BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

LLUN
21ain Ebrill 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Bedwyr Lewis Jones (Llun: Eleri Wyn Jones)
Bedwyr Lewis Jones

Ganwyd: 1933 yn Wrecsam

Magwyd: Penysarn, Ynys Môn.

Addysg: Bangor a Choleg yr Iesu, Rhydychen.


Ysgolhaig, beirniad llenyddol ac awdur sawl cyfrol am dafodieithoedd Cymru.

Ysgolhaig a beirniad llenyddol oedd Bedwyr Lewis Jones. O 1974 hyd ei farwolaeth annhymig ym 1992 bu'n Athro Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.

Ysgrifennodd gryn dipyn am yr iaith a'i diwylliant ac roedd yn ddarlledwr profiadol iawn ar y pynciau hyn. Roedd ei bersonoliaeth agos-atoch a'i ddiddordeb diffuant ym muddiannau ei fyfyrwyr yn amlwg yn ei wersi a phob sgwrs, a denodd gannoedd i astudio'r Gymraeg yn y Coleg ac i gymryd diddordeb ynddi yn y gymdeithas ehangach, gan ei fod yn methu gwrthod unrhyw gais am ddarlith o unrhywle yn y Gogledd.

Ganwyd ef yn Wrecsam, Sir Ddinbych, ym 1933, ond Mônwysyn ydoedd i'r carn. Cafodd ei fagu ym Mhenysarn ger Llaneilian. Ymhyfrydai mewn iaith, llên, hanes, llên gwerin, enwogion a thopograffi yr ynys. Siaradai Gymraeg cyfoethog Sir Fôn gydag awch ac acen nodweddiadol, a daeth yn awdurdod ar idiomau'r sir.

Fe'i haddysgwyd ym Mangor ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Tra roedd yn fyfyriwr bu'n olygydd (ar y cyd ag R. Gerallt Jones) Yr Arloeswr, cylchgrawn a gyhoeddwyd ym Mangor rhwng 1957 a 1960. Er i'r celfyddydau gweledol, cerddoriaeth a'r theatr gael sylw ynddo, prif ddiddordeb y cylchgrawn bywiog hwn oedd llenyddiaeth, ac un o'i amcanion oedd darparu llwyfan ar gyfer beirdd ifanc megis Gwyn Thomas a Bobi Jones, yn ogystal â gwaith llenorion fel Kate Roberts a John Gwilym Jones. Felly gwnaeth Bedwyr Lewis Jones ei gyfraniad cynharach i ddiwylliant ein gwlad.

Cyhoeddodd Yr Hen Bersoniaid Llengar ym 1963, sef astudiaeth o glerigwyr yr Eglwys Anglicanaidd a gyfrannodd i lenyddiaeth Gymraeg yn ystod y cyfnod o 1818 hyd 1858 gan ddioddef gwrthwynebiad, yn aml, oddi wrth yr elfen wrth-Gymraeg yn yr Eglwys Sefydliedig; Eglwyswr oedd yr awdur, a llwyddodd i dynnu sylw at werth cynnyrch llenyddol yr hen glerigwyr mewn modd dadlennol a gwerthfawr.

Aeth ymlaen, er gwaethaf ei ddyletswyddau academaidd a gweinyddol fel Pennaeth yr Adran Gymraeg ym Mangor, i ysgrifennu ar amrywiaeth o bynciau, gan gadw mewn golwg y darllenydd 'cyffredin' oedd wastad yn agos at ei galon.

Cyfrannodd fonograff ar R.Williams Parry i'r gyfres Writers of Wales (1972), un arall ar Arthur y Cymry (1975), a nifer o gyfrolau ar y Gymraeg, yn eu plith Iaith Sir Fôn (1983), Blas ar Iaith Llŷn ac Eifionydd (1987), Enwau (1991) ac Yn ei Elfen (1992). Er yn 'boblogaidd' eu hapêl, roedd safon ysgolheigaidd y gweithiau hyn yn uchel iawn.

Cyhoeddodd hefyd Blodeugerdd o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1965), Rhyddiaith R. Williams Parry (1974), Gwŷr Môn (1979) a Bro'r Eisteddfod: Ynys Môn (ar y cyd â Derec Llwyd Morgan, 1983). Ar ôl iddo farw cyhoeddwyd y gyfrol ar Williams Parry yn y gyfres Dawn Dweud (1997) wedi'i olygu gan ei gyfaill a'i gyd-weithiwr Gwyn Thomas.

Mae Canolfan Bedwyr yn coffáu'r Athro yn y Coleg lle treuliodd gymaint o flynyddoedd. Gwelir plac ar wal yr ysgol yn Llaneilian lle roedd yn ddisgybl.

Meic Stephens

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy