Bryn creigiog, serth wedi ei orchuddio'n rhannol gan goed ydy Dinas Emrys.
Mae'n codi dros 76 o fetrau ar ochr ddeheuol Cwm Nantgwynant, yn teyrnasu dros Lyn Dinas islaw ac yn ganolbwynt pwysig a hanesyddol i'r ardal.
Mae olion fod pobl wedi byw yn Ninas Emrys yn ôl yn rhan olaf yr Oes Haearn. O edrych yn fanwl, gellir gweld tair rhagfur garreg yma hyd heddiw, gyda mynedfa yn torri ar draws pob un.
Ar ôl i archaeolegwyr gloddio o amgylch y mynedfeydd yma yn 1954-56, credir bod y rhagfuriau mewnol, sydd mwy neu lai'n ffurfio caer arall ar wahân ar y copa, yn dyddio'n ôl i'r cyfnod ar ôl y Rhufeiniaid.
Ceir tystiolaeth o'r enw Dinas Emrys yn ôl yn y 12fed ganrif ac mae'r safle ei hun wedi chwarae rhan allweddol yn nhraddodiad Canoloesol Cymru.
Crêd rhai bod gan yr enw gysylltiad ag Emrys Wledig(Ambrosius) a heriodd Gwrtheyrn (Vortigern), arweinydd y Brythoniaid yn y bumed ganrif.
Mae'r hanesydd Nennius, yn ei Historia Brittonum o'r 9fed ganrif, yn disgrifio pwll sydd yn guddfan i'r ddraig wen a'r ddraig goch - symbol o'r frwydr rhwng y pwerau Celtaidd-Rufeinig a'r pwerau'r Sacsoniaid. Mae rhai yn credu mai hwn yw'r pwll sydd y tu mewn i Ddinas Emrys.
Mae'r dreigiau yn ailymddangos yn stori Lludd a Llefelys yn y Mabinogi ac mewn fersiynau canoloesol eraill a adroddir gan Gerallt Gymro a Sieffre o Fynwy, mae'r enw Emrys yn gyfystyr â'r enw Myrddin.
Mae nifer wedi chwilio am drysor ar y safle, ond yn 1910 mae'r cofnod cyntaf o archwiliad o'r safle pan ddarganfyddodd Major CE Breeze 12 o stydiau efydd eurblat a bar o efydd eurblat wrth fôn y tŵr sgwâr. Hefyd, yn ardal y pwll darganfyddodd ddolen cyfrwy efydd (math o fwcwl) a oedd yn dyddio'n ôl i'r ganrif gyntaf Oed Crist.
Mae olion rhagfuriau hir i'w gweld ar y safle yn ogystal â sylfaen tŵr sgwar, sy'n dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif mae'n debyg.
Hefyd mae olion llwyfan crwn o'r 9fed ganrif neu'n gynharach, sydd wedi ei gysylltu gyda'r pwll.
Cyfarwyddiadau
Mae Dinas Emrys wedi ei leoli ychydig dros filltir i'r gogledd ddwyrain o Feddgelert ar yr A498. Mae'r fynedfa i'r safle o Craflwyn, eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle mae toiledau a llefydd parcio ar gael.
Mae'n safle bregus iawn sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fe'ch cynghorir i gysylltu â'r warden yn Craflwyn o flaen llaw ar 01766 510120.