BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MERCHER
23ain Gorffennaf 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Huw Gruffydd Roberts Straeon Huw
Bu Huw Gruffydd Roberts o Bentre Ucha ond bellach yn byw yng Nghricieth, yn gweithio i Gymdeithas Amaethwyr Eifionydd am 25 mlynedd. Dyma rai o'r ymadroddion a'r straeon difyr mae'n eu cofio o'r cyfnod.

  • Gofyn i gwsmer a alwai yn y warws:

  • "Sut ydach chi heddiw?"
    "Digon ryw frith 'fachgan;"
    Yr un cwestiwn i un arall.
    "Digon balch a thlawd," fyddai ateb hwnnw yn ddi-eithriad.

  • Yn fuan wedi i mi ddod i'r warws yn Chwilog, ac heb ddod i adnabod pawb wrth eu henwau, a lle 'roedd cwmni arall yn gwerthu glo.

  • Un yn gofyn imi, "Welaist ti 'Dafydd Cerrig Drudion' hyd y fan yma?"
    "Naddo wir, dwi ddim yn ei nabod o rwy'n meddwl."
    "Mae pawb yn nabod 'Dafydd Cerrig Drudion,' ond mae o yn dweud mae glo mae o'n werthu!"
    Wrth gws 'roeddwn yn adnabod y gŵr wrth ei enw priodol.

  • Portar yn Stesion yn pwyso llwyth oedd yn mynd allan gan fasnachwr arbennig, a hwnnw yn dueddol o sefyll ar gwr y glorian - a meddai'r portar:

  • "Newch chi 'symud o fa'na."
    Meddai'r masnachwr: "Wyt ti'n deud m'od i'n lleidr?"
    A'r ateb: "Nac ydwyf, ond 'does arnaf ddim eisiau i neb arall gael dweud!"

  • Cymeriad arbennig arall, a'i ofyniad: "Oes gen ti 'rwbath yma nad oes ar neb ei eisiau?"

  • Yr awgrym oedd, nadoedd, waeth iddo ef ei gael am - am ddim wrth gwrs, gan ychwanegu:
    "Mae gen i hen lyfr yn y tŷ acw (gan gyfeirio at y Beibl) ac mae o'n deud yn hwnnw y dylen ni helpu ein gilydd!"

  • Cyrraedd fferm a'r tywydd yn wedi bod yn wlyb am gyfnod a phob man yn fwdlyd dan draed, y wraig yn fy nghyfarch yn y drws gyda: "Dowch i mewn," yn groesawgar.

  • "Na wir, mae'n nhraed i yn fudur iawn."
    "O dim rhaid i chi dynnu eich sanau," meddai.

  • Gwraig yn mynd i siop John Williams, Penlan, Pwllheli - y siop y byddai blawd llif yn cael ei daenu ar y llawr, ac yn cario i'r stryd wrth i chwi gerdded allan, ac yn pwysleisio yr hoffai gael 'cig mochyn cartra'.

  • "Siŵr, popeth yn iawn," meddai'r hen siopwr. Wrth droi allan meddai'r wraig: "Ia, 'roedd o'n fochyn cartra yn doedd."
    "Oedd yn tad," meddai yntau, "ond fod ei gartra dipyn yn bell." (Danish)

  • Ifan David Evans, Coed Cae Gwyn, Llangybi yn trafeilio yn ei hen gar yn gyson trwy groeslon Tŷ Newydd, Pencaenewydd yn y cyfnod pan na oedd hawl blaenoriaeth i'r naill ffordd na'r llall.

  • Ond un dydd bu gwrthdrawiad, a dywedodd Ifan David: "Bu inni ddigwydd cyfarfod ar adeg ychydig bach yn anghyfleus."
    Meddai'r gyrrwr arall: "Ble rydych yn trïo mynd ddyn?"
    Ac meddai Ifan yn ei addfwynder, gan weld y dŵr yn llifo o'r radiator: "Mae'n edrych yn debyg nad â'i unman rwan!"

  • Wil Vaughan wedi colli dafad, ac yn cerdded y ffordd i chwilio amdani ac yn gofyn i hen fachgen oedd yn torri metlin (cerrig a ddefnyddwyd i drwsio'r ffyrdd cyn amser y tarmac).

  • "Welaist ti ddafad yn pasio gyda 'V' ar ei chefn?" holodd Wil.
    "Mae'n rhaid ei bod yn gythral o un gre'," meddai hwnnw.

  • Gŵr a gwraig yn teithio mewn car, ac wedi anghydweld ar ryw bwynt, ac yn trafeilio am bellter heb i'r un dorri gair.

  • Yn sydyn meddai'r wraig wrth weld mul yn y cae: "Yli, dy frawd."
    Ac meddai yntau, "a'th frawd yng nghyfraith ditha!"

  • 'Roeddwn yn teithio adref o Bwllheli i Bentre Uchaf ar fws Llithfaen.

  • Wrth droi yn yr Efail Newydd, dyma rhywun yn nodi gyda rhyfeddod y nifer o dociau tyrchod oedd yng nghaeau fferm y Penllwyn.
    Ar hynny dyma Griffith Williams, Y Gwnys, ar ei draed, ac yn ei ffordd unigryw yn dweud: "Dowch i Gwnys, mae acw dociau fuasai yn baglu eliffant!"

  • Parch Morgan Griffith, Pwllheli, yn pregethu, a phlentyn bach ar lin ei fam yn torri allan i grïo ac aflonyddu.

  • Cododd y fam i fynd ag ef allan, a Morgan yn ymateb: "Dowch a fo i'r set fawr yma, mi gysgith hefo'r rhain!"

  • Hen fachgen byr o gorff wedi meddwi yn o arw, yn cael ei hebrwng gartre gan ddau o'i ffrindiau, un o bobtu yn hanner ei gario.

  • Yr hen heddwas Lymley Jones yn eu cyfarfod, a dweud: "Wedi meddwi heno eto?"
    Ac meddai Wil: "Ia, ac yn cael trafferth i fynd â'r ddau yma adra!"

  • Gwraig i yrrwr bws wedi cael efeilliad - er syndod iddo, dwy ferch fach.

  • Gofynnodd un o'i gydweithwyr iddo; "Beth wyt am eu galw?" ac meddai; "Un yn Kate a'r llall yn Duplicate."

  • Yn Sychnant, Pentre Uchaf roeddwn yn cael gwasanaeth i'm car a gŵr o Sais yn aros am ran i'w gerbyd.

  • Dyma Twm (Tomos Gwilym Griffith) yn dod oddiwrth y ffôn wedi cael gwybodaeth na ddaethai'r rhan am ryw awr, ac meddai'r Sais yn ddigon siriol:
    "I'll hang around Tom," ac meddai Twm yn syth: "I'm sure you'll find a rope somewhere!"

  • Blaenor a weithiai gyda'r ffyrm boblogaidd o'r de 'Corona' ac a ddaliai ar bob cyfle i ganmol y diodydd ysgafn hynny, hyd yn oed yng nghyfarfodydd y Capel.

  • Apeliwyd arno i beidio, ac addawodd ymatal, ond pan ddaeth cyfarfodydd crefyddol dechrau blwyddyn ac yntau yn llywydd y mis, cyhoeddodd:
    "Emyn 666, Corona eto'r flwyddyn hon!"

  • Stori Potchar, yn cael ei ymlid gan gipar yr afon, gan alw arno: "Stopia, rwy i wedi dy 'nabod 'di."

  • Ac meddai'r potchar: "Stopia 'di - 'does yna neb ar d'ôl 'di!"

  • Un arall yn cael ei ddwyn o flaen Llys am ei drosedd - ond yn gwadu.

  • Meddai Cadeirydd y Llys wrtho: "Sut y gallwch chi wadu nad aethoch drwy'r afon â'ch dillad yn socian o wlyb?"
    "Gwlith syr," meddai'r troseddwr.

  • Roedd teulu Tomos Jones, Plas Du, Chwilog yn dal i gynyddu ac meddai cymydog iddo: "Pryd wyt ti am stopio cael plant?"

  • "Wedi i mi gael tîm fwtbol," meddai yntau.
    Ymhen amser 'roedd un arall ar y ffordd, ac meddai Tomos: "Roedd yn rhaid cael reffari!"

  • Roedd y Bardd, y Parch R.S. Thomas yn aros am fws o Aberdaron i Bwllheli.

  • Fe ddaeth bws mawr a neb ond y gyrrwr ynddo ac meddai R.S. Thomas: "Fyddai ddim yn well i chi gael 'Mini Bus?'
    Ateb y gyrrwr: "Fyddai yn well i chi gael 'Mini Church?"

  • William Hugh, fy ewythr, wedi cael gwybod fod ei lyfr pensiwn wedi cyrraedd y post ac meddai yn siriol wrth Williams y Post Feistr:

  • "Rwy'n disgwyl am hwn ers pan oeddwn yn un-ar-bymtheg oed!"

    Rhan o sgwrs gan Huw Roberts.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy