BBC HomeExplore the BBC

LLUN
7fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Cerflun Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd
Hedd Wyn

Ganwyd: 13 Ionawr 1887 (m. 31 Gorffennaf 1917)

Magwyd: Trawsfynydd


Bardd y gadair ddu.

Fe ddaeth y ffilm a enwebwyd am Oscar ym 1992 â Hedd Wyn i sylw'r byd.

Hedd Wyn oedd enw barddol y bugail o Drawsfynydd, Ellis Humphrey Evans. Ar ôl bwrw ei brentisiaeth mewn eisteddfodau lleol a dod yn ail yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, rhoddodd ei fryd ar ennill Cadair Penbedw (Birkenhead) ym 1917.

Ond roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn ei anterth yn Ffrainc a rhoddwyd pwysau ar ffermwyr Cymru i anfon eu meibion i faes y frwydr gan nad oedd yr awdurdodau yn tybio bod angen mwy na dau adref i ffermio. Gan mai Ellis oedd yr hynaf o feibion fferm yr Ysgwrn, fe ymunodd â Phymthegfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ac fe'i hanfonwyd i Ffrainc.

Er gwaethaf amgylchiadau erchyll bywyd yn y ffosydd, daliodd ati i ganu a gorffen y gerdd Yr Arwr ar y ffordd i Fflandrys. Fe'i hanfonodd o'r ffosydd dan y ffug enw Fleur-de-Lis. Defnyddiodd ei brofiadau fel milwr i ddisgrifio realilti'r rhyfel i'r milwyr ac i'w teuluoedd gartref.

Y gadair ddu Pan gyhoeddwyd enw'r bardd buddugol o'r llwyfan ym Mhenbedw, bu distawrwydd llethol. Roedd Hedd Wyn wedi'i ladd chwe wythnos ynghynt ym mrwydr Pilckem Ridge, Ypres. Yn ôl adroddiad un o ohebwyr y Western Mail: "Yn lle'r seremoni gadeirio arferol rhoddwyd lliain du dros y gadair mewn distawrwydd llethol, a daeth y beirdd ymlaen mewn prosesiwn hir i dalu teyrnged ar fesur englyn neu gwpled i'r gadair ddu er cof am y bardd marw."

Ar ôl y Rhyfel, anfonwyd deiseb at Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad a chaniatwyd rhoi'r geiriau Y Prifardd Hedd Wyn yn ogystal â'i enw E H Ellis ar ei fedd.

Fe godwyd cofgolofn efydd iddo hefyd yng nghanol pentref Trawsfynydd ac fe'i dadorchuddiwyd gan ei fam ym 1923. Fel arysgrifiad arni defnyddiwd englyn a luniodd Hedd Wyn ei hun er cof am gyfaill a fu farw yn y ffosydd:

Ei aberth nid â heibio - ei wyneb
Annwyl nid â'n ango
Er i'r Almaen ystaenio
Ei dwrn dur yn ei waed o

Mae arddangosfa amlgyfrwng yn olrhain hanes Hedd Wyn ac enwogion a chreiriau eraill Trawsfynydd i'w gweld yng Nghanolfan Treftadaeth Llys Ednowain, Trawsfynydd.

Mae medalau Hedd Wyn i'w gweld yn Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghaernarfon ynghyd â lluniau a ffilm fer amdano fo a beirdd rhyfel eraill.

Mae'r amgueddfa yn cynnal arddangosfa arbennig am y bardd i gofio 90 mlwyddiant ei farwolaeth o 31 Gorffennaf 2007 ymlaen. Ewch i wefan Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig am ragor o wybodaeth.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

  • Arddangosfa Hedd Wyn yn y Brifysgol, Bangor
  • Ymweliad â'r Ysgwrn
  • Newyddion: Pan gyrhaeddodd y Gadair Ddu
  • Chwaer Hedd Wyn yn cofio ffarwel olaf ei brawd
  • William Morris yn cofio achlysur 'cadeirio' Hedd Wyn

  • Cyfrannwch

    Hogan o ochra Caernarfon
    Mae beirdd a phobl diwylliedig fel Ellis Humrhrey Evans o'r wlad 'ma yn fy ngwneud i'n falch iawn iawn o fod yn Gymraes. Does na ddim digon o bobl y dyddia' 'ma yn gwbod digon am hen feirdd dawnus fel Hedd Wyn, a'i hanes ofnadwy o drist. Mae'r ffilm yn un dda, ond mae ffeithiau anghywir ynddi, fel cyfleu Hedd Wyn fel yfwr o fri yn y dafarn bob nos - a doedd o ddim! Mi fedar ei nai, Gerald brofi hynny! A pheth arall, mae mynd am dro i'r Ysgwrn heddiw a chael eich tywys rownd y stafelloedd cyfyngedig yn werth bob eiliad!! Cerwch rwan hyn!!!

    Angharad Mair Puw
    Diddorol iawn darllen am Hedd Wyn yn y Rhyfel Cyntaf. Mae eisiau fwy o bobl i ddod i adnabod gwaith a hanes y bardd hwn.

    Derec Puw o Gargrawnt
    Wedii darllen am Hedd Wyn yn Lyffrgell Prifysgol Caeargrawnt. Diddorol iawn a thrist.

    Sophie o holyhead
    Mae Hedd Wyn yn ddyn da aeth mynd i'r rhyfel dros ei wlad. Rhai camol y dyn am ei gryfder ac ei farddoniaeth.

    Bachgen o Drawsfynydd
    Rwyf wedi gweld holl gadeiriau Hedd Wyn yn yr Ysgwrn (ei gartref) sydd heddiw yng ngofal ei Nai.

    James o'r Felinheli
    Mae rhaid ini fel Cymry canmol gwaith Hedd Wyn i'r pendraw! Mi ydw i wedi gweld y ffilm am y tro cyntaf erioed y prynhawn yma, a rwan tybiaf mai Elis yw y Cymro y dylsai bod yn blach amdano fwyaf. Hedd i'w lwch!

    Wyn o Landudoch
    Fe garem gael gafael ar yr adroddiad am y ffaith nad oedd yn bosib i Hedd Wyn fod yn bresenol pan enillodd y Gadair yn Eisteddfod Birkenhead. Rwyn cofio rhai o'r llinelloedd fel 'Y bardd trwm tan brydd tramor, y dwylo na --------, y llygaid dwys dan ddwys ddor, y llygaid na all agor' Os yw'n bosib i unrhyw un ddanfon yr holl addroddiad i mi fe fyddem yn ddiolchgar iawn. Wyn. wynbtjames@yahoo.co.uk

    Rhys Hedd o Aberystwyth
    Rydw i efo Nain a Taid yn byw yn Trawsfynydd. Maent yn ffrindiau efo'r dyn sy'n byw yn yr Ysgwrn. Dywedodd fy nhaid wrthaf fy mod yn perthyn i Hedd Wyn yn bell i ffwrdd. Dywedodd y bod Hedd Wyn yn hen hen ewythr i mi. Enw fy nhaid yw Edward Evans a Deilwen Evans yw enw fy nain.


    Oes ganddoch chi gysylltiad teuluol â Hedd Wyn neu ag unrhyw un arall a wasanaethodd yn y Rhyfel Mawr? Gadewch inni wybod.
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy