BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Tri Penyberth, gyda Lewis Valentine ar y chwith. Llun drwy garedigrwydd Barddas.
Lewis Valentine

Ganwyd: 1893

Magwyd: Llanddulas

Addysg: Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor


Awdur, emynydd ac un o 'Tri Penyberth'

Fe gofir am Lewis Valentine yn bennaf fel un o Dri Gŵr Penyberth, sef y tri aelod o Blaid Genedlaethol Cymru a rhoddodd yr ysgol-fomio yn Llŷn ar dân ym 1936 - y ddau arall oedd Saunders Lewis a D. J.Williams - ac fe'i dedfrydwyd i naw mis o garchar o'r herwydd.

Ganwyd Lewis Valentine yn Llanddulas, Conwy - yr hen Sir Ddinbych - ym 1893.

Amharwyd ar ei gwrs yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, lle aeth er mwyn paratoi ar gyfer y weinidogaeth gyda'r Bedyddwyr, gan y Rhyfel Byd Cyntaf. Treuliodd dair blynedd fel aelod o uned o Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin yn Lloegr, Ffrainc ac Iwerddon, cyn dychwelyd i Fangor ym 1919 yn genedlaetholwr ac yn heddychwr o argyhoeddiad cadarn.

Tra roedd yn fyfyriwr chwaraeodd ran amlwg yn y mudiad a arweiniodd at sefydlu Plaid Cymru ym 1925.

Ef oedd Llywydd cyntaf y Blaid a'i hymgeisydd seneddol cyntaf ym 1929, pan ennillodd 609 o bleidleisiau yng Nghaernarfon.

Y gell a'r capel

Wedi ei ryddhau o garchar ar ôl achos Penyberth, dychwelodd i'w alwedigaeth fel gweinidog yr Efengyl.

Roedd wedi bod yn fugail y Tabernacl yn Llandudno er 1921 ac yno yr arhosodd tan 1947 pan dderbyniodd alwad i Benuel, Rhosllannerchrugog.

O 1923 hyd 1936 fo oedd golygydd Y Deyrnas, misolyn Bedyddwyr Llandudno, ac o 1951 hyd 1975 golygodd Seren Gomer, cylchgrawn ei enwad.

Profiadau rhyfel a charchar

Roedd Lewis Valentine yn lenor o gryn allu. Yn Dyddiadur Milwr, a welodd olau dydd am y tro cyntaf ar dudalennau Seren Gomer rhwng 1969 a 1972, ac a gyhoeddwyd yn llyfr ym 1988 (gol. John Emyr) gwelir ei gyfraniad mwyaf nodedig.

Croniclir gan y llyfr hwn ei brofiadau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a hynny mewn arddull goeth ond uniongyrchol; cymharir ei arddull weithiau ag un ei arwr mawr, sef Emrys ap Iwan.

Cofeb i Valentine yn Llanddulas

Gwaith arall o werth llenyddol yw Beddau'r Byw, cyfres o ysgrifau a gyhoeddwyd gyntaf yn Y Ddraig Goch, papur Plaid Genedlaethol Cymru, rhwng 1937 a 1939; adroddir yma ei gyfnod yn Wormwood Scrubs.

Ond fe gofir amdano'n fwyaf mynych fel awdur yr emyn Gweddi dros Gymru, a genir ar alaw wladgarol Sibelius, Finlandia, ac sy'n crynhoi athroniaeth y gŵr urddasol, hawddgar ac unplyg hwn; yn wir, mae'r emyn wedi ennill statws 'ail anthem genedlaethol Cymru'.

Saif cof-golofn i Dri Gŵr Penyberth ger y tŷ heb fod ymhell o Benrhos yn Llŷn a thua dwy filltir o Bwllheli ar yr A499.

Meic Stephens


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy