BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Y Maen Melyn ger Uwchmynydd, y cymharwyd ei liw i wallt merch gan Dafydd Nanmor mewn cywydd enwog: Gwallt Llio. Llun drwy garedigrwydd www.cimwch.com/
Dafydd Nanmor

Ganwyd: Rhywbryd yn hanner cyntaf y 14eg Ganrif

Magwyd: Beddgelert


Un o feirdd pwysicaf Oes yr Uchelwyr.

Un o'r pwysicaf o Feirdd yr Uchelwyr oed Dafydd Nanmor. Ym marn Saunders Lewis, a'i gwelodd fel athronydd yn bennaf, roedd yn fardd clasurol a gynrychiolai'r 'Esthetig Cymreig', er bod ei waith yn adlewyrchu hefyd, rhaid nodi, elfennau mwy cyntefig yr hen ganu arwrol.

Mae ei awdlau yn cydymffurfio â'r patrwm traddodiadol; serch hynny, cyfrannodd yn sylweddol i ddatblygiad y ffurf trwy godi uwchben confensiynau a chanu'n ffres a thrawiadol.

Brodor o Nantmor, ger Beddgelert, Sir Gaernarfon, ydoedd, ond cafodd ei alltudio o Wynedd ar gyfrif ei gerddi i wraig briod, Gwen o'r Ddôl: ffoes i'r De, lle treuliodd weddill ei oes dan nawdd Rhys ap Maredudd o'r Tywyn ger aber afon Teifi. Nid oes sicrwydd ym mha flwyddyn y ganwyd ef, na blwyddyn ei farw, ond roedd yn ei flodau rhwng 1450 a 1490.

Ysgrifennodd amrywiaeth o gerddi meistrolgar, yn eu plith awdl a chywydd i Edmwnt a Siasbar Tudur sy'n eu hatgoffa am eu tras Gymreig, awdl arall i Syr Dafydd ap Tomas, cwnstabl Aberteifi, a nifer o gerddi crefyddol. Yn aml iawn fe glywir nodyn brudiol, broffwydol, yn ei gerddi 'politicaidd', cerddi a hwylusodd y ffordd i frwydr y Tuduriaid ym Mosworth ym 1485.

Roedd yn dra hyddysg hefyd: mae'n cyfeirio at seryddiaeth, y tywydd a meddygyniaethau llysieuol, ac roedd yn hoff o ddyfynnu o'r Lladin. Ymddengys mai ef a ysgrifennodd Lawysgrif Peniarth 52, sy'n cynnwys cerddi ganddo ef a Dafydd ap Gwilym.

Nid bardd natur mohono ond bardd gwareiddiad y pendefigion. Canmolodd bensaernïaeth eu tai â brwdfrydedd amlwg; gweler, er enghraifft, ei gywydd i Ystrad-fflur. Dyna paham y'i galwyd gan Saunders Lewis yn fardd perchentyaeth, yn fardd teulu. Ceir elfen sagrafennaidd yn rhai o'i gerddi, yn enwedig pan mae'n moli parhad traddodiad teulu gwâr dros y canrifoedd.

Bardd ceidwadaeth ydoedd, rheswm arall paham enillodd glod gan Lewis. Un o'i gerddi hyfrytaf, serch hynny, yw ei gerdd i wallt Llio, un o'r chwe cherdd sy'n ei gynrychioli ym Mlodeugerdd Rhydychen (gol. Thomas Parry).

Credir fod Dafydd Nanmor wedi ei gladdu yn nhiroedd y Tŷ-gwyn ar Daf, sydd erbyn hyn yn Sir Gaerfyrddin.

Meic Stephens


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy