BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Amaethwyr Eifionydd
Huw Gruffydd Roberts o Gricieth sydd yn olrhain hanes sefydlu Cymdeithas Gydweithredol Amaethwyr Eifionydd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf.

"Sefydlwyd 'Cymdeithas Gydweithredol Amaethwyr Eifionydd' - neu yn ôl rheolau cofrestru y cyfnod, a enwyd yn 'Eifionydd Farmers Association Limited' ar Hydref 24ain, 1908.

"Ond roedd rhai blynyddoedd o baratoi wedi bod cyn dod i benderfyniad.

"Dechreuodd y cyffro cydweithredol yn siroedd Gorllewin Cymru tua throad y ganrif, ac aeth diprwyaeth o gynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro i astudio cyfundrefn gydweithredol Iwerddon yn Awst 1902.

"Aeth dirprwyaeth o Sir Gaernarfon yno hefyd, fis yn ddiweddarach, yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol Bangor.

"Evan R Davies, Cyfreithiwr ym Mhwllheli a henadur ar y Cyngor Sir, oedd symbylydd y trefniadau ac ymhlith y cwmni roedd D.H. Davies, 'Rorsedd Fawr, Pencaenewydd.

"Bu iddo 'sgrifennu hanner dwsin o erthyglau am Iwerddon a'i chyfundrefn gydweithredol ym mhapur newydd 'Y Genedl' ym misoedd yr Hydref hwnnw.

"Ond nid oes hanes i'r ymweliad, nac i'r erthyglau ddeffro ymateb yn Sir Gaernarfon, hyd y cynnwrf yn ardal Pencaenewydd tua diwedd Medi 1906 - bedair mlynedd yn ddiweddarach.

"Roedd y Parch J.C. Williams-Ellis, sgweiar stad y Glasfryn a fu'n diwtor Coleg Sidney, Caergrawnt, yn bendant iawn y dylid ffurfio 'Co-operative Society' yn y cylch.

"Roedd ei fab Rupert yr un mor frwd ynghyd â nifer o ffermwyr ieuanc, ac o'r herwydd yn ysgoldy Capel Pencaenewydd y cafwyd y cyfarfod cyntaf ym Medi 1906.

"Daeth rhyw bymtheg ynghyd, ond ansicr iawn oeddynt i gymeryd y camau priodol i sefydlu 'Cymdeithas' yn bennaf am fod gafael y masnachwyr unigol yn gryf ar yr amaethwyr yn y cyfnod hwnnw.

"Aeth blwyddyn arall heibio, pryd yr aeth Rupert Williams-Ellis i'r Iwerddon i geisio rhagor o wybodaeth ac yna cysylltu gyda prif swyddfa'r 'Co-Operative Wholesale Society' ym Manceinion.

"Bu hefyd yn cyfarfod gyda Mr Walter Williams, a oedd yn drefnydd 'Y Gymdeithas Drefnu Gwledig' yng Nghymru.

"Yn dilyn hyn cafwyd cyfarfod ar Hydref 9fed, 1907 pryd yr oedd un ar ddeg yn bresennol a phenderfynu derbyn rheolau parod, 'Y Gymdeithas Trefnu Gwledig.'

"Penodwyd Owen Griffith, y Glasfryn Fawr yn ysgrifennydd ac am y cyfnod cyntaf byddai'r pwyllgor yn cyfarfod ddwy waith y mis, er ym 1909 penderfynwyd cyfarfod unwaith y mis.

"Rupert Williams-Ellis a etholwyd yn Gadeirydd, ond wedi ychydig droeon cymerwyd y gadair trosodd gan DH Davies - 'am na fedrai Williams-Ellis ddigon o Gymraeg i lywio'r gweithgareddau yn hwylus.'

"Yn Gymraeg y mae cofnodion y Gymdeithas o'r cychwyn, ac un o benderfyniadau'r cyfarfod cyntaf oedd holi am gael rheolau'r Gymdeithas yn y Gymraeg - ac fe archebwyd hanner cant o gopiau yn ddiweddarach.

"Penderfynwyd agor cyfrif yn y 'North and South Wales Bank' a phob dyled i'w thalu erbyn yr unfed dydd ar hugain ar ôl derbyn yr anfoneb, gyda'r elw a fynnai'r Gymdeithas wrth werthu i amrywio rhwng 2½ a 5 y cant.

"I orsaf Chwilog y deuai'r nwyddau, gan nad oedd gan y Gymdeithas le sefydlog fel stordy.

"Erbyn 1909, a'r aelodaeth yn 44, penderfynwyd cael sied ar safle'r rheilffordd yn Chwilog, yn mesur i fod yn 24 troedfedd wrth 16 a byddai £25 yn swm sylweddol i'w dalu amdani.

"Yn y cyfarfod blynyddol yn Neuadd y Dref, Pwllheli ar Fawrth 15ed, 1910, pasiwyd i gael swyddfa yn Stryd Penlan a'i hagor ym mis Mai."Addasiad o sgwrs gan Huw Gruffydd Roberts: "Y Gymdeithas a'i Sylfaenwyr."

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy