BBC HomeExplore the BBC

IAU
31ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Plas a'r tai ym mhentref Nant Gwrtheyrn Ymweliad â hen bentref Nant Gwrtheyrn
Ganwyd Dic Trefor, neu Richard T Jones, yng Nghaernarfon a bu'n byw mewn sawl lle yn y gogledd cyn ymfudo i Ganada yn ystod y 1940au.

Bu farw Dic yng Nhanada yn 98 mlwydd oed, er iddo barhau i ymddiddori mewn hanes a bywyd yn ol yng Nhymru.

Yma, rhannodd Dic ei atgofion am ymweliad â Nant Gwrtheyrn, canolfan iaith erbyn hyn, yn y 20au pan oedd y Nant yn bentref prysur.

Yn ystod haf 1928 pan oeddwn i'n ddeunaw, roeddwn i'n gweithio yn siop ddodrefn Jays ar y Maes yng Nghaernarfon. Roedd ein gwerthwr teithiol wedi gwerthu llond lori o ddodrefn i'r rheolwr newydd yn y chwarael ithfaen (Nant Gwrtheyrn). Roedd o a'i deulu ar fin symud i'r tŷ mawr, sef y Plas (llun uchod) ychydig is law'r pentref yn edrych dros y môr.

Llwythwyd y fan y noson cynt er mwyn i ni gychwyn yn gynnar. Roedden ni'n griw o saith y diwrnod hwnnw sef John Flynn, John Pritchard, brawd y gwerthwr Elias Pritchard, John Griffith, John Angel, John Keyes, Dic Edwards a minnau.

Gadawsom y Maes am 6.30am. Roedd hi'n ddiwrnod bendigedig. Wrth inni agosau at yr Eifl gwelsom fod y tri phigyn tan gwmwl. Gadawsom y brif ffordd yn Llanaelhaearn, troi i fyny at Llithfaen a throi i'r dde i fyny'r mynydd i'r maes parcio uwch ben y Nant. Roedden ni rwan o du ucha'r cymylau - am olygfa - dim ond cymylau'n tonni am a welech.

Dechreuwyd ar y dadlwytho. Fy llwyth cyntaf i oedd matres gwely a sgwâr congoleum wedi'i glymu iddo. Roedd hi'n anodd iawn cerdded i lawr y ffordd gan ei bod wedi gwisgo yn y canol i ffurfio 'V'. Pan gyrhaeddais y tŷ, gyda chymorth un o'r bechgyn, roedd rhaid imi ddadlwytho'r congoleum a'i osod, ac yna rhoi'r fatres at ei gilydd. Roedd rhaid rhoi popeth at ei gilydd yn y fan a'r lle.

Fy ail lwyth oedd cist pum dror wedi'i glymu efo webbing ac roeddwn i'n ei gario ar fy nghefn. Fe wnaethon ni bedwar trip i gyd i fyny ac i lawr yr allt. Fe gyrhaeddon ni yn ôl i Gaernarfon am saith y noson honno yn flinedig iawn.

Yn ystod yr wyth mlynedd y bum i yn gweithio i Jays mi gefais i gyfle i fynd i'r Nant bump o weithiau. Yn ystod un ymweliad daeth y newydd i'r pentref am ladd merch ifanc, sef merch un Mrs Owen, cwsmer arall i Jays, mewn damwain motobeic yn Llanystumdwy.

Bellach, 'dwi'n 93 oed a dim ond fi sydd ar ôl o'r criw a aeth i'r Nant y diwrnod hwnnw. Y tro diwethaf imi fynd i'r Nant ddiwethaf oedd ym 1985 a hynny yng nghwmni Eluned Vaughan. Roeddwn i yn 75 oed ac Eluned yn 70 ac roedd yna wers Gymraeg yn cael ei chynnal i ddysgwyr ar lawnt un o'r tai. Mi gawson ni sgwrs efo'r athro, oedd yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth. Mi fum i'n byw yn Aberystwyth am ddwy flynedd fy hun yn ystod y 1940au.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy