BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
15fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Cynfal Fawr
Morgan Llwyd

Ganwyd: 1619

Magwyd: Cynfal-fawr, ger Maentwrog, Sir Feirionnydd

Addysg: Wrecsam


Awdur piwritainaidd

Awdur Piwritanaidd oedd Morgan Llwyd, ac un o feistri rhyddiaith Gymraeg yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Credai bod Crist, 'y pumed Brenin', ar fin dychwelyd i'r ddaear i deyrnasu am fil o flynyddoedd.

Roedd oblygiadau crefyddol a chymdeithasol i'r milenariaeth hwn, er bod Llwyd wedi cilio i fyd mewnol duwioldeb personol dwfn erbyn diwedd ei oes.

Fe'i ganwyd yng Nghynfal-fawr, ger Maentwrog yn Sir Feirionnydd, ym 1619; mae plac ar y wal yn coffhau ei enedigaeth yn y tŷ.

Cafodd ei addysg yn Wrecsam, lle gafodd dröedigaeth drwy gyfrwng Walter Cradock; sefydlodd y ddau yr eglwys gynulleidfaol Gymreig gyntaf yn Llanfaches, yn Sir Fynwy, ym 1639.

Profiadau rhyfel

Pan ddaeth y Rhyfel Cartref, ffodd pobl Llanfaches i Fryste ac yna, ym 1642, i Lundain, ac ymunodd Llwyd â byddin y Senedd yn gaplan, gan weld ymladd ar draws de Lloegr.

Wedi'r rhyfel, fe'i hanfonwyd gan y Senedd i Ogledd Cymru yn bregethwr teithiol, ac ymsefydlodd yn Wrecsam.

O 1650 hyd 1653 yr oedd yn Brofwr dan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru, a olygai ei fod yn gyfrifol am ddod o hyd i weinidogion addas i gymryd lle'r rhai a gawsai eu diswyddo.

Ym 1659, o dan yr Eglwys Wladwriaethol a sefydlwyd yn ystod y Gymanwlad, gwasanaethodd yn weinidog eglwys plwyf Wrecsam.

Paratoi at yr Ail Ddyfodiad

Er gwaethaf helbul ei yrfa, a'r ffaith fod ganddo wraig a thua dwsin o blant, roedd Morgan Llwyd yn awdur cynhyrchiol iawn. Ysgrifennodd wyth o weithiau yn y Gymraeg a thri yn Saesneg.

Ymhlith y pwysicaf yw Llythyr ir Cymru Cariadus (1653), a gyfansoddwyd i baratoi ei gyd-wladwyr ar gyfer ailddyfodiad Crist i deyrnasu ar y ddaear fel Brenin a Barnwr.

Er gwaethaf ei gynnwys astrus ar adegau, mae'r llyfr yn enghraifft dda o ryddiaith Gymraeg ar ei gorau.

Yr un thema sydd i Llyfr y Tri Aderyn, a gyhoeddwyd yn yr un flwyddyn; iddo ef roedd Senedd y Saint, a gynhaliwyd ym 1653, yn arwydd fod yr ailddyfodiad wrth law.

Y tri aderyn yw yr Eryr, sy'n cynrychioli'r gallu gwladol neu'r ymofynydd am iachawdwriaeth, y Golomen sydd yn sefyll am y Piwrtitaniaid neu y sant, a'r Gigfran sydd yn cynrychioli'r Brenhinwyr neu'r anghrediniwr.

Tua diwedd y llyfr mae'r awdur yn rhoi cipolwg anuniongyrchol ar ei hynt ysbrydol ei hun, ac mae'r cyfan yn ymgais i esbonio cyfundrefn feddyliol yr awdur.

Y dystiolaeth fewnol

Y dylanwad mwyaf arno oedd y cyfrinydd Lutheraidd Jakob Böhme. Ym marn y ddau roedd Duw yn llefaru yng nghalon pob unigolyn, 'yr ystafell ddirgel', ac nid oedd yn rhaid i ddyn wneud dim ond gwrando ac ufuddhau.

Yn bregethwr huawdl yn Gymraeg a Saesneg, roedd gan Morgan Llwyd ddull hynod rethregol, yn cynnwys rhythmau'r Beibl Cymraeg, ac mae'n defnyddio diarhebion Cymraeg yn fynych.

Roedd yn feistr ar y clasuron ac ar draddodiad barddol yr oesoedd canol diweddar yng Nghymru.

Bu farw ym 1659; mae ei fedd ym mynwent Rhos-ddu yn Wrecsam, lle gwelir cof-golofn hefyd.

Meic Stephens

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy