BBC HomeExplore the BBC

GWENER
18fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Castell Caer Lleion, Mynydd Conwy

Castell Caer Lleion: © Hawlfraint y Goron CBHC

Mae Castell Caer Lleion yn fryngaer drawiadol iawn o Oes yr Haearn. Mae wedi ei leoli mewn safle sydd o fewn cyrraedd cerddwyr ac ymwelwyr ac mae golygfeydd hynod o'r arfordir i'w gweld o'r safle.

Oherwydd ei leoliad naturiol ar gopa mynydd Conwy mae wedyn ei amddiffyn yn dda.

Gan bod ochr ogleddol y mynydd yn serth iawn nid oedd angen adeiladu unrhyw amddiffynfeydd ychwanegol. Ar ochr de-ddwyreiniol y safle mae modd gweld bwlch syml sydd yn ffurfio'r fynedfa wreiddiol.

Hyd heddiw mae modd gweld adfeilion 50 o gytiau cerrig a llwyfannau gwastad ar gyfer tai. Roedd y cytiau wedi eu lleoli tua'r de o fewn wal garreg drwchus. Roedd y gaer wedi ei lleoli yn wreiddiol ar frig greigiog y gefnen ac wedi ei hamddiffyn gan ragfur a ffos. Mae gwaith cloddio ar y safle wedi esgor ar gerrig tafl, melinau llaw a phestl a mortar carreg, ond dim y mae modd ei ddyddio.

Mae llwybr cerdded yn eich tywys i fyny'r mynydd i'r safle ond gofynnir i ymwelwyr fod yn ofalus i beidio ag amharu ar yr olion hanesyddol. Mae hi'n cymryd tua 30 munud i gyrraedd y safle ar y rhan fwyaf o'r teithiau, ond mae'n werth gwneud y daith er mwyn yr olygfa'n unig.

Cyfarwyddiadau


Mae gwahanol lwybrau cyhoeddus yn eich arwain i'r safle. Mae'r mynedfeydd ar Ffordd y Mynydd ger Parc Cadnant; Ffordd Sychnant neu o faes parcio Bwlch Sychnant (yr opsiwn gorau efallai os am barcio eich car).

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy