BBC HomeExplore the BBC

GWENER
25ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Yr arfordir ger Cricieth Adnabod ardal - Eifionydd
Beth wyddoch chi am hen ffiniau Eifionydd? Dewch ar daith hanesyddol o amgylch ardal papur bro Y Ffynnon yng nghwmni Wyn Bellis Jones o Abererch.

Yn yr hen ddyddiau roedd Cymru wedi ei rhannu yn gantrefi a chymydau ac un o'r cymydau hyn oedd Eifionydd.

Ond ble'n union mae Eifionydd? Wel, dychmygwch mai braich yn ymestyn i'r môr yw penrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru. Mae un pen i Eifionydd yn y gesail ym Mhorthmadog a'r llall tua'r penelin heb fod ymhell o Bwllheli. Yn y dwyrain mae'r ffin yn rhedeg bron at droed Yr Wyddfa. Nid Eifionydd biau'r rhan uchaf o'r fraich i gyd, chwaith. Yn y gogledd mae rhes o fryniau uchel fel asgwrn ar hyd y fraich ac rydyn ni'n mynd at droed y rhain.

Rhaid pwysleisio hefyd fod dalgylch papur bro'r ardal yn ymestyn ychydig ymhellach na ffiniau'r hen gwmwd i mewn i gantref Llŷn ac yn hepgor lleoedd fel Tremadog, Porthmadog a Beddgelert a fyddai'n rhan o gwmwd Eifionydd ers talwm - sydd dan ofal papur Yr Wylan.

Mae'r rhimyn cul rhwng y bryniau a'r môr i'r gogledd yn perthyn i Arfon. Erbyn heddiw gyda ffyrdd cyfleus a rheilffyrdd, mae hi'n bosib cyrraedd Eifionydd yn ddigon hwylus. Nid felly roedd hi yn yr hen ddyddiau. Yn y dwyrain roedd yn rhaid croesi'r Traeth Mawr lle mae Porthmadog heddiw, neu fynd dros y bylchau heibio'r Wyddfa.

Castell CriciethYn y gogledd roedd dau fwlch arall, rhai is mae'n wir, ond rhai digon blin i deithwyr ar droed neu ar gefn ceffyl drwy Bant Glas a Bryncir, neu drwy Lanaelhaearn. Mae'n siwr y byddai hi lawn cyn hawsed i'r hen bobl deithio efo cwch os oeddent am wneud taith bell ar hyd arfordir gogledd neu orllewin Cymru.

Un dref fach sydd yn y dalgylch, sef Cricieth. Mae hon yn hen dref ac mae castell hynafol yno yn dyst i hynny. Erbyn heddiw mae Cricieth yn dref glan môr gyda llawer o westai sy'n denu ymwelwyr ac mae ynddi rhyw awyrgylch gartrefol, hamddenol sy'n atyniad mawr.

Fe fydd pobl yr ardal yn dod i brynu yn y siopau bach sydd ar y stryd fawr, ond y dyddiau pwysicaf yng Nghricieth i bobl yr ardal yw dyddiau'r ddwy ffair ym Mehefin. Mae yno hefyd siop hufen iâ eitha' enwog, sydd wedi agor canghennau mewn trefi eraill erbyn hyn. Mae cerdded y prom a bwyta'r hufen iâ blasus yn ddefod bron i lawer o bobl leol.

Cricieth o'r castellArdal wledig yw gweddill y fro gyda nifer o bentrefi bychain fel Abererch, Y Ffôr, Llwyndyrus, Llanaelhaearn, Pencaenewydd, Llangybi, Llanystumdwy, Rhoslan, Pentrefelin, Penmorfa, Garndolbenmaen, Cwmystradllyn, Bryncir a Phantglas.

Mae ffermio yn bwysig iawn yma o hyd ac ar gadw gwartheg a defaid y mae'r pwyslais mwyaf. Mae'r mart ym Mryncir wedi ail agor wedi cyfnod ar gau ac yno y bydd llawer o ffermwyr yn cyrchu i brynu a gwerthu.

Mae nifer o ffermwyr yn parhau i gadw gwartheg godro a'r rhan fwyaf o'r cynnyrch yn mynd i ffatri laeth Rhydygwystl - un gydweithredol gafodd ei sefydlu yn 1937 (yr unig un yn y wlad) sy'n dal i ffynnu heddiw gan gynhyrchu llefrith, hufen a chaws i'r farchnad leol ac ar gyfer archfarchnadoedd.

Mae nifer o ffermwyr hefyd yn cadw ymwelwyr trwy gynnig gwely a brecwast, gosod bythynnod neu gadw carafannau. Ar benrhyn Penychain roedd gwersyll gwyliau Butlins ar un adeg, ond erbyn heddiw mae'n faes carafannau enfawr yn dwyn yr enw Haven.

Tre'r Ceiri o'r awyrYn Abererch mae mwy na thair milltir o draeth tywod bendigedig yn ymestyn o drwyn Penychain i Bwllheli. Uwchben Llanaelhaearn mae Tre'r Ceiri, caer o'r Oes Haearn lle mae olion yr adeiladau i'w gweld yn amlwg. Yn Llangybi mae'r ffynnon enwog ac eglwys ddiddorol.

Ym mhen arall y fro mae Cwm Pennant y canodd Eifion Wyn mor gofiadwy iddo, yng nghesail y moelydd unig. Ym mhen draw'r cwm mae olion yr hen chwareli llechi a chloddfeydd copr. Mae olion y diwydiant llechi i'w gweld hefyd yng Nghwmystradllyn.

Lôn Goed R Williams Parry (llun: Alys Meirion)Yng nghanol y fro mae'r hynod Lôn Goed y canodd R Williams Parry iddi: I lan na thref nid arwain ddim, ond hynny nid yw ofid im. Mae yntau'n mynegi'r teimlad o hen hanes ac agosatrwydd y canrifoedd pell - Hen, hen yw murmur llawer man sydd rhwng dwy afon yn Rhoslan.

Y ddwy afon yw'r Ddwyfach a'r Ddwyfor sy'n uno ger Llanystumdwy ychydig cyn llifo i'r môr. Mae llwybrau braf hyd lannau'r ddwy. Gerllaw yn Llanystumdwy y ganed David Lloyd George, y Prif Weinidog yn ystod y Rhyfel Mawr. Yno y claddwyd ef ac yno mae'r amgueddfa yn gofadail iddo.

Lle difyr i fyw ynddo yw Eifionydd - bro sy'n llawn hanes ond lle mae yna hefyd fwrlwm mynd a dod, yn arbennig yn yr haf. Ond yr hyn sy'n aros gyda phob ymwelydd a'r hyn y mae'r trigolion yn ei werthfawrogi fwyaf yw'r teimlad o heddwch a pharhâd sy'n bod yma. Yn anffodus mae'r un nodweddion yn denu pobl newydd i ymsefydlu yma, a hynny yn codi prisiau tai ac yn y pendraw yn gorfodi pobl ifanc i adael yr ardal.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy