dros Bont Britannia yn y dyfodol; gawn ni weld os ydy pobl yn gwneud unrhyw beth i ateb y broblem, ond dwi'n siŵr y bydd y bont yn dal i fodoli mewn canrifoedd i ddod mewn rhyw ffordd neu'i gilydd."
Bob Daimond
Arddangosfa'r Pontydd
Mae arddangosfa am bontydd y Fenai ar agor ym Mhorthaethwy sy'n cynnwys arteffactau oddi ar y pontydd, cynlluniau gwreiddiol, llongau'r y Fenai a phethau cofiadwy gan drigolion lleol.
Mae'r arddangosfa ar agor dros y Pasg ac o ddydd Llun i ddydd Gwener o'r 12fed o Fehefin i 15fed Medi rhwng 10.00 a 16.00. Tâl mynediad yn £1 i oedolion.
Cynhelir yr arddangosfa yn Neuadd Eglwys Santes Fair, Ffordd Mona, Porthaethwy LL59 5EA, gyferbyn â siop Co-op, 500m o Bont Telford.