BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Ymlaen i'r Ysgol Fawr
(Parhad o atgofion ysgol Glyn Heddwyn)

"Cyrhaeddodd mis Medi a sumud o fod yn bysgodyn mawr mewn pwll bach i fod yn sardin mewn môr anferth. Ni hoffais y lle o gwbwl ac mae arogl lledr newydd yn fy atgoffa o'm bag ysgol ac yn rhoi rhyw dro yn fy mol hyd y dydd heddiw.

O fod mewn dosbarth o ddwsin yr oeddwn erbyn hyn mewn dosbarth o ddeg ar hugain ac yn lle athro neu athrawes yn gyfrifol am y dosbarth trwy'r dydd deuai athro newydd i'r ystafell ar gyfer pob gwers wahanol. Diflannodd y cyfeillgarwch cynnes a wnai i rywun deimlo'n saff ac yn ei le daeth awdurdod a'r sylw i reolau ac i mi rhyw anesmwythyd ac ofn gwneud rhywbeth o'i le yn ddiarwybod, a chan na wyddwn beth oedd hunan hyder heb sôn am fod gen i beth, nid oes ryfedd fy mod heb setlo yno.

Yr oedd eira wedi disgyn un bore a phan aethom i'r ysgol yr hwyl fawr oedd taflu mops at unrhyw un a phob un. Yn y gwasanaeth boreol siarsiwyd ni gan y dirprwy brifathro a oedd yng ngofal yr ysgol ar y pryd fel acting headmaster nad oedd neb o'r lleiaf i'r mwyaf i lechio eira yn y ffordd a arweiniai at yr ysgol.

Yn ystod amser chwarae canol bore cerddwn i lawr y ffordd hon pan gefais fopen yn fy nharo yn daclus ar ochor fy mhen. Gwelais o ble y daethai a dyma afael mewn dwy law o eira, ei wasgu'n belen a thaflu yn ôl mewn dial. Daeth llais o'r tu ôl imi, "You there boy!" a phan drois gwelais y dirprwy a oedd yn digwydd bod yn dod rhyw ddeg llath tu ôl imi. Nid oedd waeth heb na cheisio osgoi, yr oeddwn wedi clywed y rhybudd yn ddigon plaen fel pawb arall lai na dwy awr yn ôl. Traethawd fu fy nghosb - pum tudalen ar eira.

Y wers nad oeddwn yn hoff o gwbwl ohoni oedd Ymarfer Corff, achos ein bod yn amlach na pheidio yn gorfod rhedeg traws gwlad. Un o'r troeon prin pan fum yn rhedeg cymerodd Deiniol fy ffrind a mi bron i ddeugain munud i gwblhau y daith. Yr wythnos wedyn, gan fod y cwrs yn mynd ar hyd y stryd ac o olwg yr ysgol ac wedyn allan i'r wlad am ryw filltir cyn inni droi yn ein holau penderfynodd Deiniol a minnau eistedd ar wal gardd rhyw dŷ ac ar ol i ryw hanner dwsin o'r hogiau basio yn ôl mynd ar eu holau yn ôl i'r ysgol. Yr oeddem yn ôl yn yr ysgol o fewn ugain munud neu lai o adael y lle ac fe ddeallodd yr athro yn syth nad oeddem wedi mynd i ben draw y daith. Ni chawsom gosb, yr oedd y cywilydd o fod wedi ceisio twyllo yn ddigon i sicrhau na ddigwyddai yr un peth eto.

Yr arholiad gwyddoniaeth amaeth oedd yr arholiad olaf (yn y bumed flwyddyn) ac euthum i neuadd yr ysgol ple y cynhelid arholiadau gyda'm offer ysgrifennu. Nid oedd ond fi ac un athro yno, gorffennais y papur tair awr mewn rhyw ddwyawr a thri chwarter, euthum i nôl fy mag a'm cot a cherddais allan trwy'r adwyon am y tro olaf fel disgybl. Yn union fel y diwrnod cyntaf yr oedd yn brynhawn chwilboeth ond yn wahanol i'r diwrnod hwnnw yr oedd deng mlynedd a mwy o addysg tu ôl imi yn hytrach nac o'm blaen."

Glyn Heddwyn, Enillydd Cadair Eisteddfod Plant yr Orsaf, Trawsfynydd 2003.

Nôl i'r dechrau


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy