BBC HomeExplore the BBC

IAU
10fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llong danfor Almaenig Suddo'r Bleiddiaid Llwydion
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu brwydro rhwng y Cynghreiriaid a llongau tanfor U marwol yr Almaenwyr - suddodd tair ohonynt oddi ar Ynys Môn.

Yma mae John Griffiths, yn wreiddiol o Gaergybi ond bellach yn byw yn Kidlington, Swydd Rhydychen yn sôn am bresenoldeb du llongau tanfor y 'Bleiddiaid Llwydion' oddi ar arfordir gogledd orllewin Cymru:

"Tua diwedd yr Ail Ryfel Byd, fe drodd Prydain a'i chynghreiriaid eu sylw at un o ofnau mawr Churchill sef yr U-boats U Almaenig. Erbyn diwedd Brwydr yr Iwerydd, roedd y cynghreiriaid wedi deall tactegau'r Bleiddiaid Llwydion (y Grey Wolves) ac roedd buddugoliaeth o fewn eu gafael.

"Roedd porthladd Lerpwl yn darged amlwg i'r Almaenwyr. Er gwaethaf presenoldeb y Llynges a'r ffaith fod Caergybi yn ganolfan i griw bychan o'r Llynges gan gynnwys rhai o Lynges yr Iseldiroedd, roedd yr Almaenwyr yn ystyried yr ardal yn un gwerth cadw golwg arni hi.

"Yn ystod Ionawr 1945, gwelwyd U-1051 dan arweiniad Oberleutnant Heinrich von Holleben gan grŵp o bedair llong sef HMS Aylmer, Calder, Bentinck a Manners ac fe'i suddwyd 53.3Gogledd, 05.23Gorllewin ganddynt ac fe gollodd y criw i gyd eu bywydau. Gyrfa fer fu gan y llong danfor math VIIC a dwy yn unig o longau'r gelyn a suddodd, cyfanswm o 425 tunell.

"Collwyd llong U arall sef yr U-246 dan Kapitanleutnant Ernst Raabe yn Môr Iwerddon a hynny 53.40Gogledd, 04.53Gorllewin - er nad oes neb yn gwybod yn iawn beth ddigwyddodd. Mae tranc math VIIC arall hefyd yn ddirgelwch a hanes y 48 oedd ar ei bwrdd. Fe glywyd ei neges olaf ar 5 Ebrill sef dyddiad ei suddo ond diflannodd hithau heb eglurhad. Does neb erioed wedi hawlio cyfrifoldeb. Cofnodwyd ei bod wedi ei 'cholli wrth ei gwaith' gan yr Almaenwyr gan y tybiwyd iddi suddo ym Môr Iwerddon ond ers hynny fe'i darganfuwyd rhwng Ynysoedd Môn a Manaw a hynny ddim yn bell or U-1051.

"Ond efallai mai colli'r llong fwy, y VIIC/41, yw'r digwyddiad mwyaf diddorol. Dan gapteiniaeth Kapitanleutnant Hans-Joachim Gutteck roedd hi eisoes wedi suddo un llong 7,000 o dunelli. Roedd hi hefyd wedi ymosod ar ddwy long fasnach rhwng Ynys Môn ac Ynys Manaw wrth gadw golwg ar yr ardal - ac roedd hynny cystal â gwahodd y Llynges i chwilio amdani hi. Ar Ebrill 12 1945 dynan union ddigwyddodd. Daeth yr Almaenwyr ar draws dwy long o wythfed grŵp Gwarchod y Llynges -HMS Loch Glendhu a Loch More. Ymosododd y ddwy yn eu tro ar U-1024 gan ei gorfodi i ddod i'r wyneb ac roedd y criw yn barod i geisio dianc. Wrth iddi hi ymddangos ymosododd gynnaur Llynges arni'n ddidostur hyd nes y sylweddolwyd nad ceisio ymosod oedd yr Almaenwyr ond dianc. Bu farw Gutteck wrth i'r llong danfor ddod i'r wyneb a hynny yn dilyn ymosodiad gan y Llynges yn ôl yr Almaenwyr ond yn ôl adroddiadau'r Llynges fe laddodd ei hun.

"Pan ddaeth y saethu i ben, aeth criw o HMS Loch More ar fwrdd y llong U er mwyn tynnu hynny o offer gwerthfawr ag oedd bosib oddi arni gan gynnwys ei pheiriant enigma a'r codau. Fe geisiodd y Llynges dynnu'r bad yn ôl i Lerpwl. Ond roedd y difrod i'r U-1024 yn llawer iawn mwy na'r disgwyl ac ar 13 Ebrill fe suddodd 53.39G 05.03Gorllewin. O'r criw, roedd naw eisoes wedi marw ac fe garcharwyd y gweddill.

"Yn ddiddorol ddigon, roedd y llongau tanfor a gollwyd yng Ngogledd Orllewin Môn o'r un Flotille ym Mergen ac yn achos yr U-1024, hon oedd yr olaf i'w cholli. Prin fis ar ôl y suddo fe ddaeth y rhyfel yn Ewrop i ben.

"Heddiw, mae criw'r llongau a gollwyd yn dal ar yr hyn mae llongwyr tanfor yn ei alw yn 'batrol tragwyddol' ymhlith y 27,491 o Ubootfahrers eraill sydd dal yn eu heirch haearn ar waelod y môr."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy