BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Porth Amlwch Adnabod ardal - Dwyrain Môn
Dewch ar daith o Bentraeth i Amlwch ac yn ôl, a chanfod hanes enwogion ardal papur bro Yr Arwydd, trychineb y Royal Charter a mwy gyda Dewi Jones o Fenllech.

Mae'n debyg mai'r ffordd orau i grynhoi ein hymdriniaeth â'r fro hon yw teithio ar hyd ffyrdd yr ardal gan nodi ambell lecyn a chyfeirio at ambell gymeriad sydd yn enwog yn ei filltir sgwâr neu ar raddfa ehangach.

Mae'n debyg ein bod yn dod i fro'r Arwydd ym Mhentraeth, pentref a fu'n enwog am ei gantorion ac a roddodd fro mebyd i Ifor Thomas, y tenor a fu'n dirprwyo dros rai o denoriaid mawr y byd. Un a ddaeth yn gadeirydd yr Academi yn Efrog Newydd, ac yn ffotograffydd digon cymwys i dynnu llun arlywyddion yr Unol Daleithiau.

Yma, yn y Merddyn Gwyn, y trigai Wil Ifan o Fôn, y saer maen athrylithgar a'r awdur a anrhydeddwyd gan y Sorbonne ym Mharis ond a anwybyddwyd gan ei wlad ei hun. Ym Mhentraeth hefyd y mae'r Plas Gwyn, cartref y llyfrgell a ddaeth yn enwog dan ofal Paul Panton. A bu Charles Dickens yn aros yn y Panton Arms ar ei ffordd i weld llongddrylliad y Royal Charter, golygfa drist a roes ddeunydd ysgrifennu iddo yn ei Uncommercial Traveller.

Traeth CochWedi gadael Pentraeth fe ddown i Fro Goronwy, ardal a enwyd gan John Williams, ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Lenyddol Bro Goronwy a sefydlwyd yn 1901 ac sydd yn parhau i ffynnu. Mae'n debyg i Ifor Thomas ganu yn y Met yn Efrog Newydd ac fe wnaed hynny hefyd gan ei gymydog yn y byd cerdd, sef Gwyn Hughes Jones a anwyd ac a fagwyd yn Llanbedrgoch, dafliad carreg glaslanc o Faes Eisteddfod Genedlaethol Môn 1999.

Fe ddaliwn ni ymlaen ar y ffordd i Amlwch. Toc fe ddeuwn at y ffordd sy'n arwain i'r Traeth Coch, lle bu porthladd prysur a chwareli marmor.

Ymlaen, heibio'r odyn galch a graciodd ar y taniad cyntaf ond a adenillodd ei gogoniant mewn cylchgronau pensaernïol fel cartref pur fodern yn ei gyfnod. Yr ydym yn awr ger y Groes Wion, y bonyn o groes farchnad sy'n nodi'r fan lle deuai'r Tuduriaid o Benmynydd i brynu a gwerthu ceffylau.

Croes WionBenllech yw'r pentref nesaf. Mae'r gromlech, y ben-llech neu'r prif-faen i'w gweld y tu ôl i siop y fferyllydd. Heibio i Benllech awn ymlaen i gyfeiriad Moelfre. Ar y chwith, cyn cyrraedd croeslon Traeth Bychan mae'r Ysgubor Fawr a fu'n gartref i Emyr Humphreys, a thros y ffordd fawr mae gwesty'r Beauchelles, Glynllifon gynt, adeilad helaeth fu gynt yn gartref i'r nofelydd John Pierce (Dan Lenni'r Nos, Blacmel a Tri Mewn Trybini).

O droi i'r chwith fe gyrhaeddwn Marian-glas, a Phencraig lle ganwyd John Idris Owen (enillydd medal Ryddiaith Llanbedr Pont Steffan 1984), a symudodd yn y man i Dy'n-y-gongl ac i Ddinbych.

Dyma bentref mebyd yr actor Oscaredig Huw Griffith, ei chwaer ddisglair, Elen Roger Jones, a'u cefnder o awdur a darlithydd crwydrol, John Williams Hughes. Ond fe awn ni yn ôl i'r groeslon a dal ymlaen i gyfeiriad Amlwch a throi i'r dde ar gylchdro Paradwys i ymweld â Moelfre a wnaed yn enwog gan arwriaeth Richard Evans a chriw y bywydfad, a llongddrylliad 'y Royal Charter'.

MoelfreYn ôl i fyny'r allt at Eglwys Llanallgo lle claddwyd rhai trueiniaid o'r Royal Charter a man bedd John Williams (Glanmor) a ysgrifennodd y gerdd, Twll Bach y Clo. Yma hefyd yn ôl gair ei deulu, y mae bedd Richard Williams a gododd y baneri i drosglwyddo neges Nelson fod Lloegr yn disgwyl i bawb gyflawni ei ddyletswydd.

Ymhellach ymlaen mae pentref Brynrefail lle mae Côr Godre'r Arwydd yn ymarfer ac ar y dde wedyn mae Pentreirianell, cartref Morrisiaid Môn, sydd ag iddynt gofeb ar y bryn gerllaw eu cartref. Croniclwyd hanes y pedwar brawd yn ofalus gan y Parchedig Dafydd Wyn Wiliam.

O droi i'r dde yn y groeslon nesaf, ger capel Sardis, fe ddown at Eglwys Llanwenllwyfo, lle mae'r ffenestri enwog y sonnir amdanynt mor ysgolheigaidd, gan yr arlunydd J.O. Hughes, Brynglas. Yma eto mae beddau y rhai a gollwyd oddi ar y Royal Charter.

Mynydd ParysFe awn rhagom i bentref Penysarn, ac yr ydym yn awr yng ngolwg Mynydd Parys a gallwn fynd yn nes ato trwy fynd i mewn i dref Amlwch. Gellir cael hanes y dref hon a'r gwaith copr yng nghyfrol Eryl Wyn Rowlands, Mastiau a Siafftiau.Yma, ym Mhorth Amlwch, y mae'r amgueddfa forwrol newydd.

Ac yna Lannerch-y-medd, tref lle bu'r delyn yn offeryn mor bwysig ar un adeg, a'r cryddion mor niferus. Ysgrifennodd E. Wyn Hughes, brodor o'r dref erbyn hyn, y gyfrol Trem yn Ôl, a cheir hanes y dref yn y gyfrol ddiweddar Tamaid i'w Brofi o Lwch Mân Llan'achmedd gan T. A. Hughes.

Ac yn awr fe awn i'r dwyrain ac i gyfeiriad y môr, heibio Ffynhonnau Clorach lle cyfarfyddai Seiriol Wyn a Chybi Felyn,- achlysur a bortreadwyd mor lliwgar yng ngherdd Syr John Morris Jones.

Golau'r goelcerth

Rydym eto wrth droed Mynydd Bodafon, neu i roi ei enw gwreiddiol iddo, Mynydd yr Arwydd, neu'r Arwydd Eithin. Yma y cynnid coelcerth i rybuddio'r wlad fod llongau Napoleon yn bygwth ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ôl Humphrey Roberts yn 1800, gellid gweld golau'r goelcerth o Gaerludd, sef yr arwydd a roddodd enw i'r mynydd a'r papur bro:

Ym Mona ar ben mynydd
Y taniwyd tŵr eithin yn arwydd
Aiff gair ar led i Gaer Ludd
Os tania pawb eu tanwydd.

Fe ddywedir i ddeg ar hugain o drigolion Mynydd Bodafon fudo i'r Unol Daleithiau ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Bu'r olaf ohonynt farw yn Unadilla Forks yn wythdegau'r ganrif honno.

Ar y ffordd i Rosfawr gellid troi at Eglwys Llaneugrad, lle mae bedd John Phillips, sefydlydd y Coleg Normal. Ac fe gyrhaeddwn y Rhosfawr ganrif a hanner wedi i George Borrow gael sgwrs yn y Sbaeneg ger y California Arms, ac ymweld â'r felin ac â'r Dafarn Goch, cartref y bardd clasurol Goronwy Owen.

A dyna ni yn ôl ym Mhentraeth ar ôl llwyddo i ruthro o gwmpas bro gyfoethog Amlwch a'r cylch gan esgeuluso llawer llecyn pwysig ac aml i gymeriad diddorol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy