BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MAWRTH
2il Medi 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Mary Jones y tu allan i hen lythyrdy y pentre - roedd yn un o ddisgynyddion Morris Jones a fyddai'n gwarchod wrth ddrws yr ysgol Sul rhag i'r plant ddianc! Chwarel a chapel yn Llithfaen
Yr hanesydd lleol a'r cyn athro, Ioan Mai Evans, sy'n edrych ar benodau difyr yn hanes pentref Llithfaen wrth ymchwilio i hanes capel y pentref.
"Faint ohonom sydd yn cofio y dyn hel plant i'r ysgol 'stalwm. Wrth ymchwilio i hanes y capel cefais gryn agoriad llygad o ddod ar draws cyfrif o ddyn a fu'n hel plant i'r ysgol Sul neu'r Ysgol Sabbothol fel y'i gelwid gynt.

Ond rhaid cychwyn gyda'r capel, Capel y Methodistiaid yn Llithfaen, a godwyd gan gymdeithas o chwarelwyr ac ychydig o dyddynwyr gan mlynedd union i eleni.

Saif yn unig, ond yn unigryw ar ei ben ei hun, wedi tewi o hen gloch y Llan, a gweled cau drysau dau gapel arall.

Hwn yw'r pedwerydd capel i gael ei godi gan y Methodistiaid. Chwythodd gwyntoedd croesion y to gwellt a nodweddai y capel cyntaf a adeiladodd y werin dlawd tua 1782, yn y blynyddoedd cyn i ferched a mamau y plwyf fynd ati i gario grug o fynydd yr Eifl i wresogi popdai Pwllheli, am chwe cheiniog y baich. Yn yr haf codai merched y grug cyn dydd i'w throi hi am y mynydd yn y gobaith y ceid hel baich ychwanegol cyn y nos.

Capel 1805 gyda J O Jones (Arifog) bardd a chofiannydd hanes yr achos.Ymhen blynyddoedd, a dyfod o'r pedwar degau newynllyd, cawn fod nifer o'r hen aelodau yn gwneud safiadau cadarn yn helyntion y Tiroedd Comin, pan alltudiwyd Robert William Hughes i Botany Bay, Awstralia.

Ond er mor galed oedd crystyn y tlodion, roedd crystyn daear tir mynydd lawn caletach, nes dyfod gwaredigaeth. Daeth masnach brysur i gerrig mynyddoedd yr Eifl pan agorwyd pedair, os nad pump o chwareli gwenithfaen gan weddnewid bywyd cymdeithasol y pentref.

Chwyddodd y boblogaeth gan nifer o ddieithriaid i ychwanegu at yr ychydig o dyddynwyr brodorol. Aed ati i adeiladu tai, rhesdai gan mwyaf, a dengys cyfrifiad 1881 pa mor niferus oedd y mewnfudwyr o ardaloedd Llŷn ei hun, o Benmaenmawr a chyn belled â'r Alban.

Yn y caban chwarel roedd pawb yn gyfartal.Yno y gwireddwyd y freuddwyd am sefydlu y mudiad cydweithredol, oddi yno hefyd y daeth y gefnogaeth i ail addasu tai crefydd. Y nhw, y chwarelwyr oedd yno yn cadw seiat a chyfarfod gweddi ar noson waith.

Y nhw hefyd oedd â digon o gân yn eu calonnau i ffurfio côr meibion a gefnogodd yr hen gyngherddau pythefnosol a gynhelid i gynorthwyo teuluoedd mewn angen. Yn y festri y cynhelid y rhain ar nosweithiau Gwener, a does dileu ar yr atgof am y nos Wener pan oedd y côr yn eu coleri canu yn gwefreiddio festri lawn wedi'r fuddugoliaeth ar ganu "Llef" yn yr Eisteddfod Genedlaethol - R.O. yn arwain a Dinah siop y post yn cyfeilio.

Ond rhaid ymatal gan fod y bardd Arifog wedi cofnodi Hanes yr Achos, ac ni wnaf ond dyfynnu o'i ddalen gyntaf:

"Cynhaliwyd y gwasanaeth cyhoeddus cyntaf gan Evan Roberts, y Diwygiwr, Rhagfyr 12fed, 1905."

Ond am sawl rheswm rwyf am aros gyda'r Ysgol Sul sydd yn dyddio mor gynnar, a hefyd oherwydd brwdfrydedd y rhai sy'n dal i'w chynnal.

Yn ôl y Llyfrau Gleision roedd yma Ysgol Sabbothol, a defnyddio yr hen enw, yn 1786. Un o'r selogion yn y blynyddoedd rheiny oedd David Pritchard, llanc ifanc heini, a bywiog , a gof wrth ei alwedigaeth. Ymddengys fod y syniad o Ysgol Sul yn dipyn o faich ar rai o'r plant ac o ganlyniad byddai nifer yn dianc i'r mynydd. Ond ceir hanes am y gof ifanc yn eu dilyn o glogwyn i glogwyn nes cyrraedd y capel "yn mygu gan chwys" yn ôl un cofiannydd. Yna wedi corlannu'r ffoaduriaid, un Morris Jones, Aber Gafran i warchod y drws gyda'i ffon, rhag i'r dychweledigion ffoi eto i'r mynyddoedd.

Oes, mae sawl agwedd ar aberth y tadau."

Gan Ioan Mai Huws

Lluniau
Top: Yn eistedd y tu allan i hen lythyrdy y pentref, Mary Jones oedd yn byw ym mwthyn Aber Gafran - enw sy'n dweud y cyfan am y blynyddoedd pan gyfrifid yr arf yn fuwch y dyn tlawd. Roedd yn un o ddisgynyddion Morris Jones a fyddai'n gwarchod wrth ddrws yr ysgol Sul rhag i'r plant ddianc!

Canol: Capel 1805 gyda J O Jones (Arifog) bardd a chofiannydd hanes yr achos. Ef sy'n dweud mai Evan Roberts y diwygiwr oedd y cyntaf i gynnal gwasanaeth cyhoeddus yn y capel ychydig cyn y Nadolig, 1805.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy