BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Gwenlyn Parry
Gwenlyn Parry

Ganwyd: 1932

Magwyd: Deiniolen

Addysg: Coleg Normal, Bangor


Dramodydd a chrëwr rhaglenni teledu poblogaidd fel Fo a Fe a Grand Slam.

Un o'n dramodwyr galluocaf oedd Gwenlyn Parry, a cholled mawr i'r theatr yng Nghymru oedd ei farwolaeth annhymig cyn cyrraedd ei 60 oed.

Roedd ei waith yn ddeniadol ar gyfrif ei syniadau a'i olygfeydd theatrig, ac mae ei ddramâu, er yn ychydig, wedi cadw eu hapêl yn rhyfeddol o dda. Fe oedd cynrychiolydd cyntaf y theatr fodern yn y Gymraeg ac, yn wir, daeth ag awyrgylch ffres a chyffrous i'r llwyfan a oedd yn gyfrifol am gychwyn dadeni sydd yn parhau hyd heddiw.

Ganwyd ef ym 1932 yn Neiniolen, Sir Gaernarfon, ac mae ei waith yn defnyddio iaith gyfoethog yr ardal yn aml iawn. Cafodd ei addysg yn y Coleg Normal, Bangor.

Dechreuodd ymddiddori yn y theatr tra oedd yn athro yn Llundain, ac ymhlith ei gyfeillion yno oedd Ryan Davies a Rhydderch Jones.

Gwenlyn Parry yn y BBC 1966Wedi dychwelyd i Gymru i dderbyn swydd fel athro ym Methesda, daeth i amlygrwydd yn y byd llenyddol drwy ennill gwobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ym 1966 symudodd i Gaerdydd lle daeth yn Brif Olygydd Sgriptiau gyda BBC Cymru.

Ysgrifennodd lawer a chynhyrchodd nifer o raglenni poblogaidd i'r BBC, gan gynnwys Fo a Fe a Phobol y Cwm.

Daeth Gwenlyn Parry o hyd i'w lais ei hun fel awdur dyrnaid o ddramâu ar gyfer y llwyfan, a chyhoeddwyd rhai ohonynt yn y gyfrol Tair Drama (1965). Yr un enwocaf, yn ddi-os, yw Saer Doliau (1966), a dorrodd dir newydd yn y theatr Gymraeg oherwydd ei naws alegorïol a'i hamwysedd. Gwelai rhai beirniaid ddylanwad Beckett, Pinter a Ionesco arni. Achoswyd cryn drafodaeth ac anghydweld ymhlith ei chynulleidfaoedd cyntaf. Mae pâr ifanc 'blaengar' yn herio cred 'naïf' y Saer Doliau yn y Giaffar (efallai Duw) ar ben arall y ffôn. Yr hyn a barodd y dadlau oedd caniad y ffôn, ar ddiwedd y ddrama, dros lwyfan gwag. Nid oes 'stori' i'r ddrama hon ac mae'n bosibl ei dehongli mewn mwy nag un ffordd.

Yn ei weithiau diweddarach, sef Tŷ ar y Tywod (1968), Y Ffin (1973), Y Tŵr (1978), Sàl (1982) a Panto (1992), defnyddiodd dechnegau gwrth-naturyddol y theatr gyfoes. Roedd ganddo glust ardderchog ar gyfer deialog, yn enwedig tafodiaith ei fro enedigol.

Yn Y Tŵr, ei gampwaith efallai, gwelir pinacl ei ddawn dyfeisgar wrth i'r prif gymeriad ddringo grisiau amser.

Awdur talentog dros ben oedd Gwenlyn Parry, un a roddodd ei holl egni creadigol i'w waith, a gadawodd farc annileadwy ar ddatblygiad y theatr yng Nghymru.

Meirion Edwards yn holi Gwenlyn Parry am y ddrama Saer Doliau yn 1966

Meic Stevens.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy