BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
R.Gerallt Jones
R.Gerallt Jones

Ganwyd: 1934

Magwyd: Llŷn, Gwynedd

Addysg: Ysgolion bonedd yn Lloegr, Prifysgol Bangor


Llenor, bardd a beirniad llenyddol.

Awdur toreithog oedd R.Gerallt Jones a ysgrifennodd mewn amryw gyfrwng ac arddull.

Problemau cymdeithasol a safle'r unigolyn sy'n brwydro'n erbyn grymoedd gormesol yw prif thema ei nofelau.

Eang oedd ei orwelion a chafodd brofiadau gwerthfawr mewn sawl gwlad megis Jamaica ac India.

Yn ei feirniadaeth - ac mae yna cryn dipyn ohono - mae'n tueddu at athronyddu, ond mae ei weledigaeth a'i werthoedd gwâr wastad ar y blaen.

Gwreiddiau ym Mhen Llŷn

Ganwyd Robert Gerallt Jones ym 1934 yn Llŷn, Sir Gaernarfon, yn fab i offeiriad Anglicanaidd, ac fe'i haddysgwyd mewn ysgolion bonedd yn Lloegr cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle darllennodd Saesneg.

Tra oedd yn fyfyriwr sefydlodd, ar y cyd â Bedwyr Lewis Jones, y cylchgrawn Yr Arloeswr.

Cafodd yrfa hynod o amrywiol. Bu'n athro Saesneg, yn ddarlithydd mewn Addysg, yn Brifathro Coleg Addysg yn Jamaica, yn Warden Coleg Llanymddyfri, yn uwch-diwtor yn Adran Efrydiau Allannol Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yna, o 1989 hyd 1995, Warden Canolfan Prifysgol Cymru yng Ngregynog.

Ym mhob un o'r swyddi hyn ennillodd lu o gyfeillion ar gyfrif ei bersonoliaeth hawddgar a'i ddysg eang.

O 1987 hyd 1992 bu'n olygydd y cylchgrawn Taliesin.

Gwaith Cymraeg a Saesneg

Cychwynnodd yn fardd gyda'r cyfrolau Ymysg y Drain(1959) a Cwlwm (1962), cerddi telynegol eu naws yn bennaf.

Mae ei gyfrolau diweddarach, Cysgodion (1972) a Dyfal Cerddwyr y Maes (1981), yn cynnwys cerddi mwy moel.

Cyhoeddwyd casgliad o'i holl gerddi Cymraeg ym 1989.

Ceir ei gerddi Saesneg yn Jamaican Landscape (1969); cyhoeddodd hefyd gyfrol sylweddol o gyfieithiadau, sef Poetry of Wales 1930-70 (1974).

Problemau cymdeithasol

Mae ei ddiddordeb brwd mewn problemau cymdeithasol i'w gweld yn ei nofelau: yn Y Foel Fawr (1960) a'i ddilyniant Nadolig Gwyn (1962) ceir hanes delfrydwr o Gymro'n ymdrechu dros hawliau pobl dduon yn Ne Affrica yn ystod cyfnod apartheid.

Gyda Triptych (1977), sy'n ymdrin â dirywiad ysbrydol y byd modern, a Cafflogion (1978), sy'n ymwneud â chymuned gydweithredol yn Llŷn, enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddau achlysur.

Cafodd ei lwyddiant mwyaf gyda Gwared y Gwirion (1966), casgliad o straeon byrion - yn bur hunan-gofiannol - am blentyn yn ardal enedigol yr awdur ei hun; fe'i trowyd yn gyfres deledu boblogaidd o dan y teitl Joni Jones.

Gorwelion eang

Yn ei ysgrifau beirniadol ceisiai R. Gerallt Jones archwilio argyfwng Cymru yng nghyd-destun y gymdeithas gyfoes, yn enwedig y Trydydd Byd.

Yn ei dair cyfrol mae ei safbwynt rhyddfrydol yn eithaf amlwg: Yn Frawd i'r Eos Druan (1961), Ansawdd y Seiliau (1972) a Seicoleg Cardota (1989).

Ysgafnach ond yn llawn mor ddiddorol yw ei lyfrau am Ynys Enlli.

Gyda marwolaeth cynnar R.Gerallt Jones ym 1999 collodd Cymru un o'i llenorion mwyaf dawnus, un oedd wedi gwasgaru ei dalentau dros sawl maes yn afradlon o hael, ac a fu yn ogystal yn feddyliwr treiddgar.

Meic Stephens


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy