BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llythyrau'r Wladfa

Model Tony Fancy o'r Mimosa. Dyma lythyr gan Lewis Jones, yn wreiddiol o Gaernarfon, oedd allan yn wladfa yn disgwyl am y Mimosa. 'Doedd o methu deall pam ei bod hi mor hir yn cyrraedd. Nid oedd yn ymwybodol bod y Cymry i fod i ddod o Lerpwl ar long arall, ond roedd rhywbeth wedi mynd o'i le. Roedd yr ymfudwyr felly wedi gorfod aros yn Lerpwl yn hel traed oer, heb bres i aros yn y ddinas am gyfnod hir.

Felly ddaru'r trefnwyr prynu'r Mimosa ar frys, ond cliper i gludo nwyddau oedd hi, ac nid pobl ac roedd yn fordaith anodd.

Mae'r llythyr yma yn disgrifio llawenydd Lewis wrth iddo fynd mewn cwch rhwyfo i groesawu'r Mimosa pan ddaru hi gyrraedd o'r diwedd.

Dwi ddim yn siŵr at bwy oedd o, efallai DL Jones Ffestiniog gan mai fo anfonodd o i'r Faner i'w gyhoeddi.

Y WLADYCHFA GYMREIG
(Dyma hi, diolch i'r Nefoedd, yn accomplished fact) Awst 9fed, 1865)

FY NGHYFAILL HOFF,
Y mae'r fintai gyntaf wedi cyrhaedd yn ddiogel. Dyma i chwi y newydd y gwn y llamwch o lawenydd o'i gael.

Fe lamodd fy nghalon i, beth bynnag, pan welais eu llong, ac fe lama llawer hen galon o glywed hyn. Nid oeddwn wedi cael un gair oddi cartref er pan ymadawsom hyd o fewn tuag wythnos cyn eu gweled, pryd y cefais lythyr Mr. Jones, dyddiedig y 6ed o Fai, yn dywedyd y cychwynai y Mimosa ar y 12fed.

Cyn hynny, yr oeddwn mewn mawr bryder rhag darfod imi boeni yn ofer, ac i'm holl lafur a'm darpariadau ddisgyn arnaf fi fy hun a'm llethu.

Glaniais yr ail lwyth yn New Bay, a chychwynnais yn ôl am y gweddill o'r defaid. Heb ddim hanes o'r ymfudwyr! Yn awr, coeliwch fi, yr oeddwn yn teimlo fel pe buaswn yn myned i fy nghrogi. Cyn ein bod o'r bar ar foreu yr 28ain, dywedai y cadben wrthyf, "Dacw hwyl!", a dyna lle yr oedd yn ddi-os.

Yr oedd yn brydnawn cyn i ni ddyfod at ein gilydd, ac y gwelwn faner y Ddraig Goch ar ben yr hwylbren. Daeth cadben y Mimosa a'r brawd Williams, Birkenhead, i edrych beth ar y ddaear oeddym, o dan y faner Ddanaidd. Pan aethum ar fwrdd y Mimosa, chwi ellwch goelio fod yno lawenydd nid bychan - "hwre" ar ôl "hwre" yn ddi-baid, ysgwyd llaw â chant o ddwylaw serchus - hen chwiorydd yn bendithio, a phlant bach yn cydio am fy nghoesau - yr hen frawd Cadfan yn fy nghofleidio, ac yn wylo o lawenydd - y magnelau o'r lan ac ar y bwrdd yn pydru tanio - a'r boys yn gwaeddi "hwre" nes lwyr dagu. Sensation nad anghofiaf byth mo honni oedd y mynydau hynny.

Fel arferol,
L.JONES.

Ond er y rhyddhad o'i gweld wedi cyrraedd yn saff, aeth yn flêr iawn rhwng Lewis a'r ymfudwyr. Nid oedd y wlad newydd cweit fel yr oedd wedi cael ei ddisgrifio. Ddaru nhw gyrraedd yng nglaw'r gaeaf, pan roedd yn rhy hwyr i hau. Oherwydd nifer o anawsterau, dim ond bythynnod heb doeau oedd yna ar eu cyfer. Symudodd Lewis i Buenos Aires yn y Tachwedd ond diolch i'w sgiliau diplomateg, cawsant gymorth gan lywodraeth yr Ariannin am flwyddyn arall.

Aeth yn ôl at y Cymry a llwyddo ei perswadio i aros yn y dyffryn er nad oedd yna ddŵr a bod y plant yn newynu.

D. Ll. Jones (Ffestiniog), Cofiadur Teithiol Cymdeithas Fasnachol ac Ymfudol y Wladfa i'w gyhoeddi yn Baner ac Amserau Cymru. (Baner ac Amserau Cymru, 4 Tachwedd 1865)

Mari Emlyn yn sôn am lythyr o fewn ei llyfr, Llythyrau'r Wladfa.

Llyfr Llythyrau o'r Wladfa.
Llythyr i gariad, ar ei ffordd yn ol i Gymru.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy