|
Mae hwn yn safle diddorol tu hwnt ac yn werth ei weld. Mae'r clwstwr enwog o dai carreg wedi eu hamgáu oddi mewn i fur carreg yn nwyrain Ynys Môn.
Mae'n gyfuniad diddorol o gytiau crwn a phetryal ac mae rhai archeolegwyr yn awgrymu ei fod yn nodweddiadol o fila o Oes yr Haearn.
Mae waliau cerrig y tai a'r amddiffynfeydd yn cynnwys slabiau o galchfaen sy'n sefyll i fyny ar eu hochrau. Byddai rhai o'r adeiladau yma wedi bod yn llefydd byw ac eraill yn weithdai. Mae darganfyddiadau ar y safle yn cynnwys gwaith metel, crochenwaith a gwydr sy'n arwydd fod pobl wedi byw yma hyd at gyfnod y Rhufeiniaid.
Mae'r safle ar glogwyn isel ac mae'n werth mynd pe bai ond i weld yr olygfa. Mae mynediad i'r safle drwy adeilad petryal ar yr ochr ddwyreiniol - ysgubor oedd hefyd yn borth.
Mae nifer o nodweddion trawiadol yn perthyn i Din Lligwy. Mewn un cornel mae gweddillion tŷ mawr trawiadol, cylch o galchfeini wedi'i adeiladu'n gelfydd gyda grisiau yn arwain at y fynedfa. Hwn oedd y prif gartref ac mae'r darganfyddiadau yma yn cynnwys ingot arian, crochenwaith a phethau gwydr.
Mae haneswyr yn awgrymu bod yr adeilad crwn arall yn y gornel de-ddwyreiniol wedi bod yn gartref hefyd, tra fod y ddau adeilad petryal mwyaf, yn y gornel ogledd-ddwyreiniol ac yn erbyn y wal ddeheuol, yn weithdai gyda rhesi o ffwrneisi i weithio haearn a thomenni slag.
Mae'r safle, fel mae'n sefyll heddiw, yn ganlyniad, fwy na thebyg, i gyfnod hirfaith o ddatblygiad, ac efallai bod y wal sy'n ei amgáu hyd yn oed, wedi ei adeiladu mewn dwy ran gan fod newidiadau amlwg yn y steil adeiladu. Mae'r safle yn cael ei gynnal gan Cadw.
Cyfarwyddiadau
Dilynwch y ffordd mae arwydd Din Lligwy yn cyfeirio ato o'r cylchdro ar yr A5025 i'r de-orllewin o Foelfre. Ar ôl pasio beddrod Neolithig, mae'r ffordd yn lledaenu ac mae lle i barcio yma (tua 1 cilometr o'r A5025). Dilynwch y llwybr troed heibio i Gapel Lligwy.
 |