BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
30ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwefannau Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Tammi Gwyn a Rhodri Meilyr yn actio yn Ar y Lein (Bara Caws) Y Celfyddydau
Ym maes theatr, arlunio, cerddoriaeth, dawns, llenyddiaeth neu ffilm, mae'r celfyddydau yn bwysig iawn yng Nghymru a digon o artistiaid talentog yn sylwebu ar eu hardaloedd mewn myrdd o wahanol ffyrdd.
Oriel Mostyn, Llandudno
http://www.mostyn.org
Er mai prin iawn ydy'r Gymraeg ar y safle yma, mae'n rhoi gwybodaeth am ddigwyddiadau, prosiectau addysg a gwasanaethau yr oriel. Mae hefyd yn dangos detholiad o ddelweddau o arddangosfeydd hen a newydd. Rhaid cael Flash i fynd i mewn i'r safle ond mae modd dilyn cysylltiad o'r ddalen gartref i'w lwytho i'ch peiriant os oes angen.

Theatr Ardudwy
http://www.theatrardudwy.co.uk/
Mae graffeg y safle yma yn syml a deniadol gydag aderyn bach yn eich dilyn wrth ichi symud eich llygoden dros y sgrîn! Efallai nad ydy'r brif ddalen wedi ei diweddaru ers tro (mae'n cynnwys cyfarchiad gan y cyn gyfarwyddwr, Mici Plwm, sydd bellach wedi gadael y theatr) mae'r cysylltiadau ar y llaw chwith yn eich harwain at wybodaeth gyfredol am y dramâu a'r ffilmiau sydd i ddod.

Theatr Gogledd Cymru, Llandudno
http://www.nwtheatre.co.uk/index.asp
Safle syml, hawdd ei ddefnyddio sy'n rhoi gwybodaeth am be' sydd ymlaen yn y theatr. Cliciwch ar yr adran ar y bar llywio ar y chwith a bydd rhagor o is-adrannau perthnasol yn dod i'r amlwg i'ch arwain at wybodaeth bellach.

Y Rêl Institiwt
http://www.realinstitute.org
Chwiliwch am y rhestr o adrannau sydd mewn testun llwyd gwan yng nghornel dde uchaf y sgrîn. Drwy glicio ar y cysylltiadau hyn, cewch wybodaeth am ffilm neu ddigwyddiad diweddaraf y gymdeithas unigryw hwn o Ddyffryn Conwy yn ogystal â chyn brosiectau. Bwriad y gymdeithas ydy dod â syniadau newydd i fyd y celfyddydau a ffilm yn yr ardal.

Yr Academi Frenhinol Gymreig, Conwy
http://www.rcaconwy.org
Rhaid gwneud dipyn o waith sgrolio i gyrraedd y botymau i weddill y safle ar waelod y dudalen - ac mae cysylltiadau llywio ar waelod pob tudalen. Mae'r tudalennau syml hyn yn cynnwys gwybodaeth am arddangosfeydd, hanes yr oriel, enghreifftiau o waith artistiaid a lleoliad yr oriel.

Rygarug
http://www.rygarug.org/
Safle lliwgar prosiect sy'n hyfforddi pobl ifanc Dyffryn Peris yn y celfyddydau perfformio. Mae digon o luniau ar y wefan i roi blas ar weithgareddau a chynyrchiadau'r prosiect a lincs clir i'w dilyn i roi gwybodaeth i rieni ynglŷn â thiwtoriaid, sut i gofrestru eu plant a lle mae'r canolfannau

Clwb Cerdd Dolgellau
http://www.dolgellaumusicclub.org.uk/
Mae'r wefan yma yn ddigon syml, heb luniau na llawer o liw. Ond mae'n rhoi cyflwyniad da i'r clwb, gan gynnig ychydig o'i hanes, gwybodaeth am y pwyllgor a gweithgareddau'r clwb. Mae linc o'r ddalen gartref i weld y wybodaeth yn y Gymraeg.

Hogia'r Ddwylan
http://www.hogiarddwylan.co.uk/
Dysgwch am hanes y côr a gwrandewch ar gip o'u ganeuon cyn ystyried eu gwahodd i ganu i chi.

Llwyfan Gogledd Cymru
http://www.llwyfan-gogledd-cymru.com/
Cafodd y cwmni theatr yma ei sefydlu pan ddaeth yr hen Gwmni Theatr Gwynedd i ben. Mae wedi ei seilio yn y gogledd er ei fod yn teithio ar hyd a lled Cymru. Mae'r wefan yn cynnwys manylion eu cynhyrchiad diweddaraf, yn edrych nôl dros gyn gynyrchiadau ac yn rhoi cyfle ichi drafod dramâu yn y fforwm drafod hefyd.

Côr Meibion Dolgellau
http://mysite.wanadoo-members.co.uk/cormeibiondolgellau
Mae hon yn drysor fach o wefan sy'n cynnig mwy na gwefannau corau arferol. Er ei bod yn eithaf prysur o ran cynllun mae popeth yn ei le a lle i bopeth. Mae dyddiadur cyngherddau'r côr wedi ei ddiweddaru, mi gewch hanes a repertoire y côr, manylion cysylltu clir, a hanes a lluniau o'u trip i'r Unol Daleithiau. Ar ben hynny, mae yma ddolenni i safleoedd diddorol lleol a cherddorol eraill hefyd.

Seindorf Arian Deiniolen
http://www.deiniolenband.org.uk/
Gwefan dwt a thaclus sy'n hawdd ei darllen a llywio drwyddi ac sy'n cynnig gwybodaeth am y band, manylion eu cystadlaethau, hanes, gwybodaeth am y band ieuenctid, sut i gysylltu a nifer fawr o orielau lluniau difyr o wahanol ddigwyddiadau (er nad yw'r cysylltiad â rhai lluniau i'w gweld yn gweithio weithiau.)

Diolch i Dylan Williams am enwebu'r wefan yma


Côr Cyntaf i'r Felin
http://www.corcyntafirfelin.co.uk/
Mae'r wefan fach ond cynhwysfawr yma yn gyflwyniad gwych i Gôr Cyntaf i'r Felin, y Felinheli. O hanes ei sefydlu i newyddion am ei llwyddiannau diweddaraf, mae'r wefan yma yn ffordd dda o gadw i fyny efo'r hyn sy'n digwydd ym myd y CCIF.
Cynigiwyd gan Meilyr o'r Felinheli

Galeri
http://www.galericaernarfon.com/
Mae'r ganolfan mentrau creadigol a agorodd ar y cei yng Nghaernarfon yn 2005 yn addo bod yn ganolbwynt ar gyfer pob agwedd o'r celfyddydau yn y gogledd. Mae'r wefan ar hyn o bryd yn rhestru'r newyddion diweddaraf, staff a swyddi gwag, lluniau a digwyddiaddau.

Galeri y Tonnau, Pwllheli
http://www.tonnau.com/cymraeg/
Mae'r wefan yma yn rhoi cipolwg ar waith yr arlunwyr a ffotograffwyr sydd i'w weld yn galeri newydd Pwllheli.
Awgrymu gan Rhodri, Pwllheli

Oriel Plas Glyn-y-weddw
http://www.oriel.org.uk/
Gwefan 'oriel hynaf Cymru' sy'n rhoi gwybodaeth am eu harddangosfeydd a'r darnau celf a phrintiadau sydd ar werth yno. Mae hefyd yn egluro'r holl wasanaethau sydd ar gael yn yr oriel ac yn rhoi cip ar hanes difyr yr adeilad a adnewyddwyd gan Dafydd a Gwyneth ap Thomas yn yr 1980au.

Rhowch wybod inni am unrhyw wefannau da eraill rydych chi'n dod ar eu traws.



Celfyddydau - Cyngor Gwynedd
http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?cat=5544&doc=19151&Language=2
Cipolwg ar brosiectau Cyngor Gwynedd yn y byd celfyddydau. Cynnig gan Gwawr o Gaernarfon


Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy