BBC HomeExplore the BBC

GWENER
27ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Cynan
Cynan

Ganwyd: 1895

Magwyd: Pwllheli

Addysg: Coleg Prifysgol Cymru, Bangor


Archdderwydd ac enillydd coron a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol.

Wyddech chi?: Cynan oedd testun ffilm liw Gymraeg gyntaf y BBC, Y Llanc o Lŷn.

Gwrandewch ar Myrddin ap Dafydd yn trafod Cynan ar raglen Hywel a Nia ar BBC Radio Cymru:

gwrando Pam 'Cynan'?

gwrando Cynan y bardd

Ganwyd Albert Evans-Jones ym Mhwllheli yn fab i siopwr lleol ym 1895. Yn 1916 graddiodd o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor a mynd i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddod yn Gaplan a gwasanaethu ym Macedonia.

Ei enw barddol oedd Cynan ac fel Cynan y câi ei adnabod gan y rhan fwyaf o bobl Cymru.

Yn 1921 enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol am ei bryddest boblogaidd, Mab y Bwthyn, ac ym marn un awdurdod ar ei waith, Dafydd Owen, hon oedd y gerdd fwyaf poblogaidd yng Nghymru yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Daeth ei gerddi telynegol eraill, fel Anfon Nico, yn hynod boblogaidd ar lawr gwlad hefyd.

Yn ystod dauddegau'r ugeinfed ganrif, bu'n weinidog ym Mhenmaenmawr ac yna'n ddarlithydd ym Mangor o 1931 i 1960. Enillodd Goron yr Eisteddfod dair gwaith a'r Gadair unwaith am ei awdl, I'r Duw nid Adwaenir, yn 1924. Etholwyd ef yn Archdderwydd ddwywaith rhwng 1950-1953 a 1963-67.

Cynan yn anad neb oedd yn gyfrifol am lunio seremoni y cadeirio a'r coroni fel rydym yn eu hadnabod heddiw gan geisio creu seremoni fodern a fyddai, yn ei dŷb ef, yn adlewyrchu ysbryd y genedl.

Bedd Cynan yn Eglwys Sant TysilioGwnaethpwyd ef yn farchog yn 1969 am ei wasanaeth i fywyd diwylliannol Cymru a dewisodd y teitl Syr Cynan Evans-Jones.

Bu farw yn 1970 ac mae wedi'i gladdu ar Ynys Tysilio ar lan y Fenai.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy