BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
28ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Pont Menai Adnabod ardal - Glan Menai
Ar gefn ceffyl, ar fferi neu dros ei phontydd - bu llawer ffordd i groesi'r Fenai dros y blynyddoedd. John Meirion Davies o Borthaethwy sydd â hanes ardal ei glannau.

Fe gafwyd tipyn o barti pen blwydd ar lannau'r Fenai yn 1976. Oedd, roedd Eisteddfod yr Urdd - y Genedlaethol, nid rhywbeth bach lleol - yn dod i'r ardal. Ond nid yr Urdd oedd achos y dathlu, ond achlysur pen blwydd Pont y Borth yn 150. Y digwyddiad yma oedd y sbardun i sefydlu papur bro yr ardal, sef Papur Menai.

Agor Pont Menai yn 1826, a phont reilffordd Stephenson yn 1858, fu'r dylanwad mwyaf ar yr ardal a'r Ynys gyfan.

Wedyn, cafwyd ffordd newydd dros bont Britannia. Tybed lle bydd y drydedd groesfan?

Ond roedd hi'n ddigon prysur ar lannau'r Fenai cyn bod pont. Er gwaethaf y Derwyddon a'u cefnogwyr, fe groesodd y Rhufeiniaid i'r ynys. Roedden nhw'n ddigon call i lunio cychod neu rafftiau arbennig, heb fod yn rhy ddyfn, rhag iddynt fynd i drybini ar y creigiau. Dyna fu'r traddodiad dros y canrifoedd - croesi yn y lle culaf a mwyaf bas, gan ddefnyddio llestr addas i'r fan

Mentro ar lanw isel

Un rheswm dros boblogrwydd y Borth fel man croesi oedd mai dyma'r lle culaf ar y Fenai. Wrth gwrs, roedd llawer croesfan arall, o Abermenai i Benmon. Mentrai rhai dewrach na'i gilydd groesi ar gefn ceffyl, ar lanw isel, ar draws Traeth Lafan. Roedd gan rai o'r Methodistiaid cynnar ddigon o ffydd yn y drefn i wneud hynny.

Bu trychinebau mynych, fodd bynnag, yn deillio'n amlach na pheidio o esgeulustod, drwy orlwytho'r fferi, neu geisio croesi ar dywydd drwg. le, y siwrnai fyrraf oedd piau hi.

BeaumarisNid na fu fferi'r Borth heb ei phroblemau. Yn 1699, suddodd ysgraff y Borth, a boddwyd pawb oedd arni ond un wraig. Un o'r rhai a ruthrodd i'r Borth wedi'r drychineb oedd Morys Prisiart, a ofnai bod ei briod o ddeufis, Margaret Morris, ar y llong anffodus, ar ei ffordd yn ôl o Ffair Wyl Ifan ym Mangor. Er mawr cysur iddo, gwelodd hi'n dod i'w gyfarfod, wedi croesi ar gwch arall. Er mawr ennill i Gymru hefyd, oherwydd hwy, maes o law, a fagodd Forysiaid Môn.

Ffair y Borth

O gofio'r helyntion hyn, nid rhyfedd i'r Monwysion sefydlu ffair ar eu hochor hwy o'r Fenai maes o law. Pery'r pedwerydd ar hugain o Hydref yn ddiwrnod arbennig yn yr ardal, oherwydd dyna ddiwrnod Ffair fawr y Borth. Ffair wartheg, a cheffylau'n arbennig, oedd hi ar y dechrau, a pharhaodd y traddodiad o ffair geffylau tan ddiwedd gyrfa'r mart ar gwr y bont.

Ffair gyflogi hefyd yn y dyddiau pan oedd gweision ffermydd yn lluosog. Ffair hefyd i chwilio am gariad i'w danfon adref.

Bellach, peidiodd y cyfan o'r arferion hyn, ac eithrio'r diwethaf, efallai, a ffair wagedd yn unig sydd yno erbyn hyn. Mae hyd yn oed y myfyrwyr a heidiai i'r sgwâr i feddiannu'r mynegbost wedi cilio bellach. Heb ddim ond un Coleg mawr ar ôl, doedd fawr o bwrpas i'r gystadleuaeth honno mwyach.

Eglwys Tysilio - man claddu CynanBeth bynnag yw barn y trigolion am y ffair erbyn hyn, mae popeth ar stop ar y pedwerydd ar hugain o Hydref o hyd. A phawb yn gobeithio am fargen.

Fe fu llawer o enwogion y genedl yn byw yn yr ardal. Llenorion ac ysgolheigion fel Syr J E Lloyd, Cynan, Thomas Charles Williams, teulu Davies Treborth, Syr John Morris-Jones, Syr Ifor Williams, Dr John Williams, Brynsiencyn, a sawl gwron arall.

Eironi llwyr yw mai'r bardd salaf o'r cwbl - y Bardd Cocos - a gofir gan y rhan fwyaf.

  • Fedrwch chi ateb cwestiwn Idris Hughes o Ganada yma?
  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy