BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
8fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Wayne Hennessey
Wayne Hennessey

Ganwyd: 24 Ionawr 1987

Magwyd: Biwmares

Addysg: Ysgol Gynradd Biwmares ac Ysgol David Hughes


Gôl-geidwad Cymru a Wolverhampton Wanderers.

Wayne sy'n son sut ddaru ei yrfa gychwyn: "Roeddwn wastad yn gôl-geidwad a dweud y gwir, er mi wnes i chwarae fel amddiffynnwr weithiau pan roeddwn yn ifanc.

Roeddwn yn ffan fawr o Everton yn blentyn gan fy mod i wir yn edmygu Neville Southall.. Roedd o'n gôl-geidwad arbennig i Gymru.

Mi wnes i gychwyn chwarae i dîm fy ysgol gynradd, ond pan roeddwn yn fy mlwyddyn olaf daeth sgowt o Manchester United i fy ngweld. 'Da chi byth yn gwybod pwy sy'n gwylio chi mewn gem; daeth dyn o'r enw John Owen draw i siarad efo fi a fy nhad a gofyn os oeddwn efo diddordeb mewn dod i Fanceinion am dreialon gyda'r clwb. Breuddwyd pob pêl-droediwr ifanc!

Mi gefais y cyfle i arwyddo cytundeb i Man U, felly nid oedd yn bosib i mi chwarae i dîm fy ysgol neu un lleol rhag ofn i mi gael anaf. Roedd fy nhad yn wych - yn gyrru mi i Fanceinion bron pob penwythnos.

Yna, mi wnes i symud i Manchester City, gweithio fy ffordd trwy eu hacademi cyn chwarae am y tro gyntaf fel chwaraewr proffesiynol i Wolves. Roedd o mewn gêm rownd gynderfynol i'r 'play-offs' i gyrraedd y Championship, felly 'bach o bwysau arna'i! Er i'r tîm golli, mi wnes i chwarae'n dda a dwi dal yn dewis gyntaf fel gôl-geidwad iddynt, er i mi fod yn eithaf ifanc yn 22.

Rydym am chwarae yn y Premiership rŵan a dwi methu aros. Dwi hefyd yn hapus iawn i fod yn aelod o sgwad Cymru. Mae'r gaffer wedi dweud wrthym ei bod yn teimlo bod gan y chwaraewyr ifanc siawns da o fod yn llwyddiannus, sy'n wych. Rydym yn gwneud yn dda, yn enwedig gyda thri chwaraewr o Wolves yn y tîm! Un o fy nhargedau fel chwaraewr yw cyrraedd pencampwriaeth pêl-droed y byd neu'r Euros.

Y prif beth am chwarae pêl-droed, yn enwedig pan rydych yn ifanc, yw i'w fwynhau. Os oes gennych chi'r dalent, mi wneith o ddangos ei hun. Fel gôl-geidwad proffesiynol, dwi dal yn gorfod ymarfer bopeth; cicio, taflu, croesi'r bêl. Ond y prif beth yw fy mod dal i fwynhau.

Mae fy chwaer dal i fyw yn Llanddona ac mae'n bleser gyrru adref heibio i Fangor a Biwmares. Dwi'n falch iawn o ble dwi'n dod."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy