BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
2il Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Wilfred Wooller
Wilfred Wooller

Ganwyd: Tachwedd 30, 1912

Magwyd: Llandrillo-yn-rhos

Addysg: Ysgol Rydal, Caergrawnt


Chwarae rygbi i Gymru, pêl-droed i Gaerdydd a chriced i Forgannwg.

Roedd Wilfred Wooller yn un o chwaraewyr mwyaf amryddawn Cymru a chwaraeodd rygbi dros ei wlad, pêl-droed i Gaerdydd a chriced i dîm Morgannwg.

Ganed Wilfred yn Llandrillo-yn-Rhos yn 1912 i rieni o Fanceinion. Tra roedd yn dal i fod yn ddisgybl yn ysgol Rydal, chwaraeodd i dîm rygbi Cymru am y tro cyntaf pan enillodd y tîm yn erbyn Lloegr am y tro cyntaf yn Twickenham. Enillodd 18 cap dros ei wlad, gan gymryd rhan yn un o fuddugoliaethau enwog Cymru dros y Crysau Duon.

Ar ôl gadael prifysgol Caergrawnt, lle bu'n aelod o'r tîm criced, ymunodd â chwmni glo yng Nghaerdydd a chael ei anfon am ddau haf i oruchwylio gwaith y cwmni dramor, gan golli allan ar y tymor criced. Ond pan ddychwelodd i Gymru, ymunodd â thîm Morgannwg yn 1938 pan chwaraeodd ei gêm gyntaf yn erbyn Swydd Efrog a chafodd gant o rediadau yn erbyn India'r Gorllewin flwyddyn yn ddiweddarach. Ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w yrfa yn y byd chwaraeon am sbel pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd.

Ar ôl treulio amser yng ngharchar Changi dan law'r Siapaneaid, dychwelodd i Gymru a thaflu ei hun i mewn i dîm criced Morgannwg eto yn 34 mlwydd oed. Roedd yn gapten yno am 14 mlynedd ac arweiniodd y tîm i ennill y Bencampwriaeth yn 1948 diolch i'r cyfuniad o'i frwdfrydedd o'r maes rygbi, ei strategaethau milwrol a'i bersonoliaeth gref. Dros y blynyddoedd daeth nifer i feddwl am enw Wooller a thîm Morgannwg yn gyfystyr â'i gilydd. Roedd yn ysgrifennydd ac yna yn llywydd ar Forgannwg am 36 mlynedd ac roedd hefyd yn ddewiswr i dîm criced Cymru a Lloegr o 1955 i 1961.

Wilfred Wooller yn cyflwyno Sports Parade Roedd ysgrifennu ac yn darlledu yn ystod y cyfnod yma ac yn ddiweddarach, gan gyflwyno rhaglenni chwaraeon a chyfrannu colofn i'r Sunday Times. Roedd yn adnabyddus am ei sylwadau di-flewyn-ar-dafod, ei safbwyntiau cryf (roedd yn ffyrnig dros barhau cysylltiadau chwaraeon gyda De Affrica) a'i bersonoliaeth benderfynol.

Bu farw Wilfred Wooller ar Fawrth 10 1997 yn 84 mlwydd oed. Yn 2001, agorwyd giatiau er cof amdano yng Ngerddi Sophia, cartref tîm criced Morgannwg.

Gyda diolch i Roy Thomas o Wenfo am yr enwebiad

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy