BBC HomeExplore the BBC

GWENER
18fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Darlithfa Goronwy Owen yng Ngholeg William & Mary, Virginia.
Goronwy Owen

Ganwyd: 1723

Magwyd: Llanfair Mathafarn Eithaf

Addysg: Ysgol Friars, Bangor, a Choleg yr Iesu, Rhydychen


Barddoniaeth, ffraeo, crwydro, a marw ymhell

Cafodd y bardd Goronwy Owen fywyd byr, anodd a thrist, er ei fod yn uchel iawn ei fri ymhlith beirdd Cymru am genhedlaethau ar ôl ei farw.

Collodd fwy nag un swydd ar gyfrif ei gymeriad gwyllt a'i fuchedd afradlon, a dioddefodd sarhad a thrasiedi personol lawer tro.

Ganwyd ef ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf yn Sir Fôn a magwyd ef yn yr hyn oedd yn weddill o draddodiad barddol y sir.

Yn Ysgol Friars derbyniodd ei addysg ac fe aeth am gyfnod byr i Goleg yr Iesu, Rhydychen, ond ni raddiodd.

Wedi rhai blynyddoedd fel athro ym Mhwllheli a Dinbych, fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ym 1746 a bu'n gwasanaethu ym mhlwyf ei fagu, ond gorfu iddo ymadael ymhen y flwyddyn.

Crwydro a thlodi

Ar grwydr y bu wedyn, gan obeithio derbyn gofalaeth plwyf ei hun yn hytrach na gorfod derbyn tlodi fel curad, ond ni ddaeth y cyfle.

Yn y diwedd bu rhaid iddo dderbyn swydd fel athro mewn ysgol ramadeg oedd ynghlwm wrth Goleg William a Mary yn Williamsburgh yn Virginia.

Gadawodd Gymru ym 1757 gyda'i wraig a'i dri plentyn, ond bu farw hi a'r mab ieuangaf yn ystod y fordaith.

Ailbriododd yn America ond bu farw ei ail wraig hefyd.

Aeth wedyn yn feddwyn a byw'n afrad, collodd ei swydd o ganlyniad a mynd yn berson plwyf St. Andrew yn Brunswick County ym mhellafion Virginia.

Yno treuliodd ei naw mlynedd olaf, yn offeiriad, yn dyfwr tybbaco, ac yn briod am y trydydd tro.

Bu farw yn Virginia ym 1769 a chladdwyd ef ar ei blanhigfa ger Dolphin, i'r gogledd o Lawrenceville. Ar y pryd ni wyddai neb yng Nghymru ddim o'i hanes.

Yr uchelgais a'r realaeth

Roedd uchelgais wedi bod gan Goronwy Owen i fod yn fardd oddi ar ei febyd. Yn fwy na hynny, roedd o'r farn y dylid adfywio barddoniaeth Gymraeg a'i chodi o'r stad isel yr oedd wedi syrthio iddo.

Rhoddodd ei fryd ar ysgrifennu awdlau a chywyddau yn y dull Horasaidd ar bwnc 'y bywyd da'.

Mae ei lythyrau at ei gyn-noddwyr, y Morisiaid, yn llawn cynlluniau am lunio cerdd epig Filtonaidd yn y Gymraeg.

Roedd yntau wedi rhoi'r gorau i'r freuddwyd hon cyn gadael Cymru am Virginia ond gadawodd yr arwrgerdd yn uchelgais i genedlaethau diweddarach trwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Derbyniwyd ei syniadau'n ddi-gwestiwn nes bod ei ddylanwad yn drwm ac yn andwyol ar gwrs llên Cymru.

Erys ei lythyrau sy'n llawn o ryddiaith ardderchog a nifer o gerddi, rhai ohonynt yn mynegi ei hiraeth am Sir Fôn.

Fe'i coffheir yn eglwys gadeiriol Bangor.

Roedd un o ddisgynyddion Goronwy Owen yn sylfaenydd y cwmni Interflora.

Meic Stephens

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy