BBC HomeExplore the BBC

SUL
29ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Kate Roberts
Kate Roberts

Ganwyd: 1891

Magwyd: Rhosgadfan

Addysg: Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor


Nofelydd ac awdur straeon byrion toreithiog

gwrando Gwrandewch ar farn disgyblion Cymraeg Ysgol Uwchradd Brynrefail am Kate Roberts.
A ydy Kate Roberts yn haeddu'r teitl 'Brenhines Ein Llên'? Bu plant Ysgol Uwchradd Brynrefail yn cyfrannu at raglen BBC Radio Cymru, Stiwdio a oedd yn herio ei statws mewn llenyddiaeth Gymraeg.

Mae Kate Roberts yn un o awduron amlycaf Cymru a'i dawn fel llenor wedi ennill iddi'r teitl, Brenhines Ein Llên.

Ganwyd hi yn Rhosgadfan, yn ferch i Owen Roberts, chwarelwr lleol. Fe gafodd ei haddysg yn lleol ac yn ddiweddarach enillodd radd yn y Gymraeg a thystysgrif dysgu o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.

Bu'n dysgu yn Abertawe ac Aberdâr cyn symud i Gaerdydd. Mewn Ysgol Haf a drefnwyd gan Blaid Cymru, cyfarfu Kate â Morris Williams ac fe briododd y ddau ym 1928.

Cae'r Gors
Agorodd Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts yn ei hen gartref, Cae'r Gors yn Rhosgadfan, ar Fai 16 2007. Cafodd y gymuned leol gip arbennig ar yr adeilad newydd ym mis Mawrth, ewch i weld lluniau a chyfweliadau yma.
Argraffydd oedd Morris Williams ac roedd hefyd yn gyfarwyddwr polisi dros Blaid Cymru.

Gyda'i gilydd, prynodd y ddau Wasg Gee, cwmni argraffu yn Ninbych, a symud yno i redeg y wasg a chyhoeddi wythnosolyn Y Faner. Bu Kate ei hun yn cyfrannu'n gyson i'r Faner a'r Ddraig Goch, papur Plaid Cymru, yn ystod y cyfnod hwn.

Ond bu farw Morris ym 1946 gan adael Kate i redeg Gwasg Gee ar ei phen ei hun am ddeng mlynedd. Roedd hi'n credu'n gryf y dylid cyhoeddi amrywiaeth o lyfrau yn y Gymraeg gyda phwyslais arbennig ar blant ac addysg.

Dechreuodd Kate Roberts ysgrifennu o ddifri ar ôl colli ei brawd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna, ar ôl colli ei gŵr, fe fwrwodd iddi eto gan gyhoeddi Traed Mewn Cyffion (1936), a wnaed yn ffilm yn ddiweddarach, a Te yn y Grug (1959) - dwy o'i chyfrolau enwocaf.

Kate Roberts
Atgofion Kate Roberts

Gwyliwch ffilm o 1965 o Kate Roberts yn cerdded y Lôn Wen ac yn hel atgofion am ei hardal a'r hyn oedd yn ei hysbrydoli i ysgrifennu.
Casgliad o straeon digrif a dwfn am blant ydy Te yn y Grug, yn arbennig am Begw a'i phrofiadau hi o gael ei magu mewn cymdeithas debyg i'r un lle cafodd Kate Roberts ei magu yn Rhosgadfan ar droad y ganrif ddiwethaf. Ymdrech y fam, Jane Gruffydd, i gael dau ben llinyn ynghyd a geir yn Traed Mewn Cyffion gyda'r chwarel yn gefndir i fywyd y teulu.

Fe gyhoeddodd nifer o lyfrau eraill gan gynnwys Stryd y Glep, Y Byw Sy'n Cysgu (1956), Tywyll Heno (1962) a chasgliadau o straeon byrion fel Yr Wylan Deg.

Mae rôl y ferch yn y gymdeithas a'i syniadau annibynnol am fywyd a chariad yn thema amlwg yng ngwaith Kate Roberts. Roedd hi hefyd yn ysgrifennu o safbwynt y plentyn gan weld ei phlentyndod ei hun fel magwraeth ddelfrydol.

Cyhoeddwyd cyfrol o lythyrau rhyngddi hi a Saunders Lewis hefyd - Annwyl Kate, Annwyl Saunders (gol. Dafydd Ifans, 1992) - sy'n croniclo hanes eu cyfeillgarwch dros 40 mlynedd gan roi darlun inni o hanes Cymru yn ystod y cyfnod a sylwadau'r ddau ar ddigwyddiadau yng Nghymru a thu hwnt.

Bu farw ar 4 Ebrill 1985.

Yn 2006, agorwyd Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts yng Nghae'r Gors, ei hen gartref yn Rhosgadfan. Mae'r tŷ wedi ei adfer i'r cyflwr roedd ynddo ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ac mae'n cynnwys amgueddfa am fywyd pobl yr ardal ar adeg plentyndod Kate Roberts.

  • Glyn Jones yn trafod 'Cyfnod Dinbych' Kate Roberts
  • Ymunwch yn y drafodaeth fywiog isod am waith Kate Roberts.

    Cyfrannwch

    k.l, o Gwynedd
    Yn fy marn i rwyn meddwl bod storiau Kate yn gret! Efallai bod rhai ohonych yn meddwl ei bod nhw'n ddwl ond mae amseroedd yn newid ac mae iaith yn newid. Felly wrth ddarllen y storiau maen rhaid meddwl am y cyfnod. Mae'n rhaid bod y llyfrau yn dda, neu buasan nhw heb ei gyfiethu yn y lle cyntaf i wahanol iaethoedd. Felly darllenwch y llyfrau mae nhw yn gret!!!!

    Annette Strauch, Machynlleth & Yr Almaen
    'Rwy'n hoffi straeon Kate Roberts. Mae Frank Meier wedi cyfiethu rhai i'r Almaeneg - gyda Angharad Price.

    Alun M o Aberystwyth
    Ni fydd gwaith unrhyw un awdur at dant pawb - ac rwy'n amau doethineb y sawl sy'n rhoi gwaith KR i blant ysgol TGAU. Os ydych chi'n chwilio am gyffro ac antur ar bob paragraff a chwerthin lond eich trons - ac does dim byd yn bod ar hynny - fyddwn i ddim yn argymell Kate! Rhaid gweud nad oeddwn i'n mwynhau ei gwaith pan oeddwn i'n iau. Ond erbyn cyrraedd fy 30-rhywbeth am ryw reswm, rwyf i wrth fy modd â hi. Mae'n ymdrin â themâu mawr: perthnasau pobl, marw, byw, tlodi, teimladau, plentyndod, henaint: ond drwy ysgrifennu yn sensitif am fywydau pobl gyffredin. Alla i ddim cytuno â'r rhai sy'n gweud ei bod hi'n hirwyntog o gwbl: odyn, mae'r straeon yn araf, ond mae’r ysgrifennu'n gynnil a sylwgar a sensitif. Fe alla i ddeall yn iawn pam nad yw rhai pobl yn mwynhau ei gwaith: digon teg. Ond ar y llaw arall, os ydych chi’n hoffi llenyddiaeth deimladwy sy’n ymdrin â materion o ddifri, ac wedi’i hysgrifennu yn gain, Kate amdani!

    Siôn Elwyn o Frynrefail
    Teimlaf fod y llyfr hwn yn adrodd hanes bywyd yn y cyfnod yn ogystal ag adrodd stori syml yn dda.

    Disgybl sydd yn hoffi ei gwaith
    Mae nofelau Dr Kate Roberts yn wych yn y marn i ac rwyf yn cytuno yn gryf hefo beth y dywedodd 'Disgybl o Ysgol Dyffryn Nantlle'!Pa hawl sydd gan rhai o chi sydd yn dweud ei bod hi yn ddynes gas a bod ei nofelau yn 'crap' a diflas!Yn fy marn i mae yn ddiddorol iawn clywed am sut yr oedd hi yn byw yn y cyfnod yma. Rwyf yn awgrymu y buasai yn well i chwi beidio a dweud pethau cas am dan ei nofelau hi oherwydd a ydy'chi yn gallu ysgrifennu fel y mae hi yn gwneud?? DWI DDIM YN MEDDWL! Rhaid i ni barchu sut yr oedd hi yn ysgrifennu a sut yr oedd un o lenorion gorau Cymru yn meddwl! Rwyf wedi darllen Te yn y Grug ac yn meddwl ei fod yn wych, felly peidiwch a dishmoli ei gwaith hi!

    David Williams, Aberystwyth
    Sylwadau diddorol iawn yma, gan blant sy'n gorfod astudio gwaith yr hen Get yn yr ysgol. Digon teg. Pwy ddisgwyl i blant ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain gael blas ar gwyno cyson am galedi bywyd, am wallgofrwydd gwragedd gweindogion, ac am fywyd yr ardaloedd chwarelyddol na wyddant hwy ddim amdano. Be ddiawl sydd ar ein hawdurdodau addysg yn gosod llyfrau fel hyn yn destunau gosod? 'Does ryfedd yn y byd bod y plant hyn yn gweld ein llenyddiaeth yn ddiflas ac yn boring. Wedi dweud hyn, y mae Cymraeg yr hen Get yn dda, - sy'n fwy nag y gellir ei ddweud am Gymraeg [rhai] 'ysgolheigion' ...

    Gerallt o Pontrug y lle i fod !!!!!!!!!!
    Yn fy marn i mae ei storiau braidd yn iselfryd ond mae ei ffordd o sgwennu'n wych

    Marged o Bethel
    Nid wyf yn hoff o waith Kate Roberts, mae o i gyd yn ddwl a depressing.

    Llinos Morgan-Roberts o Rhuthun
    Perthynas ydw i o Kate Roberts, roedd hi'n gyfnither cyntaf i fy hen daid, Hugh Griffith Roberts o Drefriw, Sir Caernarfon. Tydw i ddim wedi darllen llyfrau hi i gyd ond rwy'n cofio darllen rhai ohonynt pan o'n i yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. Mwynheis nhw yn fawr iawn, maent yn rhoi argraff byw iawn o bywyd mewn ardal oedd yn Gymreig iawn ar y tro.

    Mae fy agwedd i tuag at magu fy mhlant yn y Gymraeg pur yn amlwg wedi ymestyn dros y cenhedloedd ac rwy'n teimlo mor gryf fy mod yn hiraethu at symud i ardal Sir Gaernarfon i fyw. Mae gwaith Kate Roberts yn dangos pa mor gruf oedd agwedd gwragedd tuag at eu teuluoedd a'u bywydau.


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy