BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llyfr lloffion nain Angharad Tomos Sioe Ar Daith: Hanes Menywod Cymru
Mae yna ddigonedd o dystiolaeth o hanes dynion ein gwlad, ond beth am y merched? Dyma eich cyfle chi i rannu straeon eich mamau a'ch neiniau gyda'r genedl.

Bydd 'Sioe Ar Daith: Hanes Menywod Cymru' olaf Gogledd Cymru yn cael ei chynnal yn Oriel Ynys Môn dydd Sadwrn, 25 Ebrill 2009 rhwng 11.30 a 3.00 y pnawn. Bydd yn cael ei hagor gan Nia Powell o Adran Hanes Cymru Prifysgol Bangor, a bydd yna sgwrs am 12 o'r gloch gan Annie Williams o Goleg Harlech. Mae Annie'n enedigol o Gaergybi, ac mae wedi gwneud ymchwil i hanes merched Ynys Môn.

Dyma brofiad yr awdures Angharad Tomos o ddarganfod mwy am hanes merched ei theulu hi.

"Mynd â nhw draw ddaru mi i weld a oeddent o unrhyw ddiddordeb. Tan rŵan, dydyn nhw ddim wedi gadael cartref fy mam - casgliad o lyfrau cownt a gadwyd ers y flwyddyn 1951, wedi i fy mam briodi. Yr ydwyf yn falch bellach fy mod wedi mentro.

Tudalen o lyfr cownt mam Angharad Tomos Mae Archif Menywod Cymru yn archif sy'n casglu ffynonellau am bob math o agweddau ar hanes merched yng Nghymru. Hwn yn aml yw'r hanes 'coll'. Yn ddiweddar bum yn ymweld â Chwarel y Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog, amgueddfa ddiddorol iawn, ond mae hanes y merched yn gwbl anweledig. Hanes dynion a gawn, a dim byd arall. Mae pethau dipyn yn well yn Amgueddfa Pwll Mawr (Big Pit), lle cofnodwyd gwaith y merched, ac roedd eu dioddefaint yn anhygoel.

Dangoswyd diddordeb mawr yn llyfrau cownt fy mam. Nid yn unig roeddent yn nodi prisiau neges wythnos yn ddi-dor am dros hanner canrif, ond roedd llawer o gilfachau cudd. Un peth a gadwyd rhwng cloriau un o'r llyfrau oedd cerdyn aelodaeth Plaid Cymru, 1946. Wrth i Catrin Stevens fy holi am hwn, dechreuais sôn am Bwyllgor Merched Arfon o Blaid Cymru, a sylweddoli mai fy mam yw un o'r ychydig aelodau o'r pwyllgor hwn sydd yn dal yn fyw.

O ganlyniad, aeth fy mam i chwilio am y llyfr cofnodion, a chaiff hwn ei gadw yn ddiogel yn awr. Mae llawer o ferched wedi cofnodi eu hatgofion, ond mae canran fawr ohonynt yn dod o dde Cymru, yn perthyn i'r Blaid Lafur ac yn ddi-Gymraeg.

Byddai'r Archif yn falch iawn i gael hanes mwy o ferched o gefndiroedd gwahanol, o gefndir gwledig, yn genedlaetholwragedd, ac yn Gymry Cymraeg.

Yn y llyfrau cownt, roedd pob math o enwau. Dyma'r peth agosaf at ddyddiadur a gadwodd Mam. Roedd maint traed ni blant i gyd yn un, a'r dyddiad y cawsom esgidiau newydd. Yn yr un 1969, roedd cofnod o lythyr a sgrifennodd fy chwaer (pan yn 5 oed) i Dafydd Iwan pan oedd yn y carchar.

Ar dudalennau cefn y rhain ysgrifennai Mam nodiadau os clywai unrhywbeth o ddiddordeb ar y radio. Yn y llyfrau hyn y cadwodd nodiadau wedi mynychu darlithoedd y WEA ar lenyddiaeth Gymraeg. Ymysg y tudalennau roedd toriadau papur newydd - rhywun wedi marw neu briodi, neu bwt o gerdd. A gyda phob tudalen, deuai llond côl o atgofion.

Pethau eraill euthum gyda mi oedd llyfr lloffion fy Nain, gyda'i dudalennau hardd wedi'u paentio, a chyfarchion o 1900. Gwag iawn oedd llyfr ei brawd, ond nid rhyfedd mo hyn gan iddo golli'i fywyd yn 23 oed yn y Rhyfel Mawr.

Beth am i ddarllenwyr hwn felly gael cip ar beth sydd ganddynt hwy gartref. Os oes gennych luniau, llythyrau, dyddiaduron, cofnodion capeli neu gymdeithasau, gwnewch yr ymdrech - da chi - i gysylltu â'r Archif. Peidiwch â meddwl nad ydynt yn ddigon pwysig, mae pob peth yn taflu rhywfaint o oleuni ar fywydau gwragedd yng Nghymru. Ewch draw i rannu profiad fel y gall eich stori gael ei hychwanegu at y clytwaith brau sydd mawr angen gwnïo arno. Mwya'n y byd o ferched wnaiff gyfrannu at y project, mwya diddorol fydd o.

Does dim rhaid i chi ffarwelio â'ch llythyrau a'ch lluniau. Gall y merched dynnu lluniau o'ch defnyddiau, a gwneud nodyn ohonynt. Ar y llaw arall os ydych chi'n fodlon i'r deunydd gael ei gadw, bydd eich trysorau mewn dwylo diogel. Drwy wneud hynny, bydd hanes merched ar gael i ferched y dyfodol, ac mae hanes merched wastad yn ddifyr."

Dyma brofiad yr awdures Angharad Tomos o ddarganfod mwy am hanes merched ei theulu hi. (Trwy ganiatâd Golygydd Y Wawr).


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy