BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
13eg Gorffennaf 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llechi O Gymru i Granville
Hanes y cysylltiad rhwng ardal chwareli llechi gogledd Cymru ac America; tarddiad y gân werin, Moliannwn, a chyfle i glywed gan y Cymry lleol sydd â chysylltiadau teuluol â chwareli'r Unol Daleithiau.

gwrando Gwrandewch ar glipiau sain am y Cymry yn Granville.

Ar y ffin rhwng taleithiau Efrog Newydd a Vermont y mae ardal lechi America.

Yn y 19eg ganrif ychydig oedd yn gwybod mwy am y diwydiant llechi na dynion Blaenau Ffestiniog, Bethesda a Dyffryn Nantlle ac felly mae'r ardal wedi ei dylanwadu'n gryf gan y dynion hynny a'u teuluoedd aeth draw yno bryd hynny i chwilio am waith a bywyd gwell.

Symudodd dros 2,000 o Gymry draw i 'Slate Valley' ac mae dylanwad y Cymry i'w weld yno hyd heddiw, yn enwau'r tai, y geiriau ar y cerrig beddi a'r dreigiau cochion ar arwyddion.

Yn hanner cyntaf y 19eg ganrif byddai'n cymeryd dros chwe wythnos i gyrraedd Efrog Newydd mewn llongau hwylio - heb sôn am y daith o ogledd Cymru i borthladd Lerpwl.

Ond gyda dyfodiad y llongau ager, cwtogwyd y siwrne yn fawr a byddai rhai'n mynd a dŵad dros fôr yr Iwerydd i weithio'n dymhorol draw yn nhref Granville.

Meddai Dafydd Roberts o Amgueddfa Llechi Llanberis, sydd bellach wedi ei gefeillio a'r amgueddfa yn Granville: "Cychwynnodd y diwydiant llechi yn America yn y 1850au. Datblygodd y diwydiant yno fel yng Nghymru - oherwydd y galw i ddarparu toeau i'r trefi a'r dinasoedd diwydiannol.

"Mi gychwynnodd y diwydiant llechi yno yn y 1850au. Datblygodd yng ngogledd America am yr un rheswm yn union â gogledd Cymru - i ddarparu toeau ar gyfer y trefi diwydiannol newydd.

"Mudo o Wynedd oedd o yn bennaf, o ardal Blaenau Ffestiniog a gogledd Arfon - y cylch o Fethesda, drwy Lanberis i Ddyffryn Nantlle.

"Erbyn y 1970au roedd y diwydiant llechi yn ei oes aur yng Nghymru - ar un olwg roedd o'n rhywbeth ffôl i adael, ond roedd ambell i ddirwasgiad cyfnodol lle nad oedd y diwydiant yn ffynnu ac hefyd roedd yna ymwybyddiaeth o orthrwm y landlordiaid, gwastraff mawr teuluoedd y Faenol a'r Penrhyn. Roeddent am fyw bywyd eu hunain, heb ymyrraeth y landlordiaid."

Nid oedd llawer i groesawu'r mewnfudwyr cynnar - roedd yn rhaid adeiladu cartrefi, capeli ac eglwysi - cychwyn cymuned o'r newydd ym mhoethder yr haf ac eira mawr y gaeaf. Ond gwelodd nifer y cyfle i greu bywyd newydd, democrataidd gyda'r rhyddid i ddilyn crefydd o dan reolau newydd. Ond methodd nifer o'r Cymry a aeth draw â dygymod ag oerni'r gaeafau a symudodd nifer i daleithiau cynhesach America.

Roedd yr amodau a'r tâl yn well - a daeth nifer o'r Cymry yma yn berchnogion ar eu chwareli eu hunain.

Roeddent yn dal i fod yn ymwybodol o beth oedd yn digwydd adref gan fod erthyglau o bapurau Cymru yn cael eu cyhoeddi ym mhapurau Granville ac roedd sawl Eisteddfod fawr a bach yn cael ei chynnal yng ngogledd America yr adeg yma.

Erbyn hyn, er nad yw'r Gymraeg mor gryf yno mae'r Parchedig Martin Evans Jones yn dal i gynnal rhai gwasanaethau yn y Gymraeg ac mae côr y coleg lleol yn perfformio'r hen emynau.

Cefyn Burgess gyda Beti George yn Vermont Yn ogystal â chanu'r hen ganeuon, mae'r chwarelwyr aeth allan i'r Unol Daleithiau wedi anfon un ffefryn yn ôl. Yn ôl y sôn, am Granville y mae'r geiriau 'Ar ôl y tywydd drwg, gwnawn arian fel y mwg...' yn y gân Moliannwn - hynny yw, ar ôl peidio gallu gweithio'r tir yn ystod y gaeafau hir, pan fo'r ddaear wedi rhewi'n gorn, byddai'r haf yn dod â'r cyfle i ennill bywoliaeth dda.

Yn 2006, aeth Beti George draw i'r Blaenau ac allan i Granville i olrhain helyntion y Cymry aeth yno yn y 19eg ganrif ar gyfer rhaglen a ddarlledwyd ar Radio Cymru, O Gymru i Granville, ac i glywed gan y rhai sy'n dal i fyw yno hyd heddiw.

Aeth saith allan o naw o blant hen daid a nain Ifan Williams allan i America ac er mai yn y Blaenau mae ei gartref o, penderfynodd fynd i olrhain hanes ei hen deulu.
Gwrandewch yma ...

Ond ni chafodd pawb lwyddiant yn Granville. Dyma Iwan Hughes o'r Rhewl ger Rhuthun i fwrw golwg ar ddirgelwch saethu ei hen, hen daid gyda chymorth John Jones, ei gyfaill o Granville.
Gwrandewch yma...

Beth ysgogodd y Parchedig Martyn Evans Jones i groesi'r Iwerydd i Gapel Peniel yn Granville? Dewch am dro o amgylch yr hen gapeli Cymreig yn ei gwmni ef a'r arlunydd Cefyn Burgess, sy'n rhannu ei amser rhwng Penmaenmawr a'i siop yn Woodstock, Vermont.
Gwrandewch yma...

Chafodd Deio Hughes o Flaenau Ffestiniog erioed yr awydd i fynd draw i Granville, ond fe wnaeth sawl un o'i deulu gymryd y cam mawr.
Gwrandewch yma...

Ond mae nai Deio, David Lundy, wedi dilyn yn ôl traed Cymry'r 19eg ganrif. Gynt o'r Blaenau mae bellach yn byw ac yn rhedeg chwarel yn Granville a bu'n siarad ar y rhaglen am fywyd y mewnfudwr yn y 21ain ganrif.
Gwrandewch yma...


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy