BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Glyn Heddwyn Commandos, Lefn Plys a chips i ginio
"Dywedodd Mr Williams y prifathro fod yna ddau ddewis - mynd i ben draw Cwm Prysor am naw ceiniog neu fynd i New Brighton Lerpwl am naw swllt."

Roedd Glyn Heddwyn yn blentyn ysgol yn Nhrawsfynydd rhwng y 50au a'r 70au pan oedd y pentref gwledig ar ei brysuraf wedi'r ail ryfel byd a'r atomfa wrthi'n cael ei hadeiladu.

Dyma ddetholiad o ysgrif fuddugol Glyn am ei ddyddiau ysgol a enillodd iddo gadair Eisteddfod Stesion, Trawsfynydd, 2003 neu Eisteddfod Plant yr Orsaf fel mae hefyd yn cael ei galw.

Helyntion yr Ysgol Fach

"Daeth mis Medi a Richard Williams, y prifathro newydd, a minnau yn dechrau yn Ysgol Gynradd Trawsfynydd gyda'n gilydd. Ymddengys ei fod ef wedi bodloni yno yn hirach na mi achos ar ôl cael cinio ar y diwrnod cyntaf mi benderfynais i fy mod am fynd adref a cherddais yn ddi-rwystr o'r ysgol ac i fyny'r pentref. Yr oedd yn b'nawn hyfryd o braf heb un copa walltog ar y stryd.

Yr oeddwn wedi cerdded cryn bellter o adwy yr ysgol pan ddaeth Glenys Davies (o'r Pelydrau yn ddiweddarach), a oedd yn y dosbarth hynaf, i'm cwfwr. Yr oedd ar ei ffordd yn ôl i'r ysgol ar ôl bod adref am ginio a phan holodd i ble yr oeddwn yn mynd atebais yn ddigon gonest fy mod yn mynd adref. Y cwestiwn nesaf oedd "Wyt ti yn cael mynd?" gyda'r pwyslais ar y 'cael'. "Ydw," oedd fy ateb a dyna ddiwedd y sgwrs a chychwynnais i lawr y rhiw a fyddai yn fy arwain adref ymhen rhyw ddwy filltir.

Ychydig lathenni ymlaen o waelod y rhiw saif tri tŷ Isallt. Yn y trydydd ohonynt yr oedd Elwyn Williams y postman, ei wraig Gladys a'u mab Euros, a oedd flwyddyn yn hŷn na mi, yn byw. Daeth Mrs Williams i ben drws, wedi fy ngweld trwy'r ffenestr mae'n debyg, a chefais yr un cwestiwn "Lle'r wyt ti'n mynd?" Pan roddais yr un ateb, sef fy mod ar fy ffordd adref, dywedodd: "Mae yna siwrne faith i fynd adref, tyrd i'r tŷ iti gael afal i fynd efo chdi." Meddyliais fod hynny yn syniad da iawn a dilynais hi i'r tŷ. Dywedodd wrthyf am eistedd funud tra 'roedd hi ac Euros, oedd hefyd wedi dod adref i'w ginio, yn gorffen bwyta. Cyn eistedd estynnodd rai o deganau Euros imi chwarae â hwy ac yn ara deg medrodd fy narbwyllo mae y peth gorau fyddai imi fynd yn ôl i'r ysgol efo Euros a mynd ag un o'i lorïau efo fi i chwarae ar yr amod fy mod yn ei dychwelyd iddo ef i ddod adref ddiwedd y pnawn. Ac felly y bu, euthum yn ôl i'r ysgol heb i neb wybod fy mod wedi bod oddi yno.

Pan oeddem yn "Standard 1" yr oeddem yn ddigon hen i gael mynd ar y trip ysgol. Yn yr assembly un bore dywedodd Mr Williams y prifathro fod yna ddau ddewis, mynd i ben draw Cwm Prysor am naw ceiniog neu fynd i New Brighton Lerpwl am naw swllt. Gofynnodd i'r sawl oedd am fynd i Gwm Prysor roi eu llaw i fyny a rhoddodd Ieu a minnau ein dwylo i fyny. Yna gofynnodd i'r rhai oedd am fynd i New Brigton wneud yr un arwydd a rhoddodd y gweddill o'r ysgol eu dwylo i fyny.

Felly i New Brighton yr aeth y trip y flwyddyn honno ac ar y diwrnod es i i'r ysgol fel arfer a chefais ddiwrnod wrth fy modd, gwell na'r un trip. Pedwar ohonom yn unig oedd ar ein hochor ni o'r ysgol, Ifan Gwyn a Dewi Beddcoediwr, dau o'r hogiau hynaf a Ieuan, fy ffrind pennaf, a minnau.

Chwarae buom trwy'r dydd a Commandos oedd y gem. Cymerem arnom fod yn filwyr a oedd am dorri drwy linellau y gelyn a golygai hynny fod yn rhaid dringo wal y Twll. Y llecyn wedi ei amgylchynu gan bedair wal yn rhannol oedd rhwng yr iard isaf a'r iard uchaf oedd y Twll ac yn un gornel ohono yr oedd yr agoriad i'r llwybr â ai o un ochor i'r ysgol i'r llall. Yr oedd yn bosib dringo un rhan o'r wal o dan iard y bechgyn ond un o reolau aur yr ysgol oedd nad oeddem i fod i ddringo'r wal yma. Bu inni ei dringo lawer gwaith y diwrnod hwnnw a chan nad oedd neb yno i'n gweld yn gwneud hynny ni fu dim trafferth.

Gan nad oedd ond y pedwar ohonom yn y lle i gyd yr oedd y perygl yn llawer llai nac a fyddai petai trigian o blant yn rhedeg o gwmpas y lle fel byddai ar ddiwrnod ysgol arferol. Gan fod cyn lleied yn yr ysgol y diwrnod hwnnw cawsom chips i ginio, peth syfrdanol o anghyffredin y dyddiau hynny. Dyna yr unig dro imi gofio cael sglodion i ginio yn Ysgol Trawsfynydd.

I Sŵ Bae Colwyn aethai y trip ysgol flwyddyn wedyn. Cawsom ddiwrnod wrth ein bodd yno ac wedyn aethpwyd ymlaen i Barc Eirias i orffen y dydd.

I ddosbarth Leslie Williams neu Les bach fel y'i gelwid pan nad oedd mewn clyw, y symudasom y flwyddyn ganlynol. Yr oeddwn yn dipyn o ffrindiau gyda'r athro hwn achos yr oedd yn saethwr ac yn hoffi dod ar dir ein fferm i saethu grugieir. Cofiaf hefyd iddo geisio magu phesant yng ngardd ei dŷ cyngor a minnau yn mynd â iâr orllyd i eistedd ar yr wyau iddo a chael y gorchwyl pwysig o'i danfon i'w dŷ nepell o'r ysgol. Ni chofiaf fawr o helyntion yn digwydd pan oeddwn yn nosbarth y prifathro, sef blwyddyn y Lefn plys a'n blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd. Aeth y trip ysgol y flwyddyn honno i ymweld â chastell Harlech ac i'r ffair fach yn Y Bermo.

Deuem adref yn nwy sêt ôl y bws a phan edrychais allan o'r ffenestr ôl gwelais fod lori yn ein dilyn ac arni y gair Babycham a dywedais hynny wrth y criw gan ynganu y gair gyda'r 'ch' Gymraeg. Dechreuodd pawb chwerthin ond nid chwerthin am fy mhen ond chwerthin am fy mod wedi dweud jôc mor ddoniol. Pe baent ond yn gwybod mai fy anwybodaeth o'r iaith Saesneg a barodd imi fod mor hwyliog byddwn yn dipyn llai o foi yn eu golwg.

Ia, un or llawer o ddiwrnodiau braf a gefais yn yr ysgol gynradd oedd hwnnw ac ar ddiwedd y tymor dywedais ffarwel i'r ysgol fechan hon. Cofiaf pan oedd y prifathro yn ysgwyd llaw a dymuno'n dda imi yr ateb a roddais i'w gwestiwn beth oeddwn am wneud ar ôl gadael yr ysgol uwchradd oedd: "Ffermio Syr"."

Ymlaen i'r Ysgol Fawr tudalen 2


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy