BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
18fed Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Twm Morys
Twm Morys

Ganwyd: 1961 yn Rhydychen

Magwyd: Llanystumdwy ger Cricieth

Addysg: Ysgol y Llan, Llanystumdwy, Ysgol Fonedd yn Amwythig ac Ysgol Gyfun Aberhonddu


Bardd a pherfformiwr poblogaidd.

Mae Twm Morys wedi dangos ei ddoniau amryddawn fel ymchwilydd, clerwr a chanwr mewn band yn y gorffennol ond mae bellach hefyd yn brifardd ar ôl ennill cadair Eisteddfod Maldwyn 2003 ar y testun Drysau.

Yn ôl y beirniaid, roedd ei awdl ben ac ysgwydd yn uwch na'r naw cystadleuydd arall gan fod ganddi "ddyfnder a gweledigaeth yn ogystal ag angerdd cyson". Roedd yn benderfyniad poblogaidd ac yntau wedi dod yn agos iawn at y brig y flwyddyn flaenorol pan gadeiriwyd un o feirniaid 2003, Myrddin ap Dafydd.

Cafodd Twm, sy'n fab i'r awdur a'r newyddiadurwr Jan Morris, ei eni yn Rhydychen i deulu Eingl-Gymreig. Dywed fod un o'i deidiau yn fecanig o Sir Fynwy, a'r llall yn blanwr te yn Ceylon.

Symudodd ef a'i deulu i Lanystumdwy pan oedd yn ddwyflwydd oed, a dyma lle mae ei gartref hyd heddiw.

Cafodd ei anfon i ysgol breswyl yn saith mlwydd oed, cyn dychwelyd i Gymru a sefyll ei arholiad lefel A mewn Cymraeg yn Ysgol Gyfun Aberhonddu - fo oedd yr unig ddisgybl yn y dosbarth.

Aeth ymlaen i Goleg Prifysgol Aberystwyth i wneud Astudiaethau Celtaidd, ac ennill cadair yr Eisteddfod Ryng-Golegol tra roedd yno. Ar ôl graddio, cafodd swydd fel ymchwilydd gyda Radio Cymru, yna bu'n ennill ei fara menyn fel clerwr cyn mynd i fyw i Lydaw am ddegawd.

Mae ganddo ddau o blant, Angharad a Gwion ac mae'n briod â Sioned Wyn. Mae hefyd yn canu gyda'i fand, Bob Delyn a'r Ebillion, ac yn cyflwyno rhaglenni radio a theledu.

Mae ei waith cyhoeddedig yn cynnwys cyfrolau o gerddi Ofn Fy Het (1995), Mymryn Bach o Hon (1998) a 2 (2002) ynghyd â gwaith ar y cyd â Jan Morris, Ein Llyw Cyntaf (2001) ac A Machynlleth Triad.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy