BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Amgueddfa Syr Henry Jones Amgueddfa Syr Henry Jones
Agorwyd yr amgueddfa yma, yn hen fwthyn teulu'r Jones', i ddathlu bywyd y crydd a ddaeth yn athro prifysgol, er iddo adael yr ysgol yn ddeuddeg mlwydd oed.

Un sy'n cofio'r diwrnod agor yn 1934 yw John Huws, gwirfoddolwr sy'n croesawu a thywys ymwelwyr o amgylch yr hen dŷ a'r pentref. Rhieni John oedd gofalwyr cyntaf yr amgueddfa a chafodd ei eni yn yr un hen lofft yn y tŷ lle safodd i wylio Lloyd George yn y seremoni agor pan roedd yn ddeng mlwydd oed.

"Pentref bach oedd Llangernyw adeg yna," meddai John. "Ond daeth bron i bedair mil o bobl i agoriad yr amgueddfa. Mi ges i 'bird's eye view' o hen lofft taid a nain Syr Henry wrth i mi edrych lawr ar y dorf, a'r plant ysgol yn canu ei hoff emyn, O Iesu Mawr.

"Pan welais i'r hen Lloyd George yn dŵad efo'i wallt gwyn fel bondo dros ei wegil dwi'n cofio dweud wrth mam bod o'n debyg i un o ddisgyblion Crist, er dwi ddim yn siŵr p'run!

Tra'n Brif Weinidog, roedd Lloyd George wedi cynghori sawl gwaith efo Syr Henry Jones ar faterion addysg, yn enwedig am y dreth o geiniog i sefydlu ysgolion uwchradd gan nad oedd Henry am i neb orfod ymladd gymaint am addysg fel y gwnaeth o.

Welsh Not Ysgol Llangernyw Ganed Henry Jones, neu Harri Cwm yn Llangernyw yn 1852 yn fab i'r crydd. Aeth i'r ysgol leol, ond cymerodd yn erbyn y prifathro oedd, yn ei farn o, yn ffafrio plant yr eglwys dros y capel. Roedd o hefyd yn credu mewn defnyddio'r Welsh Not. Byddai'r plentyn oedd efo'r darn o bren ar ddiwedd y dydd, oherwydd iddo siarad Gymraeg yn yr ysgol, yn cael ei gosbi gyda'r gansen.

Mae pren y Welsh Not, bysai Harri Cwm efallai wedi orfod ei gario, i'w weld yn yr amgueddfa.

"Felly mi adawodd ysgol Llangernyw yn 12 mlwydd oed ac eistedd wrth fainc y crydd yn ymyl ei dad," meddai John. "Mae'r hen weithdy dal yma, llawn yr hen offer; y mesurydd traed a'r hen ffedog dyllog a'r gwely yn y gornel."

Nid oedd yn arferol cael gwely mewn gweithdy, ond roedd Harri Cwm yn benderfynol o barhau efo'i addysg. "Byddai yn gweithio o wyth y bore i wyth y nos, mynd i'w wely yn y gweithdy nes i blismon y pentref cnocio ar y ffenestr am ryw un o'r gloch y bore, ac yn astudio drwy'r nos," Meddai John. "Dwi'n edrych ar y gweithdy fel rhyw fath o ysgol uwchradd, oblegid yno fuo fo'n astudio."

Daeth Mrs Roxborough o Gaer Llo i glywed am ei draethodau ac adroddiadau mewn eisteddfodau lleol. Cafodd fenthyg llyfrau ganddi cyn cyfarfod a John Price, prifathro'r ysgol gyfagos ym Mhandy Tudur.

"Cododd calon Harri ar ôl y sgwrs," meddai John. "Nid oedd John Price yn defnyddio'r Welsh Not cymaint a gwnaethant gytundeb; bod Harri'n mynd i'r ysgol dridiau'r wsnos a gweithio'r gweddill i dalu am ei addysg.

"A dyna'r hogyn yn camu adref llawn llawenydd hyd nes dod at chwarel Ty'n Ddol, lle aeth ar ei liniau, troi'r hen chwarel yn allor, a diolch i Dduw am yr ail gyfle roedd wedi gael."

Aeth ymlaen i ennill ysgoloriaeth i brifysgol Bangor cyn mynd ymlaen i brifysgol Glasgow. Bu yn athro athroniaeth mewn sawl prifysgol cyn dychwelyd i Glasgow ac ennill y gadair yno. "Aeth o fainc y crydd i gadair yr athronwr," meddai John.

Syr Henry Jones "Ond ddaru o ddim anghofio'r graig a fagwyd ohono. Pan ddychwelodd i weld ei gefnder, aeth i'r capel; ei ymddangosiad gyntaf fel Syr Henry. Galwodd ei hen ffrind, John Elis - Elis y Twlc - o'r set fawr, "dewch 'mlaen, Syr Henry,' 'Dim diolch', meddai o. Yna, galwodd, 'dewch 'mlaen, Doctor Henry,' ond ddaru o ddim symud. Wedyn dywedodd Elis Twlc, 'tyrd yn dy flaen, Harri Cwm', a cerddodd i lawr a gorthrymu gweddi efo'i hen gyfeillion."

Yn ogystal â dathlu bywyd Syr Henry Jones, mae yna yurt yng ngardd yr amgueddfa sy'n gynnig gweithgareddau ar gyfer y gymuned. "Nid ydym yn hoffi meddwl am amgueddfa fel rhywbeth sy'n edrych ar y gorffennol, ond rhywbeth sy'n fyw yn y gymuned," meddai Eleri Wyn, y swyddog datblygu. "Rydym yn cynnal gweithgareddau celf, creu basgedi, sesiynau adrodd straeon a mwy yn ein yurt."

Mae'r clwb garddio lleol hefyd yn tyfu llysiau a blodau o gyfnod teulu Harri Cwm ac yn ei gwerthu i'r Stag, y tafarn cyfagos.

Oriau agor: 1 Mai - 30 Medi, Dydd Mawrth - Gwener a gwyliau'r banc, 10.30 - 13.00 a 14.00 - 17.00. Sadwrn a Sul, 14.00 - 17.00.
Cyfeiriad: Y Cwm, Llangernyw, Abergele, LL22 8PR
Rhif ffôn: 01745 860630

Taith luniau o Amgueddfa Syr Henry Jones.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy