BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Ffynnon Fyw wedi ei hadfer Bywyd i hen ffynnon
Mae hen ffynnon â chysylltiadau crefyddol a iachaol ym Mhen Llŷn wedi cael ei hadfer yn sgil gwaith ymchwil newydd. Bleddyn Jones o Gyngor Gwynedd sy'n dweud hanes Ffynnon Fyw.
"Mae'n siŵr fod llawer o bobl leol yn ymwybodol o'r cyfoeth a'r amrywiaeth o ffynhonnau sydd ym Mhen Llŷn ac i lawer ohonynt gysylltiadau crefyddol a iachaol.

"Wrth baratoi Cynllun Rheoli cyntaf ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol (AHNE) Llŷn daeth yn amlwg fod cyflwr llawer o'r ffynhonnau hyn wedi dirywio yn sylweddol a bod ansicrwydd ynglŷn ag enwau a lleoliad rhai ohonynt.

"Penderfynwyd felly i gomisiynu prosiect ymchwil i gael gwybodaeth lawnach am ffynhonnau'r ardal a'u cyflwr.

"Penodwyd yr awdur a'r hanesydd lleol Elfed Gruffydd i wneud y gwaith ar ran y Gwasanaeth Ardal o Harddwch. Roedd gwaith yr Arolwg Ffynhonnau yn cynnwys ymchwilio i hanes a chefndir ffynhonnau'r ardal, asesiad o'u cyflwr presennol ac argymhellion ar gyfer gwneud gwelliannau a dehongli.

Y ffynnon cyn ei hadfer "Daeth yn amlwg o'r arolwg mai un o ffynhonnau pwysicaf yr ardal oedd Ffynnon Fyw, Mynytho (ger Capel Hebron). Rhoddir disgrifiad pur fanwl o'r ffynnon gan Myrddin Fardd yn ei gyfrol Llên Gwerin Sir Gaernarfon (1908) lle dywed ei bod yn ffynnon ragorol ac iddi furiau amgylchynol, grisiau i arwain ati, meinciau ar gyfer y defnyddwyr a dau faddon.

"Cafwyd gwybodaeth bellach am y ffynnon yn y gyfrol Ffynhonnau Cymru gan Ken ac Eirlys Gruffydd, Llyfrau Llafar Gwlad, 1999. Penderfynwyd dechrau ar y gwaith adfer ar y ffynnon hon oherwydd ei phwysigrwydd hanesyddol, ei hadeiladwaith nodweddiadol a'r ffaith ei bod mewn lleoliad hwylus i ymweld â hi. Roedd perchennog y tir hefyd yn gefnogol i'r gwaith.

"Pan wnaed yr arolwg roedd y ffynnon o'r golwg dan dyfiant ac nid oedd yn bosib mynd yn agos ati. Yn fuan ar ôl dechrau clirio'r tyfiant daeth gogoniant y ffynnon i'r golwg ac roedd y gweithwyr lleol Dylan Roberts a Gwilym Squires yn dweud ei fod yn bleser gweithio ar y safle. Fel y mae'r lluniau hyn yn ei ddangos mae'r waliau wedi eu hadfer a'u sefydlogi (er nid i'r uchder gwreiddiol) y ddau fasin wedi eu clirio, y gofer wedi ei drwsio a cherrig oddi mewn i'r ffynnon wedi eu hail osod.

Y ffynnon wedi ei hadfer"Ar sail iechyd a diogelwch penderfynwyd gosod ffens a giât o amgylch y ffynnon ond er mwyn amharu cyn lleied â phosibl a gweddu i'r cefndir gwledig, penderfynwyd gosod ffens amaethyddol a giât bren.

"Y camau nesaf fydd gwadd archwilwyr Cadw draw i roi ystyriaeth i restru'r ffynnon a llunio rhaglen gynnal a chadw er mwyn ceisio sicrhau na fydd y ffynnon yn dirywio i'r fath raddau eto."

Bleddyn Jones, Swyddog AHNE Llŷn, Cyngor Gwynedd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy