BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MAWRTH
29ain Gorffennaf 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr arwerthwr R G Jones a John Cwm Wrach Nant Peris (Llun: Teulu Ymwlch Ganol) Prynu a gwerthu ym Mart Bryncir
Pan symudodd Ellis Owen a'i deulu bach o Hafoty, Llanberis i fyw i Gwrt Isaf, Cwm Pennant yn Eifionydd yn 1921 daeth â'i ddefaid i'w ganlyn.
A brid y defaid hynny sydd wedi magu cynefin ac sy'n dal i bori yn "y cwm tecaf" hyd heddiw.

Yr oedd Ellis Owen mae'n debyg yn ffermwr o flaen ei oes ac wrth symud o'r fferm ar droed yr Wyddfa i'r cwm yn Eifionydd yr oedd yn gwella'i fyd. Er hynny doedd pethau yn Eifionydd ddim yn fêl i gyd. Yr oedd yna un peth yn arbennig a oedd ar goll yno o safbwynt Ellis Owen, a hynny oedd marchnad gyfleus i brynu a gwerthu anifeiliaid.

Fy mwriad yn y traethawd hwn yw olrhain ychydig o hanes y mart a agorwyd yn Bryncir yn y cyfnod hwnnw ac sydd wedi parhau yno, bron yn ddi-dor dros gyfnod o tua phedwar ugain mlynedd.

Er mwyn gwneud hynny y cam cyntaf i mi oedd ceisio cael gafael ar rai pobl a fyddai'n cofio dechreuad y mart. Un ohonynt yw dyn o'r enw Robert Owen, Ymwlch Ganol, Cricieth.

Roedd ef yn fab i Ellis Owen, Cwrt Isaf, y soniwyd amdano ar y dechrau a thair oed oedd o pan symudodd o'r Foty (Hafodty) i Gwm Pennant. Difyr iawn oedd gwrando arno yn sgwrsio am ei atgofion o ddechrau'r mart, a chael dysgu rhywfaint am natur yr arwerthiannau cynharaf i gael eu cynnal yno.

Fel y dywedodd Robert Owen wrth sôn am ei dad:

"Mae'n debyg nad ef oedd yr unig ffermwr i deimlo'r diffyg hwn (diffyg marchnad) ond efallai mai ef, oherwydd ei gysylltiadau, oedd yr un a ddylanwadodd fwyaf ar ddyfodol prynu a gwerthu yn Eifionydd."

Robert Owen a'i briod Jane Ann Owen mewn arwerthiant diweddar yn y mart (Llun: Margaret Hughes)Aeth Robert Owen ymlaen i egluro mai cyfaill agos i'w dad a'r un a oedd yn was priodas iddo oedd gŵr o'r enw R.G. Jones, arwerthwr o Gaernarfon. Ato ef yr aeth Ellis Owen mewn ymgais i ddatrys ei broblem o brynu a gwerthu da byw yn lleol. Yr oedd y gwas priodas yn falch o gynorthwyo ei gyfaill.

Yn Yr Herald Gymraeg, Chwefror 24ain 1920, ymddangosodd yr hysbyseb cyntaf erioed am Fart yn Brynkir fel a ganlyn:

Brynkir Station
Ar gais amaethwyr y cylch, cynhelir
ARWERTHIANT MISOL
Yn gyson yn y lle uchod.
Cymer y sale gyntaf le yn ystod MIS MAWRTH Manylion eto.

Felly, cafodd Ellis Owen, Cwrt Isaf, ei ddymuniad pan gynhaliwyd y sêl gyntaf erioed yn Bryncir ar Ddydd Gwener, Mawrth y 19ain 1920 dan arolygaeth R.G.Jones.

Mewn adroddiad diweddarach yn yr Herald adroddwyd hanes yr arwethiant yn fanwl a nodwyd mai'r anifeiliaid a werthwyd yno oedd "tua 60 o wartheg a 100 o ddefaid ac un eboles wedd a werthwyd am £36-5-0."

Roedd gan Robert Owen gof plentyn o chwarae criced ar y tir lle'r adeiladwyd y mart, ond yn arbennig cofiai am natur y tir hwnnw. Dywed fod y rhan uchel, lle mae adeiladau cyntaf y mart yn dal i sefyll heddiw yn dir sych, cadarn a hwnnw'n gyfleus iawn ger y rheilffordd. Ond, roedd y rhan isaf o'r tir yn wlyb ac yn gorsiog iawn. Rhy wlyb i osod anifail arno hyd yn oed!

Nid oedd Mr. Owen yn cofio sut na gan bwy y cafwyd y tir ar gyfer y mart ond yn sicr un rheswm dros ddewis y safle ym Mryncir (ar wahân ei fod yn gyfleus i Ellis Owen!) oedd fod y rheilffordd yn rhedeg trwy'r ardal a gorsaf hwylus yn y pentref a oedd yn ei gwneud yn gyfleus iawn i gludo'r anifeiliad i'r mart ac oddi yno. Fel y nodwyd mewn rhifyn o'r Herald Gymraeg yn y flwyddyn 1923 ger hysbyseb am y sêl nesaf yn Bryncir, dywedwyd ei fod "yn hynod o gyfleus wrth ochr y station."

Er hyn roedd yna adegau pan fyddai'r sêl yn rhedeg yn hwyr, a'r anifeiliaid yn colli'r trên i'w cludo adref. Cofia Bob Owen fel y byddai'n rhaid iddo yntau a gweddill y dynion ar ôl, gerdded yr anifeiliaid i'w cartrefi newydd. Weithiau, roeddynt yn gorfod eu cerdded cyn belled â Chaernarfon, cyn eu rhoi ar gwch i Foel y Don yn Sir Fôn. Byddent wedi gofalu meddai bod merlen a throl yn eu dilyn ar eu taith er mwyn arbed eu coesau ar y ffordd yn ôl!

Er gwaethaf llwyddiant y Mart, yr oedd rhai ffermwyr yn parhau i werthu'n annibynnol. Ambell i dro, byddai fferm Cwrt Isaf, gan fod ganddynt gymaint o anifeiliaid i'w gwerthu, yn meddiannu holl adeiladau'r mart er mwyn cynnal sêl breifat yno.

Prynu a gwerthu yn y martDifyr dros ben oedd clywed fel y byddai gan yr un fferm hon gymaint â mil o ddefaid neu wyn a chant o heffrod newydd ddod â lloi i'w gwerthu ar yr un diwrnod ac fel y byddid yn eu godro cyn mynd a hwy i'r mart a thrwy wneud hynny yn cael digon o laeth oddi wrthynt i wneud menyn fyddai'n para am y gaeaf i deulu Cwrt Isaf.

Roedd rhai eraill fodd bynnag na fynnai ddefnyddio adeiladau'r mart. Yr oedd y ffermydd hyn, megis Gilfach a Brongadair, yn dewis cynnal eu harwerthiannau mewn cae yng Nglandwyfach, i lawr y lôn o Bryncir. Ni wyddai Robert Owen y rheswm dros hyn, ond dywedodd fod y ffermwyr hyn yn dod i Fryncir yn achlysurol, felly nid oeddynt yn llwyr ymwrthod â'r mart newydd. Mae'n debyg mai teyrngarwch i arwerthwr arall oedd yn peri iddynt barhau a'r arferiad hwn oherwydd Mr. Dafydd Parry fyddai yn gwerthu iddynt hwy.

Yn wahanol iawn i sut y mae pethau heddiw, ychydig iawn o waith papur a oedd ynglŷn â phrynu a gwerthu anifeiliaid yr adeg honno. Yn ôl Mr. Owen, ychydig iawn a glercod ac ysgrifenyddion a gofiai ef yn y mart, ond un cymeriad pwysig yn hun o beth oedd dyn o'r enw Louis Thomas, Bryncir Arms. Ef oedd yn gyfrifol am dderbyn yr 'entries' i bob sêl ers y dechreuad ac am gyfnod go dda wedi hynny. Cawn gadarnhad o hyn yn yr Herald Gymraeg wrth hysbysebu'r sêl oedd i ddod: "Yr entries i Mr Louis O. Thomas, Brynkir Arms."

Yn ogystal â hyn, ef hefyd oedd y saer a adeiladodd adeiladau cyntaf y Mart, ychydig o gytiau sinc a choed, ar gais R.G. Jones. Awgrymodd amryw o ffermwyr y bum yn siarad a hwy mai eiddo Louis Thomas oedd y tir ble yr adeiladwyd y mart ond methais a chael cadarnhad o hyn yn un man.

Ymlaen i'r ail dudalen ...

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy