BBC HomeExplore the BBC

GWENER
25ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Emily Huws
Emily Huws

Ganwyd: 3 Mawrth 1942

Magwyd: Caeathro

Addysg: Ysgol Gynradd Waunfawr, Ysgol Ramadeg Caernarfon a'r Coleg Normal, Bangor


Awdures llyfrau plant a addasodd lyfr cyntaf Harry Potter i'r Gymraeg

Mae Emily Huws yn dal i fyw yn y bwthyn bach lle cafodd ei magu yng Nghaeathro ger Caernarfon. Er iddi ddysgu am dros ugain mlynedd yn Ysgol Gynradd y Bontnewydd, daeth yn adnabyddus fel un o awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd Cymru. Mae hi wedi ennill gwobrau Tir na n-Og a Gwobr Goffa Mary Vaughan Jones am ei chyfraniad i faes llenyddiaeth plant.

Fel plentyn, hoff awdur Emily Huws oedd Elizabeth Watkin Jones, yn enwedig meddai, Plant y Mynachdy a'i nofel enwog, Luned Bengoch.

Mae hi wastad wedi bod yn hoff iawn o anifeiliaid hefyd ac maent wedi bod yn rhan bwysig iawn o nifer o'i straeon, fel cyfres Merlyn Marian, Gel, Jinj a Piwma Tash. Ar hyn o bryd, mae hi'n byw gartref yng nghwmni Wmffra y ci, Twm, Sal a Mati'r cathod, Cim y fuwch Jersey a Nel yr oen llywaeth!

Ei phleser arall wrth gwrs yw ysgrifennu. Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, Gwyliau Rhian yn y Syrcas, yn 1975, a dywed mai'r hwyl mwyaf wrth ysgrifennu llyfr newydd yw meddwl am stori, ac yna mynd at i'w hadrodd.

Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau ei hun mae Emily Huws hefyd yn enwog am gyfieithu nifer o glasuron yr iaith Saesneg i'r Gymraeg, yn eu plith straeon Beatrix Potter a Roald Dahl.

Ond efallai ei bod yn fwyaf adnabyddus yn ddiweddar am ei chyfieithiad o un o lyfrau mwyaf poblogaidd ein hoes Harry Potter and the Philosopher's Stone, sef Harri Potter a Maen yr Athronydd.

Meddai Emily: "Gwynebais anawsterau arbennig nad oeddwn wedi eu profi o'r blaen wrth gyfieithu Harri Potter.

"Mae gan JK Rowling ffordd mor wych gyda iaith, gan ei bod wedi gwneud geiriau i fyny o'i dychymyg, ac fe wes i fy ngorau i gadw'n ffyddlon i'w hystyr gwreiddiol."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy