BBC HomeExplore the BBC

GWENER
27ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llys Rhosyr Llys Llywelyn
Yr archeolegydd David Longley sy'n egluro sut y cafwyd hyd i un o hen lysoedd tywysogion Gwynedd o dan dywod arfordir Môn.

  • Lluniau'r cloddio yn Llys Rhosyr
  • "Yn y 1990au cynnar, arweiniodd yr archeolegwr Neil Johnson ymgyrch gloddio ar safle Llys Rhosyr yn Niwbwrch. Roedd yn rhan o raglen i geisio darganfod safleoedd llysoedd tywysogion Gwynedd.

    Yn ystod y 12fed a'r 13fed Ganrif, adeiladodd y tywysogion yma rwydwaith o lysoedd brenhinol o fewn eu tiroedd.

    Rhannwyd Gwynedd i mewn i ardaloedd gweinyddol gwahanol, - cymydau - ac roedd gan bob cwmwd brif dref, sef y 'maerdref' ac o fewn pob maerdref, roedd 'llys', sef canolfan stâd y tywysog.

    Byddai neuadd fawr ac adeiladau eraill yn ymwneud â rhedeg y cwmwd o fewn y llys. Hefyd, byddai lle i'r tywysog a'i ymwelwyr aros, yn ogystal â chymuned o denantiaid ac asiantau a fyddai'n edrych ar ôl ei fusnes a'i dir.

    Byddai'r werin yn talu eu rhent a dyledion i'r tywysog trwy'r llys. Gan nad oedd llawr yn defnyddio arian ar y pryd, byddent yn talu trwy gynnig bwyd neu wasanaethau - ac felly roedd yn fwy cyfleus i gael nifer o lysoedd o fewn un dywysogaeth. Byddai'r tywysog a'i ddynion yn symud o lys i lys, i gynnal busnes y cwrt, arwyddo siarterau ac yn y blaen.

    Roedd chwe chwmwd ar Ynys Môn - roedd Llys Rhosyr o fewn maerdref Niwbwrch, yng nghwmwd Menai.

    Eglwys San Pedr Wrth chwilio am leoliad Llys Rhosyr, fe holodd yr archeolegwyr y bobl leol a darganfod bod lle o'r enw Cae Llys, ger eglwys San Pedr. Mae'r Eglwys ar gyrion y pentref modern i fyny ar gribyn Gallt Pedr. Sefydlwyd y Niwbwrch gwreiddiol ger y groesffordd i'r pentref, ar y ffordd i lawr i draeth Llanddwyn.

    Wrth gloddio yng Nghae Llys, darganfuwyd gwaith cerrig a sylfaeni o dan y tywod oedd wedi chwythu i mewn o'r arfordir. Heddiw, gellid gweld sylfaeni nifer o adeiladau, gan gynnwys neuadd, siambr a waliau allanol tir y llys. Mae Llys Rhosyr yn un o'r enghreifftiau prin o lys brenhinol sydd yn dal i fod yng ngogledd orllewin Cymru. Llys Rhosyr

    Gyda choncwest Edward 1af yn 1283, aeth tiroedd y tywysogion i'r Saeson. Pan adeiladodd Edward ei gastell ym Miwmares, penderfynodd ei asiantau greu canolfan fasnachol arall ger hen Faerdref Llys Rhosyr - er colled i Lanfaes.

    Mae'r Niwbwrch modern - y ffyrdd a'r adeiladau - yn dal i ddilyn y patrwm a osodwyd gan yr asiantau yma yn 1300."

    Mae arddangosfa am Lys Rhosyr i'w weld yn Neuadd Prichard Jones, yr Institiwt, ym mhentref Niwbwrch.

    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy