BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
W.J.Gruffydd
W.J.Gruffydd

Ganwyd: 14 Chwefror, 1881

Magwyd: Llanddeiniolen

Addysg: Ysgol Bethel; Ysgol Sir Caernarfon; Coleg Iesu, Rhydychen


Bardd, beirniad, ysgolhaig a golygydd

Bu W.J.Gruffydd yn gawr ymlith llenorion Cymraeg y cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd ac yn ddylanwad mawr ar gwrs llên Cymru am flynyddoedd lawer.

Yn ysgolhaig, yn olygydd, yn feirniad ac yn fardd, prin oedd y meysydd nad oedd wedi cyffwrdd â nhw, i'r fath raddau roedd yn anochel, gyda threigl amser, bod to newydd o awduron ifainc yn gwthrhyfela'n erbyn y safonau a yr oedd yn eu gosod.

Fe'i ganwyd ym Methel, ym mhlwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, ym 1881, yn fab i chwarelwr.

Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle darllennodd y Clasuron a Llenyddiaeth Saesneg.

Yn Rhydychen daeth o dan ddylanwad Sir John Rhys ac O.M.Edwards a feithrinodd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg.

Ym 1906 fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg y Brifysgol, Caerdydd, ac yn Athro Celteg (newidiwyd teitl y swydd i Adran y Gymraeg yn ddiweddarach) ym 1918; arhosodd yno hyd ei ymddeoliad ym 1946.

Rhyddfrydwr

Bu'n amlwg ym mhwllgorau'r Eisteddfod Genedlaethol a penodwyd ef yn Llywydd y Llys ym 1945.

Rhoddai W. J. Gruffydd bwys mawr ar ryddid meddwl ac nid oedd yn barod i ymglymu wrth unrhyw gyfundrefn ddeallusol, boed boliticaidd neu grefyddol.

Cynhyrfodd y dyfroedd yn ddirfawr ym 1943 pan safodd yn enw'r Blaid Rhyddfrydol yn erbyn Saunders Lewis am sedd Prifysgol Cymru, a'i hennill, er mawr ddicter y cenedlaetholwyr.

Mynegodd ei farn radicalaidd yn ddi-flewyn-ar-dafod yn y cylchgrawn chwarterol Y Llenor yr oedd yn olygydd arno o 1922 hyd nes y dirwynwyd ef i ben ym 1951.

Dyma'r cyfnodolyn a arweiniodd y dadeni yn llên ein gwlad yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd: ymddangosodd gwaith bron pob llenor o bwys yn ei dudalennau.

Meddwl aflonydd

Er nad oedd y golygydd yn ei glymu ei hunan wrth unrhyw garfan arbennig, arddelai safonau uchel parthed arddull, orgraff a chystrawen ramadegol.

Serch hynny, mae yna elfen o anghysondeb yn y wahanol safbwyntiau a arddelai'n ystod ei yrfa, yn enwedig parthed y ddau rhyfel byd (roedd yn heddychwr ym 1914 ac yn frwd dros ymladd yn erbyn Hitler ym 1939) - ond meddwl aflonydd a chyfnewidiol oedd gan W.J.Gruffydd, a dweud y lleiaf.

Bardd galluog

Cychwynnodd fel bardd, gyda'r gyfrol Telynegion (1900) ar y cyd â'i gyfaill R. Silyn Roberts, cerddi sy'n llawn teimlad, lliw a synwyrusrwydd, yn y dull Rhamantaidd Seisnig.

Aeth ymlaen i aeddfedu gyda'r cyfrolau Caneuon (1906), Ynys yr Hud (1923) a Caniadau (1932), detholiad a baratôdd ar gyfer Gwasg Gregynog.

Llenor rhyddiaith

Ysgrifennodd ryddiaith coeth a chyfoethog, er mae ei arddull yn taro darllenydd y dwthwn hwn braidd yn anystwyth.

Ei gampwaith yw Hen Atgofion (1936), lle disgrifiodd ei blentyndod a'i febyd, gan fynegi ei farn yn blwmp ac yn blaen ar amrywiaeth o bynciau'r dydd.

Cyhoeddwyd detholiad o'i ysgrifau o dan y teitl Yr Hen Ganrif ym 1991.

Cyhoeddodd hefyd Cofiant Owen M. Edwards (1937) a dwy gyfrol ar hanes barddoniaeth a rhyddiath, sef Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 (1922) a Llenyddiaeth Cymru: Rhyddiaith o 1540 hyd 1600 (1926).

Ei brif ddiddordeb ym maes ysgolheictod oedd Pedair Cainc y Mabinogi: cyhoeddodd Math Vab Mathonwy ym 1928 a Rhiannon ym 1953.

Roedd hefyd yn olygydd blodeugerddi dylanwadol: Y Flodeugerdd Newydd (1909) ac Y Flodeugerdd Gymraeg (1931).

Bu farw W.J.Gruffydd ym 1954.

Gwelir plac ar y tŷ, Gorffwysfa, ym Methel, lle ganwyd ef. Mae ei fedd ym mynwent Llanddeiniolen o dan ywen 'hirymharous' ei gerdd enwocaf.

Meic Stephens


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy