BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
28ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Jan Morris
Jan Morris

Ganwyd: 2 Hydref 1926

Magwyd: Clevedon, Gwlad yr Haf


Awdur llyfrau taith a hanesydd

"Y ffordd orau i ddod i wybod am le ydy crwydro o gwmpas. Crwydro ar eich pen eich hun, ond gan feddwl trwy'r amser beth sy'n digwydd, beth ydach chi'n ei weld a'i deimlo."

Mae Jan Morris wedi ysgrifennu dros ddeg ar hugain o lyfrau am deithiau yn Venice, Rhydychen, Trieste, Efrog Newydd a thu hwnt.

Ond fe'i ganwyd yn fachgen ac fel James Morris y treuliodd 46 mlynedd cyntaf ei bywyd cyn cael llawdriniaeth i newid ei rhywioldeb yn Casablanca yn 1972.

Dechreuodd James Morris deithio tra'n gwasanaethu yn y Fyddin yn 17 oed. Yn 23 aeth i astudio Saesneg yn Rhydychen cyn gweithio fel gohebydd tramor i bapurau fel The Times ac yn ddiweddarach The Guardian yn y Dwyrain Canol.

Daeth yn enwog ar ôl iddo sgwennu am y daith lwyddiannus i goncro mynydd Everest yn 1953 gan Syr Edmund Hilary a Sherpa Tenzing Norgay.

  • Jan Morris yn cofio Syr Edmund Hillary
  • Cysylltiad Everest ac Eryri
  • Fe gafodd ei lyfr cyntaf Coast to Coast, llyfr a ysgrifenwyd pan gafodd ysgoloriaeth i America groeso mawr.

    Priododd James ei wraig Elizabeth yn 1949 ac mae ganddyn nhw dri mab ac un ferch: Twm Morys, awdur, bardd a cherddor sy'n wyneb cyfarwydd iawn yn y Gymru Gymraeg; Henry Morris, cerddor sy'n byw yn Sbaen; Mark Morris, awdur, darlledwr a libretydd sy'n byw yng Nghanada a Suki Morys, sy'n byw yng Nghymru gyda'i theulu.

    Yn ôl Jan Morris ei llyfr pwysicaf ydy'r drioleg Pax Britannica sy'n trafod cwymp yr ymerodraeth Brydeinig. Ond am ei gwaith yn trafod y dinasoedd ar gwledydd lle bu'n teithio y mae hi fwyaf enwog hyd heddiw.

    Mae Jan Morris wedi byw ers nifer o flynyddoedd yn Nhrefan Morys, hen stablau wedi eu haddasu ar dir hen gartref ei theulu yn Llanystumdwy. Mae hi bellach yn aelod o'r Orsedd ac yn ymddiddori'n fawr yn y pethe.

    Ymhlith y llyfrau mae wedi eu cyhoeddi:
    James Morris:

  • Coast to Coast (1956)
  • South African Winter (1958)
  • The World of Venice (1961)
  • The Presence of Spain (1964)
  • Oxford (1965)
  • Pax Britannica: The climax of an Empire (1968)
    Jan Morris:
  • Conundrum (autobiography) (1974)
  • The Venetian Empire: A Sea Voyage (1980)
  • Stones of Empire: The Buildings of the Raj (1984)
  • Among the Cities (1985)
  • Journeys (1985)
  • Last Letters from Hav: Notes from a Lost City (novel) (1985)
  • The Matter of Wales: Epic Views of a Small country (1985)
  • Scotland: The Place of Journeys (1986)
  • Manhattan (1987)
  • Hong Kong (1988)
  • Pleasures of a Tangled Life (autobiography) (1989)
  • Ireland: Your Only Place (1990)
  • A Writers House in Wales (2001)
  • Fifty Years of Europe (1997)
  • Trieste and the Meaning of Nowhere (2002)

    Diolch i Leslie Roberts o Silver Springs, Florida am gynnig Jan Morris ar gyfer yr Oriel.


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy