BBC HomeExplore the BBC

GWENER
1af Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Eigra Lewis Roberts
Eigra Lewis Roberts

Ganwyd: 1939

Magwyd: Blaenau Ffestiniog

Addysg: Ysgol Sir Ffestiniog, Coleg Prifysgol Cymru, Bangor


Nofelwraig, dramodydd, storïwraig ac enillydd coron Prifwyl 2006.

Ers ennill gwobr y 'nofel agored' yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon gyda'i nofel gyntaf, Brynhyfryd, pan oedd yn 20 oed, daeth Eigra Lewis Roberts yn un o brif awduron y Gymru gyfoes.

Mae wedi ysgrifennu bron i 30 o gyfrolau, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a drama a hi oedd awdures cyfres deledu boblogaidd yr 80au, Minafon.

Cafodd ei geni ym Mlaenau Ffestiniog a'i haddysgu yn Ysgol Sir Ffestiniog a Choleg y Brifysgol, Bangor.

Ar ôl graddio, bu'n dysgu am gyfnod yng Nghaergybi a Llanrwst cyn troi at ysgrifennu a magu teulu.

Mae'n byw bellach yn Nolwyddelan ac yn briod gyda Llew a chanddi dri o blant - Sioned, Urien a Gwydion - a 12 o wyrion ac wyresau.

Nid yn annhebyg i Kate Roberts o'i blaen, mae ei gwaith wedi delio i raddau helaeth â realiti bywyd bob dydd y gymdeithas fodern.

Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1965 a 1968 a Thlws y Ddrama yn 1974. Yn 1995 cafodd wobr Baffta Cymru am y sgriptiwr gorau ac mae wedi ei hanrhydeddu â gradd MA am ei chyfraniad i lenyddiaeth Cymru a'i derbyn yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Cymru.

Yn 2006, ar ddiwrnod ei phen-blwydd, enillodd ei choron gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe am ddilyniant o gerddi am fywyd stormus y bardd Sylvia Plath, a gyflawnodd hunanladdiad yn 30 oed. Y testun oedd Fflam a'i ffugenw oedd Gwyfyn.

Disgrifiodd y berniaid, Menna Elfyn, Damian Walford Davies a Gwyneth Lewis, ei gwaith buddugol fel "casgliad o gerddi cywrain gan fardd medrus a lwyddodd i greu cerddi cyfoethog sm un o feirdd mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif; un a drodd ei bywyd fel ei marwolaeth yn drasiedi fawr."

Meddai Eigra wedi'r seremoni: "Mae ennill unrhyw wobr yn wych - ond roedd yna rywbeth yn arbennig iawn ynglŷn â heddiw. Mae hwn yn rhywbeth gwahanol - yn rhywbeth roeddwn i eisiau rhoi cynnig arno ers talwm - roedd yn her ac yn sialens a dwi'n mwynhau unrhyw sialens ac yn mwynhau rhoi cynnig ar unrhyw gyfrwng ac yr oedd hwn yn rhywbeth hollol wahanol."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy