|
Mae'n werth ymweld â'r gaer hon o waliau carreg sy'n manteisio ar ei lleoliad ar fryn amddiffynnol naturiol yn Llanbedr y Cennin i'r de o Gonwy.
Mae'n safle arbennig o ddiddorol sy'n cynnwys adfeilion dau ragfur carreg. Yn ogystal â'r rhagfuriau, mae cyfres o gerrig byr chevaux de frise yn sefyll - sy'n cyfateb i'r 'dannedd draig' a ddefnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd i atal tanciau ayb. Tybir eu bod yn amddiffynfa ychwanegol yn erbyn ymosodiad gan filwyr troed a milwyr ar geffyl ac maent yn werth eu gweld am eu bod yn brin iawn ym Mhrydain.
Hefyd, mae'n werth mynd i weld olion y tai y tu mewn i'r gaer; mae modd gweld sylfeini 12 o gytiau ac ar yr ochr ddeheuol, mae llwyfannau cylchog wedi'u lefelu lle roedd tai pren yn arfer sefyll.
Mae ochrau gorllewinol a deheuol y bryn wedi'u hamgylchynu gan hyd at dri rhagfur. Mae'r rhagfur mewnol wedi'i wneud o garreg tra bod yr un canol wedi'i wneud yn rhannol o garreg ond yn troi'n glawdd o bridd ar yr ochr ddeheuol. Hefyd mae clawdd a ffos allanol ar yr ochr ddeheuol. Mae haneswyr yn awgrymu fod cymhlethdod yr amddiffynfeydd yn dangos bod gan y gaer hanes hir o gael ei defnyddio a'i bod wedi ei thrawsnewid fwy nag unwaith yn ystod y cyfnod yma.
Mae'n safle amddiffynnol naturiol gyda golygfeydd anhygoel ac mae'n dal i fod yn weddol rhwydd mynd yno gan nad yw'n rhy serth i'w ddringo.
Cyfarwyddiadau
O bentref Llanbedr y Cennin, trowch i'r chwith wrth dafarn yr Old Bull, a chadwch i'r dde i fyny allt serth am 1 cilometr. Ewch ar hyd y ffordd gul ar eich chwith am tua 200m ar ôl y troad siarp, gan anelu am y copa, lle mae maes parcio a llwybr yn mynd â chi o'r maes parcio at y fryngaer. Peidiwch â chroesi'r ffens sy'n rhannu'r gaer - mae pob peth o ddiddordeb ar yr ochr orllewinol sy'n hawdd mynd ato.
 |