BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
19eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Actorion yn actio caethweisiaon a'u perchnogion Cyfoeth caethwasiaeth
Mae casgliad teulu'r Penrhyn o 1647 i 1940 ym Mhrifysgol Bangor yn olrhain y cysylltiad hir rhwng cyfoeth stâd y Penrhyn â chaethweision y Caribî fel eglura Einion Thomas, prif archifydd Prifysgol Bangor.
"Mae archif teulu'r Pennant yma ym Mhrifysgol Bangor yn ymestyn o'r 1670au i 1940, pan werthwyd y tiroedd yn Jamaica.

Daeth teulu'r Pennant o Sir Fflint yn wreiddiol. Rhoddwyd dau grant gan y Goron o 360 a 250 acer yn Jamaica i Gifford Pennant yn 1670 ac erbyn ei farwolaeth yn 1677 roedd y teulu'n berchen ar 7,000 acer o dir.

John Pennant oedd yr un olaf o'r teulu i fyw yn Jamaica - asiantau oedd yn rhedeg y planhigfeydd i'r teulu ar ôl hynny.

Nid oedd y Pennants yn wahanol iawn i deuluoedd eraill yn y bôn - y ddadl oedd, bod angen caethweision i redeg y planhigfeydd. Yn ôl Richard Pennant:

'It would be absurd to the men whose profit depends on the health of the African natives to purposely torment them during their voyage'.

Roeddent yn gweld y caethweision fel anifeiliaid - os cânt eu cam-drin, fydden nhw ddim yn gallu gweithio'n iawn.

Defnyddiodd Richard Pennant gyfoeth y teulu o'r planhigfeydd siwgr yn Jamaica i brynu stâd y Penrhyn ger Bangor a defnyddiwyd rhagor o'r cyfoeth i ddatblygu'r chwareli llechi yma yng Ngwynedd.

Erbyn 1822, roedd gan George Dawkins-Pennant dros fil o gaethweision mewn pedair stad. Roedd gan Gymry eraill gaethweision yno hefyd, fel Henry Rhodes-Morgan, a oedd yn rhedeg planhigfeydd 'Wales', 'Plumlumon' a 'Snowdon'.

Rhaid cofio ein bod yn nodi 200 mlynedd ers diddymu cludo caethweision o Affrica yn 2007; nid diwedd caethwasiaeth ond diwedd ar y fasnach i lefydd fel Jamaica. Roedd y rhai oedd ar yr ynys yn barod yn dal i fod yn gaethweision tan 1838.

Mae'n wir i ddweud fod agwedd y perchnogion tuag at y caethweision wedi newid ar ôl 1807 a diddymu'r fasnach, oherwydd nid oedd ychwaneg o gaethweision yn cael eu mewnforio. 'Roedd rhaid edrych ar ôl y rhai oedd ar ôl i sicrhau'r dyfodol.

Cafwyd gorchymyn nad oedd merched beichiog i weithio yn y caeau a bod plant yn cael un pryd da o fwyd pob dydd. Ond rhesymau economaidd oedd tu ôl i'r newidiadau yma, nid rhai dynol. Nid oedd llawer i gaethweision Jamaica ddathlu yn 1807. Fel y dywedodd un asiant mewn llythyr i George Dawkins-Pennant;

'Getting negroes to understand that though no more slaves will come, that they themselves will still be slaves was difficult and caused great resentment'.

Daeth caethwasiaeth i ben mewn dwy ffordd. Yn dilyn deddf 1833 gwnaed y caethweision yn brentisiaid di-dâl am gyfnod o chwe mlynedd. Sicrhawyd felly fod digon o lafur i redeg y planhigfeydd wrth i gaethwasiaeth ddod i ben.

Yn ogystal talodd y Goron iawndal £20 miliwn i'r perchnogion. Am ei 764 caethwas cafodd George Hay Dawkins-Pennant dros £14,000 mewn iawndal.

Diddymwyd caethwasiaeth yn y trefedigaethau Prydeinig yn swyddogol am hanner nos Gorffennaf 31 ,1838. Dyma yw'r dyddiad y byddai'r caethweision yn Jamaica wedi ei wir ddathlu."

  • Arddangosfa Sugar and Slavery, Castell Penrhyn
  • Prosiect Bethesda - Jamaica, Ysgol Llanllechid

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy