BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
John Eilian
John Eilian

Ganwyd: 1904

Magwyd: Llaneilian, Môn

Addysg: Ysgol Penysarn, Ysgol Ramadeg Llangefni, Coleg Prifysgol Aberystwyth a Choleg yr Iesu, Rhydychen.


Bardd, newyddiadurwr a golygydd cynta'r Cymro.

John Tudor Jones oedd enw iawn y newyddiadurwr a'r bardd a aned yn Llaneilian, Môn.

Ef oedd golygydd cyntaf Y Cymro pan sefydlwyd y papur newydd Cymraeg hwnnw yn 1932. Bu hefyd yn gweithio ar y Western Mail a'r Daily Mail, y Times of India tra roedd yn byw yno, ac i'r BBC fel newyddiadurwr.

Yn ogystal â bod yn olygydd cyntaf Y Cymro fe sefydlodd un o'r cylchgronau mwyaf blaengar erioed yn yr iaith Gymraeg, Y Ford Gron, yn 1930 gan ddod â ffresni nas gwelwyd o'r blaen i gylchgrawn poblogaidd Cymraeg. Ef hefyd oedd golygydd y gyfres Llyfrau'r Ford Gron.

Bu'n gweithio yn Llundain a thramor fel newyddiadurwr cyn treulio 25 mlynedd olaf ei yrfa newyddiadurol gyda phapurau'r Herald yng Nghaernarfon lle'r oedd yn brif olygydd. Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd yn aelod o gomisiwn a sefydlwyd gan y Llywodraeth i edrych ar y Wasg ym Mhrydain. Câi'r papurau, a oedd yn cynnwys y Caernarfon and Denbigh Herald a'r Holyhead and Anglesey Mail, eu hargraffu yn Adeiladau Brunswick ar y maes yng Nghaernarfon. Llosgwyd yr adeilad yn ulw fis Ionawr 1984.

Enillodd John Eilian Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1947 ym Mae Colwyn a'r Goron yn 1949 yn Eisteddfod Dolgellau.

Er mai ar y teitl Meirionnydd yr enillodd ei Goron dywedodd mai Môn oedd ar ei feddwl wrth gyfansoddi'r gerdd a'i deimladau tuag at yr ynys sydd ynddi mewn gwirionedd.

Bu bron iddo â bod yn hwyr ar gyfer ei goroni gan i'w gar orboethi ar y ffordd i'r seremoni.

Un o gampau ei gerdd a enillodd i'r gadair oedd iddo ei chyfansoddi ar 'fesur Madog' un o'i arwyr llên ers ei ddyddiau yn y coleg yn Aberystwyth, T. Gwynn Jones.

Yn wleidyddol roedd yn Geidwadwr ac yn frenhinwr pybyr a wrthwynebai'n llwyr Blaid Cymru a dulliau mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith. Er iddo lwyddo i ennill hyd at 11,000 o bleidleisiau fel ymgeisydd seneddol ym Môn, aflwyddiannus fu ei ymdrech i ennill yr ynys i'r Torïaid mewn etholiad cyffredinol yn y 1970au pan gollodd i Cledwyn Hughes.

Dyfarnwyd yr OBE iddo am ei wasanaethau i newyddiaduraeth ac yn 2004 dadorchuddiwyd plac er cof amdano y tu allan i'w gartref ym Mhenylan. Bu farw yn 1985.

Gyda diolch i Hywel Williams o Gaernarfon am yr enwebiad.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy