|
Mae Garn Boduan yn un o gyfres o fryniau folcanig sy'n ffurfio asgwrn cefn Pen Llŷn. Mae caer bentir 10ha ar y mynydd lle gellir gweld lle roedd llinellau tair wal amddiffynnol. Mae'n werth mynd yno ar ymweliad gan fod dros 100 o strwythurau wal garreg, tai crwn ac adeiladau crwn a phetryal yn dal i'w gweld hyd heddiw. Mae olion 170 o gytiau crwn i'w gweld yno fel cylchoedd carreg sydd wedi dymchwel.
Nid oedd angen amddiffynfeydd mawreddog yma - roedd lleoliad naturiol Garn Boduan ar fryn serth anghysbell yn ei wneud yn safle amddiffynnol da. Mae peth tystiolaeth o ddyblygu amddiffynfeydd i'w gweld i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.
Y rhagfur garreg isaf yw'r amddiffynfa wreiddiol, tra bod y rhagfur uchaf wedi'i hadeiladu'n well ac yn fwy. Gall fod y waliau amddiffynnol mewnol wedi'u hadeiladu yn y canrifoedd yn syth ar ôl goresgyniad y Rhufeiniaid. Ai hwn oedd 'castell' Buan, sy'n cael ei ystyried yn ffigwr pwysig yn 600OC?
Mae'r brif fynedfa yn y gornel ogledd-ddwyreiniol. Gallai'r gaer fechan, neu gaer ddinesig, yn un pen y safle, fod yn hŷn. Yn ogystal, mae dwy ffynnon dŵr croyw ar y safle, oedd yn rhoi dŵr i drigolion y gaer drwy'r flwyddyn.
Cyfarwyddiadau
Mae'r mynediad i'r safle ar y ffordd B4354, tua 300 metr o'r groesffordd gyda'r A497. Fe welwch fynedfa i goedwig ar y chwith. Mae lle i barcio ond rhaid cymryd gofal rhag parcio ar draws y fynedfa. Mae llwybr yn mynd â chi o fynedfa'r goedwigaeth i'r safle. Ar yr ail dro garw ar y trac, cymerwch y llwybr uchaf yn syth ymlaen. Byddwch yn ofalus ar y tir anwastad.
 |